Ystafelloedd Grŵp Llyfrgell Hugh Owen

Mae nifer o ystafelloedd yn Llyfrgell Hugh Owen sydd ar gael i fyfyrwyr eu harchebu ar gyfer gwaith grŵp.

Er mwyn sicrhau tegwch defnydd, gellir archebu lle:

  • unwaith y dydd
  • am hyd at bedair awr ar y tro
  • hyd at wythnos ymlaen llaw

Mae ystafelloedd wedi'i ddyrannu yn ôl nifer y mynychwyr a'r ystafelloedd sydd ar gael ar adeg archebu.

Gallwch wirio'r dyddiadau a'r amseroedd o archebion presennol i ddod o hyd i slotiau sydd ar gael.

I ganslo eich archeb e-bostiwch gg@aber.ac.uk

 

Eich Diogelwch

I amddiffyn eich hun ac eraill gofynnwn i chi:

  • Defnyddio hylif glanweithiol cyn dod i mewn, ac yn rheolaidd wrth ddefnyddio'r Llyfrgell.
  • Defnyddio'ch Cerdyn Aber eich hun i gael mynediad i mewn ac allan o'r llyfrgell.
  • Peidio â dod i’r Llyfrgell os ydych chi'n sâl.

Byddwn yn sicrhau:

  • Bod staff sydd yn gweithio yn y Llyfrgell yn dilyn arferion hylendid a argymhellir.
  • Bod glanhau rheolaidd yn cael eu gwneud.
  • Bod gorsaf diheintio dwylo ar gael wrth y fynedfa
  • Bod cadachau diheintio ar gael i chi sychu arwynebau yn ôl yr angen