Cofrestru'n Hwyr

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr gofrestru gyda'r Brifysgol. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau ei bod yn cofrestru gyda'r Brifysgol trwy gwblhau'r Dasg Cofrestru Ar-lein trwy ei Gofnod Myfyriwr. 

Cyrsiau Dysgu o Bell

Rhaid i fyfyrwyr Cyrsiau Dysgu o Bell gwblhau Cofrestru Ar-lein erbyn yr amseroedd a nodir, isod:

Math o Fyfyriwr Dyddiad Cwblhau Cofrestru Ar-lein

Myfyrwyr newydd

Rhaid i fyfyrwyr newydd gwblhau cofrestru ar-lein erbyn 14 diwrnod o ddyddiad cychwyn y cwrs ar eich llythyr cynnig.

Myfyrwyr sy'n dychwelyd

Anogir myfyrwyr sy'n dychwelyd i gofrestru ar-lein erbyn 5pm dydd Mercher 23 Medi neu'n gynt ac o fewn 14 diwrnod fan bellaf, ar ôl y dyddiad dechrau blynyddol, sef 21 Medi.

Os na allwch gwblhau'r cofrestriad yn ystod y ffenestr gofrestru, bydd angen i chi gysylltu â'ch adran(nau) academaidd. Unwaith y bydd yr adran yn cadarnhau eich cais cofrestru hwyr, bydd angen i chi gwblhau Tasg Cofrestriad Ar-lein ar eich Cofnod Myfyriwr.

Rhaid i fyfyrwyr gwblhau cofrestriad hwyr erbyn 5yp - dydd Gwener, 2 Hydref fan hwyraf

  • Os na wnaethoch gwblhau'r Dasg Cofrestru Ar-lein erbyn y dyddiad hwn, mae rhaid i chi hysbysu'r Swyddfa Gweinyddu Addysg Myfyrwyr. Manylion cyswllt isod.

  • Os byddwch yn methu â chofrestru erbyn y dyddiad hwn, byddwch yn colli mynediad at e-bost a chyfleusterau eraill y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Os ydych yn cael trafferth i fewngofnodi, awgrymir i chi wirio bod eich cyfrif yn fyw a bod eich manylion mewngofnodi (enw defnyddiwr a chyfrinair) yn gywir ar y dudalen yma: Gweinyddu Fy Nghyfrif : Gwasanaethau TG, Prifysgol Aberystwyth

Os oes angen cymorth arnoch, Gallwch gysylltu â’r Swyddfa Gweinyddu Addysg Myfyrwyr drwy e-bostio:

Sylwch: Nid yw'r Brifysgol yn rhoi caniatâd i gofrestru'n hwyr; mae'n ofynnol i fyfyrwyr gael eu cofrestru ar amser i gadw parhad yr astudiaeth.

Gwybodaeth Bwysig:

Os byddwch yn methu â chwblhau'r cofrestriad erbyn y dyddiadau cau a nodir uchod, mae nifer o oblygiadau:

  • Mae'n bosibl na chewch gofrestru ar gyfer y flwyddyn i ddod.
  • Bydd eich mynediad at gyfleusterau Gwasanaethau Gwybodaeth - cyfrifiaduron a llyfrgell - yn cael ei dynnu'n ôl. Mae hyn p'un a ydych wedi hysbysu'r Brifysgol eich bod yn bwriadu cofrestru'n hwyr. Ni fydd eich mynediad yn cael ei adfer hyd nes y byddwch wedi cwblhau cofrestru.
  • Ni fyddwch yn derbyn taliad o'ch benthyciad na'ch bwrsariaeth hyd nes y byddwch wedi cwblhau'r cofrestriad yn llawn.