Cofnodion Myfyrwyr Dysgu o Bell

COFNOD ASESU 2023/2024

Amgylchiadau Arbennig: Cofiwch roi gwybod i'ch adran[nau] am unrhyw anghenion arbennig (meddygol, personol ac ati) a allai effeithio ar eich perfformiad mewn digon o bryd, a CYN y cyfarfodydd byrddau arholi nesaf.  Gwnewch hyn trwy gwblhau “Ffurflen Amgylchiadau Arbennig” sydd ar gael gan eich Adran drwy ddolen ar eich Cofnod Myfyriwr neu ar y we yma: http://www.aber.ac.uk/cy/academic/special-circumstances/ .  Os ydych yn sâl, mae’n rhaid i chi gyflwyno tystysgrif meddygol.  Bydd yn llawer mwy anodd newid marciau am fodiwlau unwaith y cytunwyd arnynt gan byrddau arholi’r adran ar Senedd.

Canlyniadau Nesaf: Yn dilyn cyfarfodydd y Byrddau Arholi bydd eich canlyniadau ar gael ar eich “Cofnod Myfyriwr” https://studentrecord.aber.ac.uk/cy/login.php ar y we. Bydd y canlyniadau ar gael Dydd Iau 22 Chwefror.

Mae'n bwysig eich bod yn gwirio eich cyfrif e-bost myfyriwr Prifysgol yn rheolaidd gan mai dyma'n aml ein prif ffordd o gysylltu â chi a gweithredu ar unrhyw ohebiaeth a anfonir atoch ynglŷn â'ch perfformiad yn dilyn cadarnhad o'ch canlyniadau. Gallai methu â gwneud hynny arwain at broblemau i chi yn ddiweddarach yn y sesiwn.

Os oes angen cyngor neu gefnogaeth arnoch rydym ar gael trwy e-bost, dros y ffôn (gweler isod) a'r cyfleuster sgwrsio ar y we.

********************

DECHRAU CWRS GYDA NI NAWR, YDYCH CHI WEDI COFRESTRU?

Os ydych chi wedi gwneud hynny, mae’n bwysig eich bod yn gwirio eich Cynllun Astudio, manylion personol, cyfeiriadau cyswllt ar eich ‘Cofnod Myfyriwr’ nawr.

Dylech ymweld â’ch ‘Cofnod Myfyriwr’ yn aml i wneud yn siŵr ei fod yn gywir ac yn gyfredol. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn gwirio eich cyfrif myfyriwr e-bost Prifysgol yn rheolaidd gan mai dyma'n aml ein prif ffordd o gysylltu â chi.

Cofrestru - canllawiau pellach ar gyfer cofrestru

Newid Cynlluniau Astudio

Rhaid i fyfyrwyr lenwi Ffurflen Newid Cofrestriad, sydd ar gael I’w lawrlwytho drwy'r eich Cofnod Myfyriwr. Mae modd cael copi hefyd gan eich adran neu gan y Cofrestrfa Academaidd. Dylech gasglu llofnod yr adran a llofnodi'r ffurflen eich hun cyn ei danfon i'r Cofrestrfa Academaidd er mwyn gweithredu arni. Am unrhyw ymholidau ynglŷn â modiwlau, cysylltwch gyda’ch Adran Academaidd.

Newid Manylion Personol

Gallwch newid eich manylion personol drwy eich Cofnod Myfyriwr, dewiswch ddolen 'Bersonol' ar ben y dudalen. Mae’r mwyafrif o newidiadau yn digwydd yn fuan ar ôl eu cyflwyno fodd bynnag, oni bai am newid new, efallai y bydd angen i'r Cofrestrfa Academaidd weld dogfen brawf ar gyfer yr enw newydd. Os oes angen hyn byddwn y Gofrestra Academaidd yn rhowch wybod pa ddogfennaeth sy’n dderbyniol.

Tynnu’n Ôl o'r Astudiaeth

Os ydych yn ystyried tynnu’n ôl yn barhaol neu dros dro o’r Brifysgol, gallwch chi ddechrau’r broses tynnu’n ol trwy eich cofnod myfyrwir.

Am gyfnod penodol, bydd angen i chi wneud cais am gyfarfod gyda’ch adran academaidd, a hynny trwy eich cofnod myfyriwr ar-lein. Ar gyfer dysgwyr o bell cynhelir cyfarfodydd Academaidd dros y ffon new dimau Microsoft. Yn dilyn y cyfarfod, rhaid I chi gadarnhau eich cais trwy eich cofnod myfyrwir I symud eich cais ymlaen i’r cam cadarnhau cyn ei gwblhau.

Cysylltwch â Ni

Tîm E-bost Ffôn
Gweinyddu Myfyrwyr Dysgu o Bell dlrstaff@aber.ac.uk (01970) 622290 / 622057
Ysgol Graddedigion ysgol.graddedigion@aber.ac.uk 01970 622219

Oriau Swyddfa

Dydd Llun at Dydd Iau 9am i 5pm
Dydd Gwener 9am i 4pm
Ar gau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Cyfeiriad

Cofrestrfa Academaidd,
Prifysgol Aberystwyth,
Adeilad Cledwyn,
Penglais,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3DD

Gwybodaeth Ychwanegol

Cewch wybodaeth ddefnyddiol hefyd ar we-ddalennau eich Adran. Fe'u lluniwyd i roi gwybodaeth penodol i'ch cwrs ac argymhellir eich bod yn bwrw golwg arnynt.