Gweithdrefnau cyflwyno traethodau ymchwil gan gynnwys fersiynau electronig

Mae’n rhaid i’r myfyrwyr lenwi ffurflen bwriad i gyflwyno o leiaf fis CYN y dyddiad y maent yn bwriadu cyflwyno’u traethawd ymchwil. Bydd yr adrannau’n anfon y ffurflenni hyn i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion. Rhaid i’r Swyddfa Astudiaethau Uwchraddedig wedyn gymeradwyo’r arholwyr a enwebwyd.

Ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo bydd y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn cysylltu â’r arholwyr allanol i gael cadarnhad ysgrifenedig ffurfiol eu bod yn fodlon bod yn arholwyr. Heb y cadarnhad hwnnw, ni fydd modd anfon traethodau ymchwil at yr arholwyr.

Bydd y myfyrwyr yn cwblhau’r dogfennau cyflwyno ac yn eu cyflwyno i’w hadran ynghyd â dau gopi o’r traethawd ymchwil a fersiwn electronig ohono. Yna, mae’r adran yn anfon y traethawd ymchwil i’r Gofrestrfa. Sylwer na fydd modd anfon y traethawd ymchwil at yr arholwyr os bydd gan y myfyriwr unrhyw ddyledion i’r Brifysgol. Bydd y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn cynnal gwiriadau ffioedd ac ni fydd angen i’r myfyriwr wneud dim; heblaw bod ganddo/ganddi arian yn weddill i’w dalu.