Gweithdrefn ar gyfer cyflwyno Traethodau Ymchwil i’w haroli (PhD, PhDFA, MPHIL, LLM (Ymchwil)
Bydd y nodiadau canlynol yn ganllaw i chi wrth i chi gwblhau’r ffurflen y bydd ei hangen er mwyn cyflwyno’ch traethawd ymchwil i’w arholi gan Brifysgol Aberystwyth. Mae rhestr wirio wedi’i chynnwys i’ch helpu chi i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl gamau angenrheidiol cyn cyflwyno’ch gwaith.
Wedi’i gynnwys yn y nodiadau hyn mae’r diwyg gorfodol ar gyfer y dudalen datganiad a gosodiadau, y mae’n rhaid ei chynnwys gyda’ch traethawd ymchwil. Dylai cynnwys y dudalen hon gael ei atgynhyrchu fel y mae, ac yna’i lenwi, ei lofnodi a’i gynnwys o fewn rhwymiad y traethawd ymchwil. Ar ddiwedd y ddogfen ceir y daflen Crynodeb rydd i’w chwblhau a’i chyflwyno ynghyd â dau gopi o’ch traethawd ymchwil. Defnyddiwch inc du ar gyfer pob ffurflen.
Os dilynwch y canllawiau yn ofalus ac yn llawn, bydd y Brifysgol yn gallu arholi eich traethawd ymchwil yn brydlon. Darllenwch y canllawiau yn ofalus, eu gwahanu o’r ffurflenni a’r taflenni a’u cadw er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.
-
Rhestr wirio i ymgeiswyr
Dau gopi o’ch traethawd ymchwil wedi’u rhwymo a’u labelu gyda chyfanswm nifer geiriau y traethawd ymchwil, a’r HOLL Ddatganiadau a Gosodiadau wedi eu llofnodi wedi eu cynnwys ym mhob copi rhwymedig
- Un copi o’r traethawd ymchwil cyn yr arholiad llafar wedi’i e-bostio at pgsstaff@aber.ac.uk gydag enw’r ffeil yn cyd-fynd â’r dogfennau cyflwyno
- Un copi o’r ‘Ffurflen Hysbysu Ymgeisyddiaeth’ wedi’i llenwi ar y ddwy ochr
- Un Crynodeb o’r Traethawd Ymchwil wedi’i gwblhau (rhydd)
- Un Crynodeb o’r Traethawd Ymchwil wedi’i rwymo ym mhob copi rhwymedig
Dylid cyflwyno yr holl eitemau a ddisgrifir isod ac uchod i Bennaeth eich Adran/Ysgol/Sefydliad ynghyd â’ch traethawd ymchwil.
- Hefyd dylai ymgeiswyr sydd yn aelodau o’r staff, a phawb sy’n cael ei ailarholi, gynnwys siec yn daladwy i Brifysgol Aberystwyth am y ffi arholi briodol;
- Dylai’r holl fyfyrwyr hefyd sicrhau nad oes ganddynt mwyach unrhyw ymrwymiadau ariannol neu ddyledion i’r Brifysgol a;
- Bod y myfyriwr wedi cwblhau ffurflen bwriad i gyflwyno a’i chyflwyno i’w adran cyn cyflwyno’r traethawd ymchwil.
NODWCH: OS BYDD UNRHYW UN O’R UCHOD YN CAEL EI HEPGOR BYDD OEDI WRTH ARHOLI EICH TRAETHAWD YMCHWIL
-
Canllawiau i ymgeiswyr
Darllenwch y nodiadau hyn ac yna’u datgysylltu a’u cadw cyn i chi gyflwyno eich gwaith a’r dogfennau cefnogol perthnasol sy’n ofynnol.
Terfynau Amser ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil
Dylai eich gwaith gael ei gyflwyno ar, neu cyn, y terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau.
Hyd y Traethawd
Hyd testun y traethawd ymchwil PhD yw uchafswm o 100,000 o eiriau (heb gynnwys atodiadau a chyfeiriadau).
Hyd testun y traethawd ymchwil MPhil/LLM(Ymchwil) yw uchafswm o 60,000 o eiriau (heb gynnwys atodiadau a chyfeiriadau).
Darpariaethau arbennig ar gyfer Cynlluniau yn y Celfyddydau Creadigol
Yn achos ymgeiswyr sy’n dilyn cynlluniau gradd ymchwil cymeradwyedig sy’n syrthio o fewn maes pwnc Celfyddydau Creadigol a Pherfformiadol y Brifysgol, gall y traethawd ymchwil fod ar un neu ragor o’r ffurfiau canlynol: arteffact, sgôr, portffolio o weithiau gwreiddiol, perfformiad neu arddangosfa. Dylid cyflwyno ar y cyd â’r gwaith sylwadaeth ysgrifenedig sy’n gosod y gwaith yn ei gyd-destun academaidd, ynghyd ag unrhyw eitemau eraill a all fod yn ofynnol (e.e. catalog, neu recordiad sain neu weledol).
Dogfen Rydd/Dogfennau Rhydd i’w Cyflwyno gyda’ch traethawd ymchwil (Ffurflen Hysbysu Ymgeisyddiaeth)
Wrth gwblhau’r ddau gopi o’r ‘Ffurflen Hysbysu Ymgeisyddiaeth’ a fydd yn cefnogi cyflwyno eich gwaith, dylech nodi, os byddwch yn cymhwyso ar gyfer eich gradd drwy fodloni’r arholwyr, y bydd yn rhaid i chi gael eich derbyn iddi yn ffurfiol cyn y gallwch dderbyn tystysgrif gradd neu ddefnyddio’r llythrennau priodol ar ôl eich enw. Gallwch ddewis cael eich derbyn i’r radd mewn un o ddwy ffordd:
naill ai
(a) drwy fod yn bresennol mewn cynulliad gradd ffurfiol, lle gwisgir gwisg academaidd a lle mae’n bosibl i rieni/partneriaid fod yn bresennol. Mae cynulliadau yn cael eu cynnal unwaith y flwyddyn ym mis Gorffennaf
neu
(b) in absentia drwy orchymyn Is-Ganghellor y Brifysgol. Gweithdrefn weinyddol yw hon ac ni fyddwch yn bresennol. Bydd tystysgrifau yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl.
Rhaid i chi dicio yr opsiwn yr ydych yn ei ffafrio wrth gwblhau eich ‘Ffurflen Hysbysu Ymgeisyddiaeth’. Nodwch, os ydych yn cael eich derbyn in absentia, na chewch wedyn ddewis graddio mewn cynulliad graddio.
Os ydych chi’n dewis dod i gynulliad graddio, nodwch y bydd yn rhaid ichi gyflwyno eich traethawd ymchwil mewn digon o amser i’r broses arholi a’r gweithdrefnau gweinyddol angenrheidiol gael eu cwblhau. Byddai hyn fel arfer yn golygu cyflwyno eich traethawd ymchwil erbyn dechrau mis Chwefror. Fel arfer bydd yn rhaid i’ch proses arholi fod wedi ei chwblhau yn llawn, gan gynnwys cymeradwyo unrhyw gywiriadau angenrheidiol gan yr Arholwyr, erbyn wythnos gyntaf Mehefin er mwyn ichi fod yn gymwys i’ch cynnwys yn y Seremoni Raddio.
Bydd tystysgrifau yn cael eu cyhoeddi yn ystod wythnos y cynulliadau gradd.
Dogfen Rydd/Dogfennau Rhydd i’w cyflwyno gyda’ch traethawd ymchwil (Taflen Crynodeb Rydd)
Bydd copi rhydd o’r crynodeb o’ch traethawd ymchwil yn cael ei ddefnyddio er mwyn ei gynnwys mewn bas data electronig o grynodebau traethodau ymchwil. Darperir ffurflen ar ddiwedd y llyfryn hwn i chi ei llenwi. Mae’n hanfodol bod y crynodeb yn cael ei deipio gyda gofod sengl rhwng y llinellau a’i fod yn ffitio ar un ochr o’r daflen a ddarparwyd.
Cadwch mewn cof, wrth ysgrifennu eich crynodeb, ei bod yn bosibl mai dyma’r unig ran o’r traethawd ymchwil y bydd gweithwyr ymchwil eraill yn ei ddarllen. Dylid ei ysgrifennu yn y fath fodd fel ei fod yn helpu ymchwilwyr yn yr un maes i benderfynu a ydynt am ddarllen y traethawd ymchwil, ac i roi digon o wybodaeth i ddarllenwyr a chanddynt ddim ond ychydig o gysylltiad â’r pwnc i olygu nad oes angen iddynt ddarllen y gwaith yn llawn. Dylai’r crynodeb fod yn ddarn o ryddiaith gysylltiol ac ni ddylai fod yn hwy na 300 gair o ran ei hyd. Gall fod yn llawer byrrach. Dylid osgoi talfyriadau.
Dogfen Rwymedig/Dogfennau Rhwymedig i’w cyflwyno gyda’ch traethawd ymchwil (Datganiad/Gosodiadau)
Wedi’i chynnwys yn y Canllawiau hyn fe welwch dudalen o’r enw ‘Diwyg Gorfodol y Datganiadau a’r Gosodiadau’. Dylid gosod testun LLAWN y tudalennau hyn ar ddechrau pob un o’r ddau gopi o’ch traethawd ymchwil, heb newid geiriad na chynnwys y Datganiad na’r Gosodiadau. Rhaid llofnodi a dyddio pob Datganiad a Gosodiad.
Mae’r ffurflen hon hefyd yn cynnwys cyfanswm nifer geiriau eich traethawd ymchwil, y mae’n rhaid ei lenwi.
Dogfen Rwymedig/Dogfennau Rhwymedig i’w cyflwyno gyda’ch traethawd ymchwil (Taflen crynodeb rwymedig)
Rhaid i grynodeb rhwymedig o’r traethawd ymchwil heb fod yn hwy na thri chan gair o ran hyd fod wedi’i rwymo yn y traethawd ymchwil.Cyflwyno Traethodau Ymchwil
Rhaid i ymgeiswyr sy’n cyflwyno traethodau ymchwil i’w harholi gyflwyno dau gopi boed mewn rhwymiad dros dro neu mewn rhwymiad parhaol sy’n addas ar gyfer eu hadneuo a’u defnyddio maes o law mewn llyfrgelloedd.
Beth bynnag fo’r math o rwymiad a ddefnyddir at ddibenion arholi:
(a) Rhaid ichi sicrhau bod y rhwymiad yn ddigon cadarn i wrthsefyll cael ei anfon at yr arholwyr ac yn ôl;
(b) Rhaid i’r manylion canlynol ymddangos ar feingefn y traethawd ymchwil, ar ffurf na ellir ei dileu na’i datgysylltu’n hawdd:
- Enw’r ymgeisydd;
- Enw’r Brifysgol (gellir ei dalfyrru i PA);
- Y radd y mae’r traethawd ymchwil yn cael ei gyflwyno ar ei chyfer;
- Teitl llawn neu dalfyredig y traethawd ymchwil; a’r
- Dyddiad cyflwyno.
Dylid argraffu’r wybodaeth hon ar hyd y meingefn yn y fath fodd fel ei bod yn ddarllenadwy pan fydd y gyfrol yn gorwedd yn fflat gyda’r clawr uchaf yn wynebu am i fyny. Os yw’r gwaith yn cynnwys mwy nag un gyfrol, dylid nodi ar y meingefn hefyd rif pob cyfrol.
Rhaid i’r holl gopïau o draethodau ymchwil, boed at bwrpas arholi neu adneuo mewn llyfrgelloedd, gael eu cyflwyno ar ffurf barhaol a darllenadwy mewn teipysgrif neu brint a rhaid i’r llythrennau a ddefnyddir yn y prif destun (ond nid o reidrwydd yn y darluniau, mapiau ac ati) beidio â bod yn llai na 12pt; rhaid i lythrennau a ddefnyddir ym mhob testun arall, nodiadau, troednodiadau ac yn y blaen, beidio â bod yn llai na 10pt. Rhaid i’r teipio fod o ansawdd cyson gyda llythrennau du clir, y gellir eu hatgynhyrchu’n ffotograffig.
Rhaid defnyddio bylchiad dwbl neu un-a-hanner yn y prif destun, ond bylchiad sengl yn y crynodeb ac unrhyw ddyfyniadau wedi’u mewnoli a throednodiadau. Rhaid i ddarluniau a brasluniau fod mewn inc du; rhaid hepgor unrhyw fanylion nad ydynt yn angenrheidiol a rhaid i’r raddfa olygu nad yw’r gofod lleiaf rhwng y llinellau yn llai nag 1mm.
Rhaid i’r holl dudalennau fod wedi’u rhifo’n briodol.
Gellir defnyddio graffeg lliw ar gyfer siartiau, diagramau ac ati, yn ogystal â ffotograffau lliw, ond ym mhob achos rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod modd llungopïo’r deunydd neu ei sganio yn electronig.
Dylid defnyddio papur A4 a dylai fod o ansawdd da ac yn ddigon anhryloyw i’w ddarllen yn y ffordd arferol.Rhaid cyflwyno diagramau, mapiau a dogfennau tebyg mewn portffolio o faint rhesymol a rhaid iddo gynnwys yr un manylion ag sy’n ofynnol ar gyfer y gyfrol.
Caiff ymgeiswyr gyflwyno deunyddiau nad ydynt ar ffurf llyfr megis recordiadau sain neu fideo gyda’u traethawd ymchwil, os yw deunyddiau o’r fath yn ychwanegiad defnyddiol at, neu’n esboniad o, waith sydd wedi’i gynnwys yn y cyflwyniad ysgrifenedig ac os mai deunydd o’r fath yw’r dull mwyaf priodol o gyflwyno'r wybodaeth dan sylw. Dylid amgáu unrhyw ddeunydd o’r math hwn mewn cynhwysydd sydd yn addas ar gyfer ei storio ar silff llyfrgell ac sydd yn dangos yr un wybodaeth ag sy’n ofynnol ar feingefn y traethawd ymchwil, wedi’i gosod fel ei bod yn ddarllenadwy yn rhwydd pan fydd y cynhwysydd yn ei safle storio. Dylai ymgeiswyr sydd yn ystyried cyflwyno tapiau sain neu fideo fel atodiadau i’w traethawd ymchwil ymgynghori â’u goruchwylydd a Llyfrgell y Brifysgol i gael cyngor yn gynnar yn ystod eu hymchwil.
-
Mathau o Rwymo
Rhwymiad Parhaol
Os ydych yn dewis rhwymiad parhaol, dylai eich traethawd ymchwil gael ei rwymo’n barhaol rhwng cloriau, a’r rhwymiad yn fath sefydlog lle mae’r dalennau wedi’u gosod yn barhaol fel mewn llyfr clawr caled, neu mewn rhwymiad clawr meddal gyda gorchudd plastig.
Rhwymiad Dros Dro
Ni ddylid drysu rhwymiad dros dro â dim rhwymiad o gwbl. Nid yw dalennau rhydd mewn ffeil waled yn dderbyniol.
Argymhellir y mathau canlynol o rwymo dros dro:
(a) rhwymiad perffaith
(b) rhwymiad meingefn sbring (cyhyd â bod y ffeiliau heb eu gorlenwi)
(c) rhwymiad plastig ‘llithro-i-mewn’ (o’r math a ddefnyddir i hongian posteri ar waliau) – bydd gofyn cael y wybodaeth am y traethawd ymchwil ar y meingefn o hydNid yw’r mathau canlynol o rwymiad dros dro yn addas, gan y byddai trosglwyddo i rwymiad parhaol wedyn yn cymryd mwy o amser (ac felly yn ddrutach) a byddai’r tudalennau yn y fersiwn parhaol naill ai’n dangos y tyllau yn y tudalennau neu byddai’r tudalennau gryn dipyn yn llai na lled A4 llawn:
(a) rhwymiad troellog
(b) ffeil fodrwy neu ffeil liferRhaid i draethodau ymchwil mewn rhwymiad dros dro allu gwrthsefyll cael eu trin a’u trafod, eu cludo at yr arholwyr ac yn ôl, yn ogystal â’r broses arholi ei hun. Rhaid gofalu bod unrhyw rwymiad dros dro a ddefnyddir yn ddigon cadarn i beidio ymddatod neu ddisgyn yn ddarnau.
-
Canllawiau ar gyfer cyflwyno fersiynau electronig o draethodau ymchwil – gorfodol
O 1 Ionawr 2013 ymlaen, rhaid cyflwyno pob traethawd ymchwil yn electronig yn ogystal ag ar ffurf copi caled cyn arholi. Bydd hyn yn galluogi defnyddio meddalwedd canfod llên-ladrad i wirio’r gwaith, yn ogystal â sicrhau bod copi electronig ar gael yn ystod y broses arholi.
-
Fformat y Cyflwyniad Electronig
Dylai’r fersiwn electronig o’r traethawd ymchwil cyn yr arholiad llafar gael ei anfon ar ebost gan yr adran at pgsstaff@aber.ac.uk pan fydd y copi caled yn cael ei gyflwyno i’r adran. Mae’r fformatau derbyniol yn cynnwys unrhyw fformat electronig sy’n cael ei gydnabod gan y Brifysgol (.doc, .docx, .odt, .txt, .rtf, .pdf, .html). Dylai enw ffeil y traethawd ymchwil ymddangos fel “previva_enw’r traethawd ymchwil_enw’r myfyriwr_dyddiad cyflwyno” (hyd at uchafswm o 255 nod – efallai y bydd angen talfyrru).
Dylai corff y traethawd ymchwil fod mewn un ffeil. Ni ddylai’r ffeil fod yn fwy na 10MB. Os yw’r ffeil yn fwy na’r maint hwn dylech greu ffeil ar wahân ar gyfer delweddau neu gywasgu’r ffeil.
Yn ogystal, rhaid i’r holl ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno copi electronig o fersiwn terfynol y traethawd ymchwil i’w hadran ynghyd â’r copïau caled. Dylai’r fersiwn electronig derfynol fod wedi’i labelu’n glir a dylai’r enw ffeil gynnwys “post viva final_enw’r traethawd ymchwil_enw’r myfyriwr_dyddiad” (hyd at uchafswm o 255 nod – efallai y bydd angen talfyrru) a dylid ei adneuo ynghyd â’r copi caled i Lyfrgell Hugh Owen. Mae angen fersiwn electronig er mwyn cynaeafu metadata, hyd yn oed mewn achosion pan nad yw’r gwaith ar gael drwy Borth Ymchwil Aberystwyth.
Atgoffir adrannau a myfyrwyr na ddylid dehongli cyflwyno’r fersiwn electronig o’r traethawd ymchwil i adrannau fel gwahoddiad i adrannau anfon e-draethodau ymchwil yn uniongyrchol at arholwyr.
-
Anfon y traethawd ymchwil
Wedi ichi gyflwyno’r holl ddogfennau angenrheidiol, bydd eich adran yn anfon y ddau gopi o’ch traethawd ymchwil i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion. Bydd y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn trefnu i’r traethawd ymchwil gael ei anfon i’r arholwyr ynghyd â’r Rheoliadau a’r canllawiau gweithdrefnol perthnasol. Ni chaniateir i fyfyrwyr nac Adrannau Academaidd/Sefydliadau anfon traethodau ymchwil yn uniongyrchol at arholwyr.
-
Y broses arholi
Newidiadau i draethodau ymchwil a gyflwynwyd cyn arholiad llafar:
Ni chaiff ymgeiswyr newid, ychwanegu at na dileu o draethawd ymchwil wedi iddo gael ei gyflwyno ar gyfer ei arholi. Ni cheir dychwelyd traethodau ymchwil a gyflwynwyd at ymgeiswyr i’w gwella cyn i drafodaethau ac argymhelliad ffurfiol y Bwrdd Arholi gael eu cwblhau. Dylai gwaith na ellir ei basio fel y’i cyflwynwyd gael ei fethu a’i ailgyflwyno yn ffurfiol wedi hynny, wedi’i addasu, er mwyn ei ailarholi.
Gofynnir i arholwyr roi gwybod i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn syth os ydynt:
Yn derbyn traethawd ymchwil drafft i ‘roi sylwadau arno a’i ddychwelyd’ cyn cychwyn y broses arholi ffurfiol;
Dylent wrthod yn bendant unrhyw awgrym y dylid dychwelyd traethawd ymchwil i ymgeisydd i’w wella a’i ailystyried cyn i drafodaethau ffurfiol y Bwrdd Arholi gael eu cwblhau.Arholiad Llafar (Cyflwyniad Cyntaf)
Mae arholiad llafar (‘viva voce’) yn orfodol a dylech fod ar gael i gael eich arholi drwy gyfrwng y dull hwn. Fel arfer bydd arholiadau llafar yn cael eu cynnal yn y Brifysgol. Os bu i’r Bwrdd Arholi, wedi’r arholiad llafar, gadarnhau bod gofyn ichi wneud naill ai fân gywiriadau (4 wythnos) neu gywiriadau a newidiadau (6 mis ar gyfer graddau doethuriaeth neu 3 mis ar gyfer Meistr) i’ch traethawd ymchwil a chael cymeradwyaeth eich arholwyr i’r rhain cyn y gellid dyfarnu’r radd, rhaid ichi lynu at y terfynau amser hyn. Rhaid i Adrannau/Sefydliadau roi gwybod i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion am unrhyw fyfyriwr nad ydyw wedi cwblhau’r cywiriadau o fewn yr amserlen ofynnol. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol a phan mae cais ffurfiol gyda thystiolaeth ategol wedi’i wneud i Ysgol y Graddedigion y cymeradwyir estyniadau i’r amserlen gywiro.
Arholiad Llafar (Ailarholi)
Yn achos ailarholi, bydd gofyn cynnal arholiad llafar pellach fel arfer. Os felly, rhaid i chi fod ar gael i fynychu arholiad o’r fath, a gynhelir fel arfer yn y Brifysgol. Dim ond yn achos pasio’n glir neu amgylchiadau eithriadol eraill y gall yr arholiad llafar gael ei hepgor. Y disgwyliad arferol yw bod yn rhaid cynnal yr arholiad llafar er mwyn rhoi cyfle i’r myfyriwr amddiffyn ei waith. Mae gofyn cyflwyno’r dogfennau rhydd a rhwymedig, a’r datganiadau a’r gosodiadau a gynhwysir yn y dogfennau cyflwyno gyda’r gwaith i’w ailarholi. Ni ddylai myfyrwyr gyflwyno nodiadau/llythyrau i’r
arholwyr yn amlinellu’r newidiadau a wnaed i’r gwaith a ailgyflwynwyd. Erys y broses gyflwyno, gan gynnwys anfon y traethodau ymchwil i’r arholwyr, yr un fath ag ar gyfer y cyflwyno cyntaf.
-
Rhwymo’r traethawd ymchwil ar ôl yr arholiad llafar
Wedi i’r arholiad gael ei gwblhau, bydd y Brifysgol yn gofyn i’r arholwyr allanol ddychwelyd traethodau a rwymwyd mewn rhwymiad dros dro yn uniongyrchol i Gadeirydd/Cynullydd y Bwrdd Arholi. Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw rhoi gwybod i’r myfyriwr am y cyfle a’r terfyn amser i gwblhau’r cywiriadau sy’n ofynnol. Lle bo’r ymgeisydd wedi pasio, ond bod angen mân gywiriadau, newidiadau neu gywiriadau teipograffig, dylai’r Cadeirydd/Cynullydd drefnu bod yr ymgeisydd yn gwneud y cywiriadau angenrheidiol ac wedyn bod y ddau gopi o’r traethawd ymchwil yn cael eu rhwymo mewn rhwymiad parhaol ar y ffurf sy’n ofynnol er mwyn eu hadneuo yn y llyfrgelloedd. Pan fydd hyn wedi ei wneud, a’r Cadeirydd/Cynullydd yn fodlon, dylai ef/hi anfon y ffurflen Canlyniad ac Adroddiad a’r ffurflen Cadarnhau Canlyniad ac Adroddiad wedi’u cwblhau at y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion. Rhaid peidio ag anfon y ffurflen nes bod y gwaith wedi ei rwymo’n barhaol.
Rhaid peidio â rhyddhau canlyniadau ymgeiswyr nes bod unrhyw fân gywiriadau neu gywiriadau teipograffig sy’n ofynnol wedi’u gwneud a’r traethawd ymchwil wedi’i rwymo ar y ffurf barhaol sy’n ofynnol yn ôl y rheoliadau i’w adneuo a’i ddefnyddio yn y llyfrgelloedd. Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw gwneud y cywiriadau gofynnol a threfnu bod eu gwaith yn cael ei rwymo. Dylai’r Cynullwyr wirio bod y tasgau hyn wedi’u cyflawni yn foddhaol ac yn brydlon er mwyn osgoi oedi wrth ddyfarnu graddau.
Bydd y Cynullydd/Ysgrifennydd yn adneuo’r copïau wedi’u rhwymo o draethodau llwyddiannus fel a ganlyn:
- 1 copi yn uniongyrchol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
- 1 copi i Lyfrgell y Brifysgol.
Rhaid dileu o’r copïau caled unrhyw nodiadau neu sylwadau ar yr ymylon gan arholwyr mewn traethodau ymchwil cyn iddynt gael eu hadneuo mewn llyfrgelloedd.Yn ogystal â’r cyfrolau mewn rhwymiadau parhaol a roddir yn y llyfrgelloedd, mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fel arfer adneuo copi electronig o fersiwn terfynol y traethawd yng Nghadwrfa Ymchwil Sefydliadol y Brifysgol. Am ragor o wybodaeth a gweithdrefnau anfonwch ebost at: is@aber.ac.uk
Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod traethodau sy’n cael eu hadneuo yn y fath fodd ar gael i gadwrfeydd a chwiliaduron allanol, gan gynnwys casgliad digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chronfa ddata’r Llyfrgell Brydeinig o draethodau ymchwil y DU.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd lofnodi datganiad yn cadarnhau bod cynnwys y copi electronig a roddwyd i’r gadwrfa electronig yn union yr un peth â’r copi a adneuwyd yn y Llyfrgell, a bod yr ymgeisydd wedi cael caniatâd hawlfraint priodol ar gyfer cynnwys unrhyw destun neu ddeunydd gan drydydd parti yn y traethawd ymchwil, fel y bydd modd i’r gwaith gael ei ddefnyddio yn gyfreithlon mewn cadwrfa a chanddi fynediad agored.
Dylai’r deunydd a dderbynnir i’r gadwrfa sefydliadol gydymffurfio â chanllawiau a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Pan fydd gwaharddiad ar fynediad i draethawd ymchwil, ni chaiff ei adneuo yn y gadwrfa electronig mynediad agored nes bod y gwaharddiad hwnnw yn dod i ben.
Dylai cyflwyniadau aflwyddiannus gael eu dychwelyd at yr ymgeisydd wedi i’r broses arholi gael ei chwblhau.
Pan fydd gwaharddiad ar fynediad i draethawd ymchwil, ni chaiff ei adneuo yn y gadwrfa electronig mynediad agored nes bod y gwaharddiad hwnnw yn dod i ben.
Gwahardd Mynediad (Copi caled)
Mae’r Brifysgol yn disgwyl y bydd gwaith ymchwil a dderbynnir ar gyfer gradd uwch ar gael yn agored, ac na fydd yn ddarostyngedig i unrhyw ddosbarthiad diogelwch na chyfyngiadau mynediad.
Fodd bynnag, mewn achosion lle mae angen blaenoriaethol am gyfyngu copïo neu fynediad (er enghraifft, lle mae ymchwil noddedig wedi arwain at draethawd ymchwil sy’n cynnwys gwybodaeth fasnachol-sensitif) gall y Brifysgol, ar argymhelliad arbennig Adran/Sefydliad, osod gwaharddiad ar lungopïo a/neu fynediad i draethawd ymchwil am gyfnod penodol (sydd fel arfer yn dair blynedd yn y lle cyntaf). Cyfrifoldeb eich goruchwlydd yw gwneud cais i’r Adran i geisio gwaharddiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl. Yn ddelfrydol, bydd yr Adran yn gallu anfon argymhelliad ymlaen i’r Brifysgol ar ddechrau cyfnod eich ymgeisyddiaeth, yn dweud y dylid gosod gwaharddiad.
Nodwch, os digwydd bod gwaharddiad ar lungopïo a/neu fynediad yn cael ei ganiatáu gan y Brifysgol, y dylai’r datganiad wedi’i lofnodi sydd i’w gynnwys gyda phob copi o’r traethawd ymchwil a gyflwynir nodi y caiff y traethawd ymchwil fod ar gael yn agored ar ôl diwedd cyfnod y gwaharddiad ar fynediad.
Fel rheol, bydd teitl y traethawd a chrynodeb ohono ar gael.
-