1.2 Wrth Fynd i Mwen i Neuadd yr Arholiad

1. Gan gofio rhifau’r seddi a'r rhes(i), chwiliwch am sedd sydd â phapur cwestiynau arholiad y modiwl cywir ar y ddesg (bydd cod a theitl y modiwl yn ar frig y dudalen). Peidiwch â throi’r papur cwestiynau drosodd ar unrhyw bwynt nes eich bod yn cael cyfarwyddyd i wneud hynny – gallai gwneud hynny gael ei ystyried yn Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Eisteddwch a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y pethau canlynol:
 

i) Sicrhau’n derfynol eich bod yn eistedd wrth y papur arholiad cywir. Holwch aelod o staff yr arholiad os ydych yn ansicr. Gwnewch yn siŵr bod cod a theitl y modiwl yn gywir. Os bydd angen i chi symud, sicrhewch eich bod yn gadael y papur cwestiynau lle y mae e. Dim ond eich eitemau personol y dylech fynd â nhw gyda chi wrth symud i ddesg arall.    

ii) Llenwch y paneli gwybodaeth ar flaen y llyfr atebion. Bydd hyn yn cynnwys eich rhif myfyriwr, felly cyfeiriwch at eich Cerdyn Aber os bydd angen.

iii) Rhowch eich enw yn y gornel dde uchaf, fel a nodir. Dyma’r hyn a elwir yn ‘banel anhysbysrwydd’ sy’n cael ei blygu drosodd a’i ludo i lawr. Bydd label yn cael ei ddarparu ichi. Fel hyn y caiff eich papur ei farcio’n ddi-enw.

iv) Hefyd rhaid llenwi’r papur ‘Presenoldeb’ glas ar y ddesg, gan roi’r holl fanylion y gofynnir amdanynt. Bydd staff yr arholiad yn casglu’r papur ‘Presenoldeb’ yn fuan ar ôl i’r arholiad ddechrau, felly rhaid ei lenwi ar unwaith ar ôl eistedd. Ar ôl ei lenwi, gadewch y papur ar gornel eich desg ynghyd â’ch Cerdyn Myfyriwr Aber.

2. Rai munudau cyn i’r arholiad ddechrau, darllenir y ‘Cyhoeddiadau Cychwynnol’ allan yn ddwyieithog.  Cofiwch wrando a gweithredu arnynt. Ni ddylech droi’r papur cwestiynau drosodd na dechrau ysgrifennu yn eich llyfr atebion, o dan unrhyw amgylchiadau, tan i’r ‘Cyhoeddiadau Cychwynnol’ orffen a’ch bod wedi cael cyfarwyddyd ei bod yn iawn i chi ddechrau.