1.1 Beth yn union sy’n cael ei ystyried yn Ymddygiad Academaidd Annerbyniol ac am beth fydd y staff arholi yn chwilio?

Yn ogystal â’r enghreifftiau a ddyfynnir ym mhwynt 2.2(iv) y Rheoliad ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol o rai o’r pethau sydd wedi arwain at honiadau o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn erbyn ymgeiswyr mewn arholiadau:

  • Nodiadau wedi’u hysgrifennu neu eu printio ar ddarnau bach o bapur. Dyma’r math mwyaf cyffredin o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.  Mae’n ddigon bod â’r rhain yn eich meddiant, ond mae myfyrwyr hefyd yn aml yn cael eu dal yn edrych arnynt;
  • Nodiadau wedi’u hysgrifennu ar offer cynorthwyol a ganiateir – er enghraifft, pren mesur, cas pensiliau, cas sbectol, gorchudd neu gefn cyfrifianellau, offer ysgrifennu, cerdyn adnabod myfyrwyr;
  • Nodiadau wedi’u hysgrifennu mewn testunau a ganiateir y mae myfyrwyr yn dod â nhw i neuadd yr arholiad;
  • Nodiadau wedi’u hysgrifennu yn y ‘mannau gwyn’ neu ar gloriau testunau a ganiateir y mae myfyrwyr yn dod â nhw i neuadd yr arholiad;
  • Nodiadau wedi’u hysgrifennu ar bapur, corneli tudalennau wedi’u plygu i lawr, neu nodiadau ‘post-it’ a ganiateir mewn testunau y mae myfyrwyr yn dod â nhw i neuadd yr arholiad;  
  • Nodiadau wedi’u hysgrifennu ar rannau’r corff – dwylo, bysedd a gwaelod y fraich gan amlaf;
  • Nodiadau neu rifau wedi’u gosod ar gof cyfrifiannell;
  • Bod â ffôn symudol neu ddyfais electronig fach arall, gan gynnwys oriawr glyfar, yn eich meddiant yn yr ystafell arholiad;
  • Nodiadau wedi’u cadw ar unrhyw fath o gof ar ffôn symudol, iPod, iPad, oriawr glyfar, neu ddyfais electronig o fath arall (ceir gwybodaeth bellach am ddyfeisiau electronig o dan bwynt 3 isod);
  • Acronymau neu aides memoir wedi’u hysgrifennu neu eu cuddio ar/yn unrhyw un o’r uchod;
  • Cyfathrebu electronig anghyfreithlon ag eraill y tu allan i’r ystafell arholiad;
  • Gwybodaeth ychwanegol anawdurdodedig ar ffotograffau neu ddelweddau a ganiateir;
  • Gwybodaeth ychwanegol anawdurdodedig yn/ar lyfryddiaethau a ganiateir;
  • Gwybodaeth ychwanegol anawdurdodedig ar daflenni o bapur wedi’u cuddio o fewn testunau a ganiateir;
  • Cadw ‘nodiadau’ neu ‘gardiau adolygu’ yn eich meddiant yn yr ystafell arholiad heb ganiatâd;
  • Nodiadau wedi’u cuddio rhywle ar eich corff i gyfeirio atynt yn ystod ymweliadau â’r toiled;
  • Nodiadau wedi’u cuddio ymlaen llaw mewn ciwbicl toiled;
  • Defnyddio’r rhyngrwyd heb awdurdod yn ystod unrhyw arholiad;
  • Mynd i mewn i’r ystafell arholiad yn gyflym, edrych ar y papur arholiad ac yna mynd allan i’r ystafell gotiau i ddarllen nodiadau cyn bod yr ymgeiswyr eraill wedi eistedd;
  • Cyfathrebu rhwng ymgeiswyr – rhwng parau neu grwpiau o ffrindiau gan amlaf;
  • Dod ag atebion cyflawn i’r arholiad wedi’u hysgrifennu ymlaen llaw a’u gosod yn lle rhannau mewnol y llyfrynnau arholiad;
  • Dechrau ysgrifennu yn y llyfr atebion cyn i staff yr arholiad ddatgan bod yr arholiad wedi dechrau;
  • Parhau i ysgrifennu yn y llyfr atebion ar ôl i chi gael cyfarwyddyd i orffen ysgrifennu ar ddiwedd yr arholiad;
  • Peidio â chydymffurfio â'r cyfarwyddiadau llafar a roddir gan staff yr arholiadau, ar unrhyw fater, ond yn benodol yng nghyswllt dechrau a therfynu'r arholiad;
  • Ffugio bod yn ymgeisydd arall.

Mae Goruchwylwyr y Brifysgol wastad yn cadw golwg fanwl am bob un o’r rhain.

Sylwch nad yw’r rhestr hon  o enghreifftiau yn gynhwysfawr ac ystyrir bod unrhyw ddeunydd neu gyfathrebu anawdurdodedig yn Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.