Rhag-Gofrestru

Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a cynlluniau ar y cyd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear:
 
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd. 

Bydd yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn cyhoeddi manylion Rhag-gofrestru ar safle y Bwrdd Du y modiwl ‘Gwybodaeth i Israddedigion – Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear’. Bydd ar gael o ddydd Llun 14 Medi ymlaen. O fewn y modiwl bydd ffolder ‘Rhag-gofrestru’ a fydd yn cynnwys gwybodaeth ar gynlluniau astudio a gofynion y modiwlau ar gyfer 2026/27.  Dylech ddewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio’r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 21 Medi.

At sylw Myfyrwyr y Flwyddyn Gyntaf:  Ym Mlwyddyn 1, mae'r rhan fwyaf o gynlluniau 3 blynedd a chynlluniau 4 blynedd (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant/blwyddyn yn astudio dramor) ADGD yn cynnwys modiwlau craidd yn llwyr, ond bydd angen i chi ddewis fersiwn Saesneg neu Gymraeg o rai o’r modiwlau. Mae yna rai cynlluniau lle mae modiwlau dewisol ar gael, felly edrychwch ar fanylion eich cynllun yn ofalus yma.

Cofiwch gysylltu gyda’ch tiwtor personol os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â Rhag-gofrestru, bydd y tiwtoriaid personol ar gael i gynnal cyfarfodydd unigol trwy Microsoft Teams neu i drafod cwestiynau trwy e-bost. Mae modd hefyd i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r adran trwy anfon e-bost at dgostaff@aber.ac.uk.