Rhag-Gofrestru
Adran Hanes a Hanes Cymru
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chyfun yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru :
Bydd yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn cyhoeddi manylion Rhag-gofrestru ar safle y Bwrdd Du o dan 'Mudiadau', yn y ffolder ‘Gwybodaeth Israddedig: Adran Hanes a Hanes Cymru'. Bydd ar gael o ddydd Llun 14 Medi ymlaen. O fewn y modiwl bydd ffolder ‘Rhag-gofrestru’ a fydd yn cynnwys gwybodaeth ar gynlluniau astudio a gofynion y modiwlau ar gyfer 2026/27. Dylech ddewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio’r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 21 Medi.
Cofiwch gysylltu a'r Tiwtor Rhan Un, Dr Arddun Arwyn (aha08@aber.ac.uk), o ddydd Llun 14 Medi ymlaen os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â Rhag-gofrestru. Mae modd hefyd i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r adran trwy anfon e-bost at hisstaff@aber.ac.uk.
