Rhag-Gofrestru
Adran Ieithoedd Modern
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl, cynlluniau ar y cyd a chynlluniau Prif-Bwnc/Is-Bwnc yn yr Adran Ieithoed Modern.
Gwneir eich cofrestriad mewn dau gam: Rhag-gofrestru a Chofrestru
Bydd yr Adran Ieithoedd Modern yn cyhoeddi canllawiau Rhag-gofrestru ar safle Blackboard y modiwl ‘DEPT-D-UG-O: Modern Languages Undergraduate Information’.
Bydd y canllawiau ar gael o ddydd Llun 18 Medi. O fewn y modiwl ceir ffolder o’r enw ‘Rhag-gofrestru y Flwyddyn Gyntaf’ a fydd yn cynnwys fideo ymgynghorol a gwybodaeth ddefnyddiol arall ar gyfer eich dewis o fodiwlau.
Dylech ddewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio’r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 25 Medi.
Os oes unrhyw gwestiwn ynglŷn â Rhag-gofrestru cofiwch gysylltu gyda’ch tiwtor personol neu’r cydlynwyr modiwlau. Bydd eich tiwtoriaid ar gael i gynnal cyfarfodydd unigol trwy Microsoft Teams neu i drafod cwestiynau trwy e-bost.
Mae croeso hefyd i chi gysylltu’n uniongyrchol gyda’r adran trwy e-bostio tiwtor Rhan 1 Alex Mangold arm@aber.ac.uk neu modernlangs@aber.ac.uk.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol, dylech gysylltu â: Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr, Y Gofrestrfa Academaidd, Ffôn: 628515/622787
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk