Rhag-Gofrestru
Adran Ffiseg
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran Ffiseg:
Bydd yr adran Ffiseg yn cyhoeddi manylion Rhag-gofrestru ar safle y Bwrdd Du y modiwl ‘DEPT-T-UG Gwybodaeth Israddedig: Ffiseg / Undergraduate Information: Physics’. Bydd ar gael o ddydd Llun 15 Medi ymlaen. O fewn y modiwl bydd ffolder ‘Rhag-gofrestru’ a fydd yn cynnwys gwybodaeth ar gynlluniau astudio a gofynion y modiwlau ar gyfer 2025/26. Dylech ddewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio’r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 22 Medi.
Cofiwch gysylltu gyda’ch tiwtor personol os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â Rhag-gofrestru, bydd y tiwtoriaid personol ar gael i gynnal cyfarfodydd unigol trwy Microsoft Teams neu i drafod cwestiynau trwy e-bost. Mae modd hefyd i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r adran trwy anfon e-bost at fbrstaff@aber.ac.uk.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau cyffredinol am Rhag-gofestru at:
Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr, Y Gofrestrfa Academaidd Ffôn: 628515/622787 E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk