Rhag-Gofrestru

Adran Ffiseg

Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
 
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran Ffiseg:
 

Bydd yr Adran Ffiseg yn gosod cyngor ar gyfer Rhag-gofrestru ar safle Blackboard y modiwl ‘DEPT-T-UG-O: Physics Undergraduate Information’. Bydd y cyngor hwn ar gael o ddydd Llun 18 Medi ymlaen. Mae gan y modiwl hwn ffolder o'r enw 'Welcome Week' sy'n cynnwys gwybodaeth berthnasol i bob grŵp blwyddyn ac sy'n cynnwys gwybodaeth ymgynghorol ar gynlluniau astudio a gofynion modiwlau ar gyfer 2023/24. Bydd y ddolen ganlynol yn mynd â chi i'r lle priodol yn system Blackboard  

Welcome Week – Physics Undergraduate Information ... (aber.ac.uk) 

Ar ôl i chi ddilyn y ddolen, bydd angen i chi roi eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth i gael mynediad i'r system. 

Yna byddwch yn dewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr (https://studentrecord.aber.ac.uk/cy/) gan ddefnyddio'r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd dydd Llun 25 Medi. 

Cofiwch y gallwch gysylltu gyda'ch tiwtor personol, y tiwtor blwyddyn neu gydlynydd y modiwl os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â Rhag-gofrestru. Bydd eich tiwtoriaid ar gael i gynnal cyfarfodydd unigol trwy Microsoft Teams neu i drafod cwestiynau trwy anfon e-bost at phys@aber.ac.uk

 

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau cyffredinol am Rhag-gofestru at:

Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr, Y Gofrestrfa Academaidd Ffôn: 628515/622787    E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk