Rhag Gofrestru
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion Rhag-Gofrestru hefyd.
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu:
Bydd yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnal cyfarfodydd Rhag-gofrestru arlein trwy Microsoft Teams yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn y 7fed o Fei, a bydd myfyrwyr blwyddyn 1af yn derbyn gwybodaeth trwy ebsot gan eu Cyd-gysylltwyr Gradd am y cyfarfodydd hyn yn ystod wythnos y 31in o Awst. Bydd Cyd-gysylltwyr Gradd hefyd ar gael i gynnal cyfarfodydd unigol trwy Microsoft Teams neu mae modd ateb eich cwestiynnau trwy ebost.
Bydd yr Adran yn cyhoeddi manylion Rhag-gofrestru ar safle y Bwrdd Du y modiwl ‘Gwybodaeth i Israddedigion: Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu’. Bydd ar gael o ddydd Llun 14 Medi ymlaen. O fewn y modiwl bydd ffolder ‘Rhag-gofrestru’ a fydd yn cynnwys gwybodaeth am gynlluniau astudio a gofynion y modiwlau ar gyfer 2026/27. Dylech ddewis eich modiwlau yn eich cofnod myfyriwr gan ddefnyddio’r dasg Rhag-gofrestru erbyn diwedd y dydd, dydd Llun 21 Medi.
Cofiwch gysylltu gyda’ch Tiwtor Personol neu Cyd-gysylltydd Gradd os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â Rhag-gofrestru. Mae modd hefyd i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r adran trwy anfon e-bost at tfts@aber.ac.uk
