Rhag-Gofrestru
Gwybodaeth Pwysig ar gyfer Rhag-Gofrestru 2026/2027
DARLLENWCH Y NODIADAU HYN YN OFALUS CYN SYMUD YMLAEN
Gwybodaeth Gyffredinol
1. Mae angen i’r holl fyfyrwyr sy’n dychwelyd gofrestru eu dewisiadau modiwl ar gyfer 2026/2027 ar ddechrau tymor yr haf.
DS. Ni fydd angen i’r grwpiau canlynol o fyfyrwyr gwblhau’r broses o rhag gofrestru oherwydd cymeradwyir eu modiwlau yn awtomatig:
• Myfyrwyr sydd yn mynd ar flwyddyn ryng-gwrs neu dramor sydd yn rhan hanfodol o’u gradd;
• Myfyrwyr sydd yn cymryd cyfanswm o 120 credyd o fodiwlau craidd
2. Gallwch weld manylion eich cynllun astudio a’ch modiwlau craidd ar gyfer 2026/2027 yn eich Cofnod Myfyriwr ar y we. Mae’n hanfodol eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer eich adran(nau) gan fod gofynion adrannau unigol yn aml yn amrywio.
3. Rhennir y cyfnod Rhag Gofrestru yn ddwy ran: Cyfnod Ymgynghori a Cyfnod Cofrestru ar Fodiwlau.
- Mae'r Cyfnod Ymgynhori yn rhedeg o Ddydd Llun, 20 Ebrill tan Ddydd Mercher, 22 Ebrill. Yn ystod y cyfnod yma bydd cyfle i chi edrych ar ddata’r sesiwn nesaf, ond ni fydd modd i chi gofnodi eich modiwlau dewisol.
- Mae'r Cyfnod Cofrestru ar Fodiwlau yn rhedeg o Ddydd Iau, 23 Ebrill tan Ddydd Gwener, 01 Mai. Yn ystod y cyfnod yma, bydd eich cofnod yn cael ei ddatgloi i’ch galluogi i gofnodi eich dewision yn dilyn trafodaethau gyda’r adran(nau).
4. Dylech edrych ar y Cynlluniau Astudio a’r Modiwlau a'r y we er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni gofynion yr adrannau ac yn cofrestru am y modiwlau perthnasol.
5. Dylech wirio’r gofynion adrannol ar gyfer cofrestru amodol, gan sicrhau eich bod yn mynd i unrhyw gyfarfodydd cyn cofnodi eich dewis o fodiwlau ar gyfer y sesiwn nesaf yn uniongyrchol yn eich cofnod ar y we.
6. Mae’n rhaid i chi sicrhau nad yw cyfanswm y credydau a gofnodir yn eich cofnod yn uwch na’r nifer y mae gofyn i chi eu hastudio. Bydd y mesurau gwirio isod ar waith:
• Ni fyddwch yn gallu tynnu unrhyw fodiwlau craidd o’ch cofnod. Os oes amgylchiadau arbennig sy’n golygu na fyddwch yn dilyn modiwl craidd y sesiwn nesaf dylech cysylltu â’ch adran;
• Ni fyddwch yn gallu cofnodi modiwlau yr ydych wedi eu hastudio eisoes;
• Ni ddylech rhannu eich credydau yn fwy na 70:50 / 50:70 rhwng y ddau semester;
• Os byddwch yn cynnwys modiwl yn y semester anghywir bydd yn cael ei symud yn awtomatig i’r semester cywir;
• Ni fydd y system yn caniatáu i chi gofnodi rhagor na’r nifer o gredydau y mae’n ofynnol i chi eu dilyn y sesiwn nesaf.
7. Rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cofnodi eich holl ddewisiadau erbyn DYDD GWENER 01 MAI fan bellaf. Wedi i’ch adran(nau) gadarnhau eich dewisiadau byddwch yn cael e-bost i gadarnhau bod hyn wedi’i wneud. Byddwch yn gallu gweld eich modiwlau ar gyfer y sesiwn nesaf ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we o dan y cerdyn "Fy Nghyrsiau": o'r ddewislen ostwng, dewiswch y sesiwn 2026/27 (yr opsiwn sy'n dechrau "2027").
Myfyrwyr sydd eisiau Newid Cynllun Astudio.
8. Os ydych chi am newid eich cynllun astudio yn y sesiwn nesaf, rhaid i chi ei drafod gyda'ch adran yn gyntaf, ac yna prosesu cais Newid Cofrestriad ar y we trwy eich Cofnod Myfyriwr. RHAID i’ch Newid Cofrestriad cael ei gymeradwyo a’i phrosesu CYN y gallwch chi barhau â’r broses Rhag-Gofrestru. Sylwch nad yw Newid Cofrestriad ar-lein yn bosib os nad ydych chi wedi dilyn y modiwlau craidd a dewisol ar gyfer eich cynllun newydd o'r blaen.
I wneud cais Newid Cofrestriad, ewch i'r cerdyn "Gwneud Newidiadau i Fy Nghwrs" ar eich Cofnod Myfyriwr, yna dewiswch "Rwyf am newid fy nghynllun neu fy modiwlau". Dylai ffenestr naid ymddangos i'ch ailgyfeirio i sgrin wahanol. O'r fan hon, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar y dudalen Newid Cynllun Astudio neu Fodiwl.
9. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ac/neu eich noddwr ariannol Lleol cyn gynted ag y bo’r newid wedi’i gymeradwyo er mwyn sicrhau y bydd eich arian yn cael ei drosglwyddo’n ddidrafferth cyn dechrau’r sesiwn.
Myfyrwyr sy'n cymryd Blwyddyn Allan
10. Bydd myfyrwyr sy’n mynd ar flwyddyn ryng-gwrs/dramor y sesiwn nesaf yn gweld bod modiwlau gwerth 120 credyd yn eu cofnod eisoes. Modiwlau blwyddyn mewn gwaith yw’r rhain sy’n dangos y byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr amser llawn. Cymeradwyir eich modiwlau yn awtomatig, fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn cwblhau y dasg Cofrestri Ar lein ym mis Medi i gadarnhau eich bod yn cychwyn ar eich lleoliad . Byddwch yn gallu cofrestru ar-lein drwy eich Cofnod Myfyriwr o'r tu allan i'r fewnrwyd y Brifysgol ym mis Medi.
11. Os ydych yn bwriadu treulio Blwyddyn mewn Gwaith (cynllun BGM) y sesiwn nesaf dylech glicio’r a'r yr opsiwn priodol o'r rhestr cwymp i ddangos beth yw eich bwriad.
12. Os ydych yn bwriadu mynd ar leoliad Cyfnewid y sesiwn nesaf dylech glicio’r a'r yr opsiwn priodol o'r rhestr cwymp i ddangos beth yw eich bwriad. Os mai dim ond am un semester byddwch ar leoliad dim ond 60 credyd y dylech eu cofnodi yn y semester pan fyddwch yn Aberystwyth.
13. Dylai myfyrwyr sydd eisiau seibiant o’u hastudiaethau e.e. ar seiliau personol neu feddygol, ymgynghori â’u hadran(nau) a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymorth cyn prosesu Cais i Ymadael ar eich Cofnod Myfyriwr.
