Ynglŷn â ni

Llun o Y Sgubor lle mae'r Swyddfa Llety wedi'i lleoli.

Rydym wedi ein cyflwyno'n llawn i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i chi ac edrychwn ymlaen at eich ymweliad, yn bersonol a thrwy ein gwefan.  Mae ein staff proffesiynol ar gael yn bersonol a thrwy e-bost neu dros y ffôn.  Mae croeso i chi gysylltu â ni gyda'ch ymholiad neu neu ymweliad â'n desgiau derbyn.

Gall Tîm y Swyddfa Llety, o fewn Ystadau, Cyfleusterau a Preswyfeydd, eich helpu gyda unrhyw ymholiadau cyffredinol ynghylch eich llety a gallwch gysylltu â ni drwy'r ffyrdd canlynol:

Ffôn: 01970 622900 - llinell Gymorth 24/7 y Brifysgol - mae ffôn ym mynedfa pob adeilad (neu yn y bloc cymunedol yn PJM) a fydd yn eich cysylltu â’r rhif hwn.

Ffôn: 01970 622984 yn ystod oriau swyddfa (8:30yb-5:00yp dydd Llun i dydd Iau a 8.30yb-4.00yp dydd Gwener)

E-bost: llety@aber.ac.uk.

Yn bersonol: Ewch i’r Swyddfa Llety, Y Sgubor, Fferm Penglais (Ar agor rhwng 8.30yb-5.00yp o dydd Llun i dydd Iau a 8.30yb -4.00yp dydd Gwener).

Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook

Am rhagor o wybodaeth gweler:

Mae ein Tîm Diogelwch, o fewn Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd ar gael 24/7 ac yn darparu derbynfa gellir cysylltu â  nhw drwy’r ffyrdd canlynol:

Ffôn: 01970 622649 – Llinell Gymorth Prifysgol 24/7 - mae ffôn ym mynedfa pob adeilad (neu yn y bloc cymunedol yn PJM) a fydd yn eich cysylltu â’r rhif hwn.

Yn bersonol: Ewch i'r Y Tîm Diogelwch wedi’u lleoli yn Nerbynfa Campws Penglais (Ar agor 24/7).

Os byddwch chi angen Ambiwlans, yr Heddlu, y Frigâd Dân neu Wylwyr y Glannau dylech ffonio’r Gwasanaethau Brys ar unwaith ar:

Ffôn allanol - 999.

Ffôn mewnol - 222.

Yr ysbyty agosaf yw Ysbyty Cyffredinol Bronglais, ar Riw Penglais, tua 0.4 milltir o’r prif gampws.

Mae eich gwybodaeth bersonol yn werthfawr ac rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Mae Ystadau, Cyfleusterau a Preswylfeydd yn casglu, cofnodi, defnyddio, ac mewn rhai achosion, yn rhannu’r wybodaeth bersonol sydd gennym am ddefnyddwyr ein gwasanaethau amrywiol at y dibenion a fwriadwyd wrth gasglu’r wybodaeth. Mae Ystadau, Cyfleusterau a Preswylfeydd yn ymroddedig i ddiogelu a gwarchod preifatrwydd ein defnyddwyr drwy gydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

Nid yw’r ffordd yr ydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel a saff wedi newid; ond mae ein polisïau’n ei gwneud hi’n haws i chi ddeall pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw a sut yr ydym yn ei defnyddio, er enghraifft:

• Yr wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi, gan gynnwys pryd a pham yr ydym yn gwneud hynny.
• Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth.
• Gan bwy y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi.
• Am ba hyd y cedwir eich gwybodaeth.
• Sut yr ydym yn gweithredu o fewn y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn unig, wrth gasglu a phrosesu gwybodaeth.

 I gael rhagor o wybodaeth ewch i weddalen Gwybodaeth am ddiogelu data.