Sut mae gwneud cais

Mae Prifysgol Aberystwyth yn berchen ar, neu’n rheoli, oddeutu 3,500 o ystafelloedd yn ei neuaddau preswyl.

 

 

Pryd y galla i wneud cais am lety?

Bydd y dyddiadau y bydd ceisiadau am lety yn agor i'w gweld ar ein tudalen Myfyrwyr Newydd, neu os ydych eisoes yn fyfyriwr, ar ein tudalen Myfyrwyr Presennol.

Pan fyddwch yn mewngofnodi i'r Porth Llety, gofynnir i chi ddewis eich ystafell. Felly, cyn i chi wneud cais am lety, ewch ati i fwrw golwg dros y gwahanol opsiynau sydd gennym ar ein tudalen Opsiynau Llety. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys ystafelloedd safonol lle byddwch yn rhannu'r ystafell ymolchi ag eraill, ystafelloedd en-suite a stiwdios sydd ar wahân i bawb arall.

Sut mae gwneud cais am lety?

Cam 1 - Y Porth Llety

Mewngofnodwch i'r Porth Llety lle cewch hyd i'n ffurflen gais ar-lein.

Mae'r Porth Llety yn wasanaeth ar-lein sy'n caniatáu ichi wneud cais am lety ym Mhrifysgol Aberystwyth a chael lle mewn llety.

Gallwch fewngofnodi drwy ddilyn y cyfarwyddiau sy’n berthnasol i chi:

  • Myfyrwyr Israddedig Newydd - cliciwch ar ‘Cofrestru’ er mwyn cofrestru eich  manylion gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost personol a’ch dyddiad geni.  Defnyddiwch yr un cyfeiriad ebost a ddefnyddioch i wneud cais am eich cwrs. Dim ond os ydych wedi nodi mai Aberystwyth yw eich Dewis Cadarn neu eich Dewis Wrth Gefn y byddwch yn gymwys i wneud cais am lety yn y Brifysgol.
  • Myfyrwyr Uwchraddedig Newydd - cliciwch ar ‘Cofrestru’ er mwyn cofrestru eich  manylion gan ddefnyddio eich cyfeiriad ebost personol a’ch dyddiad geni. Dim ond os byddwch wedi cael cynnig lle i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth y byddwch yn gymwys i wneud cais am lety yn y Brifysgol.
  • Myfyrwyr Presennol - gallwch fewngofnodi gyda'ch cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth drwy glicio ar fotwm 'Mewngofnod Myfyriwr ABER'.
  • Myfyrwyr Erasmus a Chyfnewid -  Dim ond pan fyddwch wedi bodloni holl amodau eich cynnig academaidd, a phan fyddwch wedi rhoi eich cyfri TG Prifysgol Aberystwyth ar waith (mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon e-byst at fyfyrwyr i'w gwahodd i wneud hyn o fis Gorffennaf ymlaen), y byddwch yn gymwys i wneud cais am lety yn y Brifysgol.  Gallwch wedyn fewngofnodi gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.
  • Myfyrwyr TAR - Dim ond pan fyddwch wedi bodloni holl amodau eich cynnig academaidd, a phan fyddwch wedi rhoi eich cyfri TG Prifysgol Aberystwyth ar waith (mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon e-byst at fyfyrwyr i'w gwahodd i wneud hyn o fis Gorffennaf ymlaen), y byddwch yn gymwys i wneud cais am lety yn y Brifysgol.  Gallwch wedyn fewngofnodi gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.

Cam 2 - Dewis Ystafell

Dewiswch y cyfnod yr hoffech ymgeisio amdano, e.e. 'Llety Prifysgol Aberystwyth - Blwyddyn Academaidd 2023/24.'

Dewiswch eich neuadd a hyd y contract.

Byddwch yn gallu dewis rhywedd eich fflat a'ch ystafell.

Cam 3 - Ffurflen Gais

Os ydych wedi cael cynnig Cadarn Diamod gallwch barhau gyda'r cais.

Eich Manylion Personol

Gwnewch yn siŵr bod eich manylion yn gywir.

Ar ôl i'ch lle astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth gael ei gadarnhau, bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn anfon cyfarwyddiadau atoch er mwyn ichi roi eich cyfri TG ar waith o fis Gorffennaf ymlaen.

Dylech roi eich cyfri TG ar waith cyn gynted ag y cewch eich gwahodd i wneud hynny, a hynny fel na fydd oedi wrth i'r Brifysgol drefnu llety ar eich cyfer. 

Ar ôl ichi roi eich cyfri TG ar waith, byddwch yn gallu mewngofnodi trwy ddefnyddio'r linc ar gyfer Myfyrwyr ABER.  Bydd pob gohebiaeth yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad e-bost hwn, felly mae'n bwysig eich bod yn agor eich e-byst yn rheolaidd.

Hygyrchedd, Anableddau ac Iechyd 

Os oes gennych  ofynion penodol o ran cael mynediad i adeiladau, rhowch wybod. 

Bydd gofyn ichi gysylltu â'r Tîm Gwasanaethau Hygyrchedd a darparu tystiolaeth briodol i gefnogi'ch cais.

Efallai y byddwch yn cael eich symud i ystafell fwy priodol os argymhellir hynny yn eich asesiad hygyrchedd.

Manylion eich archeb

Gwnewch yn siŵr bod manylion eich archeb yn gywir a dewiswch eich cynllun talu, os oes angen.

Contract Meddiannaeth

Mae'r Contract Meddiannaeth yn gontract cyfreithiol rhyngoch chi a'r Brifysgol sy'n gosod eich rhwymedigaethau a rhwymedigaethau'r Brifysgol.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall y telerau ac amodau.

Ffi Dderbyn

Gwnewch yn siŵr fod gennych gerdyn credyd neu ddebyd yn barod i dalu'r ffi dderbyn sy'n cyfateb â rhent 7 noson.

Cerdyn Aber

Os ydych yn Fyfyriwr Newydd, gofynnir i chi wneud cais am eich Cerdyn Aber ar lein er mwyn iddo fod yn barod erbyn i chi gyrraedd.

Os ydych yn dychwelyd i'r Brifysgol ac wedi colli eich Cerdyn Aber, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i'r adran Gwasanaethau Gwybodaeth drwy ebosto is@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 622400.

Mae Llyfrgell Huw Owen yn gallu dosbarthu Cardiau Aber newydd.

Cysylltu gyda'ch Cyd-letywyr

Os hoffech gysylltu gyda'ch ffrindiau fflat newydd, bydd cyfle i chi rannu eich manylion ar y cyfryngau cymdeithasol fel y gallwch wneud cysylltiadau cyn i chi gyrraedd.

Dim ond gyda'ch cyd-letywyr y bydd eich manylion yn cael eu gweld a'u rhannu. Does dim rhaid i chi rannu eich manylion os nad ydych chi eisiau, a gallwch eu diweddaru neu eu dileu ar unrhyw adeg.

Manylion Talu

Byddwch yn cael eich trosglwyddo i'n darparwr taliadau i drefnu amserlen dalu ar gyfer eich rhandaliadau.  Gwnewch yn siŵr bod gennych gerdyn credyd neu ddebyd dilys.

Crynodeb o'r Archeb

Gwnewch yn siŵr bod cadarnhad eich archeb yn gywir.  Bydd e-bost awtomatig yn cael ei anfon atoch yn cadarnhau manylion eich archeb.

Gallwch fewngofnodi i'r porth unrhyw bryd i weld eich archeb.

Rhaglen Gyflwyno

Cyn i chi gyrraedd, bydd angen i chi gwblhau'r Rhaglen Gyflwyno a fydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am fyw mewn llety Prifysgol.

Bydd ebost yn cysylltu â chi pan fydd y Rhaglen Gyflwyno ar gael i chi ei chwblhau.

Canslo eich archeb

Gallwch ganslo eich archeb ar unrhyw adeg cyn symud i mewn drwy fewngofnodi i'r Porth Llety.

Bydd eich ffi dderbyn yn cael ei ad-dalu cyn belled â'ch bod yn canslo cyn y dyddiad cau a roddir ar y dudalen Crynodeb o'r Archeb.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Rydym yn gwerthfawrogi mai dyma fydd y tro cyntaf i lawer ohonoch fyw oddi cartref, felly, er mwyn eich helpu, rydym wedi llunio rhestr wirio ddefnyddiol, ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol am symud i mewn ac, yn bwysicaf oll, ble i fynd ar gyfer casglu eich allwedd. Mae’r wybodaeth ar ein tudalen Symud i Mewn.