Ein cyfleusterau

Adeliad Edward Davies - cartref yr Ysgol Gelf

Yn yr Ysgol Gelf, mae adnoddau addysgu o’r radd flaenaf ar gael ar eich cyfer.

Wrth astudio celf a/neu hanes celf byddwch wedi eich amgylchynu gan ddarnau o gelf o gasgliad ein hamgueddfa, sydd ag enw da’n rhyngwladol. Mae’r Ysgol a’i hamgueddfa wedi’u lleoli gyda’i gilydd mewn adeilad rhestredig Gradd II hanesyddol* - Adeilad Edward Davies.

Mae gan yr Ysgol sawl stiwdio helaeth llawn golau, ystafelloedd tywyll, gweithdai printio, ystafelloedd o weithfannau cyfrifiadurol Mac, yn ogystal â darlithfeydd ac ystafelloedd seminar. Mae daearyddiaeth y gofod gwaith i uwchraddedig yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned a chydweithredu, ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr symud yn hawdd o un ardal i’r llall ac i aros mewn cysylltiad agos â’r staff.

Mae gan yr adeilad amgueddfa, orielau modern ac archif gelf helaeth hefyd. Mae’r adnoddau hyn wrth galon y rhaglen addysgu ac yn dangos ymrwymiad yr Ysgol i wasanaethu’r cyhoedd sy’n cefnogi arddangosfeydd ein myfyrwyr.