Ymgysylltu ag iaith a diwylliant Cymru

Llun o baentiad gan John Elwyn, 'Sioni Winwns' (1958) - Llydawr yn gwerthu winwns

Gan mai ni yw’r unig sefydliad yng Nghymru sy’n cynnig graddau israddedig ac ymchwil mewn Hanes Celf, rydym hefyd yn ymwybodol o’n ymrwymiad arbennig i ddiwylliant weledol Cymru.

Mae Celf yng Nghymru ers 1945 a ffotograffiaeth Cymreig ymhlith y meysydd sy'n cael sylw arbennig yng nghasgliadau ein hamgueddfa. Yn ogystal ag arddangosfeydd a monograffau sy’n canolbwyntio ar artistiaid o Gymru’r ugeinfed ganrif - George Chapman, John Elwyn, Nicholas Evans, Gwilym Prichard, Christpher Williams a Claudia Williams - mae ein hymchwil yn y maes hwn yn cynnwys arferion casglu George Powell o Nant-Eos ger Aberystwyth, y Cymro ecsentrig yn oes Fictoria a ymddiddorai mewn celf, a chelf byd natur ac astudiaethau fforensig o anifeiliaid gan Charles Tunnicliffe, yr artist enwog o Fôn a oedd yn aelod o’r Academi Fenhinol.

Rydym yn ymwybodol y gall cenedlaethau o fyfyrwyr y dyfodol elwa o botensial ymchwil ein casgliadau. At y perwyl hwnnw, mae Amgueddfa'r Ysgol Gelf yn caffael setiau o waith pwysig sy'n cynrychioli gyrfaoedd artistiaid unigol. Bu archifau, adolygiadau o'r wasg, dyddiaduron a chofnod o weithiau ar sail ffotograffau ar gael hefyd.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Casgliad wedi elwa'n fawr o lunio archifau o waith a deunyddiau cysylltiedig gan artistiaid Cymreig megis Handel Evans a John Elwyn. 

Cafodd Handel Evans ei eni ym Mhontypridd yn 1932, a'i hyfforddi yng Ngholeg Celf Caerdydd 1949-54. Bu'n gwneud bywoliaeth yn beintiwr, drafftsmon ac yn wneuthurwr printiau dros bedwar degawd yn y Caribî, America a'r Almaen, lle mae e'n fwyaf adnabyddus. Treuliodd amser yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain ac astudiodd ysgythru yn Atelier 17 ym Mharis. Roedd yn artist rhyngwladol yng ngwir ystyr y gair; caiff ei waith ei gynrychioli mewn casgliadau ledled Ewrop a'r Americas ac mewn sefydliadau pwysig, gan gynnwys Oriel Genedlaethol Jamaica ac Amgueddfa Ashmolean, Rhydychen.

Cafodd John Elwyn ei eni yng Nghastell Newydd Emlyn, Ceredigion, yn 1916 a'i hyfforddi yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, ac ar ôl hynny yn Ysgol Gelf Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr, ym Mryste, ac yno enillodd Ysgoloriaeth Arddangos Brenhinol am baentio i fynd i'r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. Mynychodd y coleg hwnnw o 1938 i 1939 ac eto o 1946 i 1947. Dechreuodd y rhyfel yn nghanol ei gwrs yn y Coleg Celf Brenhinol a bu John Elwyn yn wrthwynebydd cydwybodol; roedd yn ddyn heddychlon, a gellir gweld heddwch a llonyddwch yn elfennau pwysig yn ei waith.

Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cryn dipyn o gyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg - un o’r uchaf yng Nghymru. Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n rhugl yn ogystal â’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae’r ddarpariaeth israddedig yn amrywio o gyrsiau sy’n cynnig ambell fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg, i eraill lle mae modd astudio’r cwrs cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n bosib i chi astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn oed os ydych yn astudio cwrs drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf.

Er nad yw'r Ysgol Gelf yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gallwch ddewis cyflwyno rhan o'ch gwaith yn Gymraeg os mai dyna yw'ch dymuniad a hefyd cael tiwtor personol Cymraeg ei iaith.

Mae gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yr hawl i gyflwyno gwaith a asesir, gan gynnwys traethodau, a sefyll arholiadau yn Gymraeg ar fodiwlau a ddysgir drwy gyfrwng y Saesneg hefyd. Mewn achosion pan na fydd y darlithydd sy’n cyflwyno’r modiwl yn medru’r Gymraeg bydd rhai adrannau yn trefnu bod aelod o staff cyfrwng Cymraeg yn marcio’r gwaith. Mewn achosion eraill bydd adrannau yn trefnu bod y gwaith yn cael ei gyfieithu i’r Saesneg. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn ar wefan Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg.