Amdanom ni

Croeso i Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Fel un o’r adrannau celf uchaf ei safle yn y DU, ein nod yw eich cyflwyno i’r ysgolheictod orau ym myd y celfyddydau, eich cynorthwyo i gyflawni eich potensial dysgu ac i ennill gwybodaeth, hyder a sgiliau ar gyfer sefydlu gyrfa yn y farchnad sydd ohoni.

Yma yn yr Ysgol Gelf, nid sefydliad academaidd yn unig mohonom ond cymuned fawr eu gofal o staff a myfyrwyr o wahanol gefndiroedd a chenhedloedd. O gofio’r amrywiaeth hynny, rydym yn cynnig nifer o gyrsiau mewn Celfyddyd Gain, Ffotograffiaeth, Hanes Celf a/neu’r celfyddydau creadigol sy’n ysgogi ac yn herio creadigrwydd – rhaglenni gradd sy’n rhoi’r cyfle i chi gyfuno’r ymarferol, hanesyddol, damcaniaethol a churadurol wrth astudio celf.

Mae’r Ysgol wedi’i lleoli mewn adeilad sy'n un o'r esiamplau gorau o bensaernïaeth yn Aberystwyth. Dathlodd adeilad Edward Davies, sy’n adeilad rhestredig, ei ganmlwyddiant yn 2007. Mae llawer o’i nodweddion gwreiddiol wedi’u cadw, ond mae hefyd wedi’i addasu’n ofalus i gwrdd ag anghenion dysgu celfyddyd gain heddiw. Mae’n symbol urddasol o nod yr Ysgol i gyfuno’r traddodiadol â’r cyfoes.

Mae ymchwil ein staff - artistiaid sy’n arddangos, haneswyr celf sy’n cyhoeddi a churaduron sy’n gweithio yn y maes - yn ysbrydoli’r addysgu. Mae’n hyrwyddo meddwl beirniadol a rhyngddisgyblaethol, ac yn creu amgylchedd dysgu ysbrydoledig. Dysgwch fwy am ein hymchwil, ein cyfleusterau, ein graddedigion, ein henw da a byw ac astudio yn Aberystwyth drwy glicio ar y tabiau isod.

Pam ddim dod i ymweld â ni? Mae'n hawdd dod i Aberystwyth ar y trên neu mewn car, ac mae'n amgylchedd delfrydol ar gyfer astudio a bwy'n dda. Cymerwch fantais o'r cyfle i ddod i gwrdd â'r staff a'r myfyrwyr ac i brofi'r Ysgol Gelf, y brifysgol a'r dref drosoch eich hun. Dewch i un o'n Diwrnodau Agored!

Ein graddedigion

Bydd y sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy a ddysgir yma yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa ichi.

Mae 100% (Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch 2016 a 2017) a 99% (Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch 2018) o’n graddedigion mewn swydd neu’n dilyn adtudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn gweithio yn y diwydiannau creadigol fel artistiaid, darlunwyr llyfrau plant, dylunwyr graffeg, athrawon prifysgol, ymchwilwyr a churaduron. Ers 2015, mae pump o’n graddedigion wedi ymddangos ar Sky Arts Landscape Painter of the Year – yn cynnwys yr ennillydd yn 2017, Tom Voyce - ac ar Sky Arts Portrait Painter of the Year.

Mae cyn-fyfyrwraig, Edwina Ellis, wedi dylunio sawl darn arian i’r Bathdy Brenhinol, yn cynnwys pedwar darn £1 yn dangos pontydd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a darn £2 yn cofnodi 150 mlwyddiant rheilffordd tanddaearol Llundain ac, yn 2019, darn 50c yn coffáu Stephen Hawking trwy ddyluniad oedd wedi’i ysbrydoli gan ei ddamcaniaethau ar dyllau du.

Ein henw da

Er nad yw ffigurau yn gallu rhoi’r darlun cyfan, mae llwyddiant ein cyrsiau arbenigol a chyfunol mewn lluniadu a pheintio, darlunio llyfrau, ffotograffiaeth, gwneud printiau a’r cyfryngau newydd yn ogystal â’n haddysg ymarferol, alwedigaethol mewn hanes celf yn cael ei gadarnhau gan yr ystadegau. Rydym yn parhau i berfformio’n eithriadol o dda yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) ac mewn tablau cynghrair eraill. Yn NSS 2021, cafodd yr Ysgol Gelf yn Aberystwyth ei gosod ymhlith 10 darparwr uchaf y DU. Caiff perthnasedd ein rhaglenni ei adolygu yng ngoleuni adborth o'r fath.

Yn ogystal â hyn, mae ein perfformiad ymhell ar y blaen i gyfartaledd y sector. Yn The Times and Sunday Times Good University Guide 2020, fe'n gosodwyd yn 8fed am gelf, ac yn 2ail am ein rhaglen hanes celf yn y DU. Rydym wedi bod yn 1af yng Nghymru ers 2017.

Fe’n dyfarnwyd gan y Guardian University Guide 2021 yn 8fed yn y DU ymhlith darparwyr Celf a Dylunio; 3ydd yn y DU o ran ‘bodlonrwydd â’r cwrs’, 3ydd o ran ‘bodlonrwydd â’r addysgu’, ac 2ail yn y DU o ran ‘bodlonrwydd â’r adborth’.

Yn The Complete University Guide 2021, dyfarnwyd yr Ysgol Gelf yn 11eg o blith 86 o ddarparwyr yn y DU ac yn 4ydd yn y DU o ran ‘bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr’. Dyfarnwyd ein rhaglen hanes celf yn 4ydd yn y DU. Cawsom ein rhoi yn yr 2ail safle am 'fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr' a'r safle 1af gyda 'rhagolygon gyrfa graddedigion'.