Ymchwil

Mae ein staff addysgu - artistiaid sy’n arddangos, ysgolheigion sy’n cyhoeddi, a churaduron - yn creu amgylchedd dysgu ysbrydoledig.

Mae ymchwil staff yn sbarduno’r addysgu ac yn sicrhau bod y sgiliau a ddysgir a’r wybodaeth a roddir yn gyfoes ac yn seiliedig ar ymarfer yn y maes. Mae ein hymchwilwyr yn cydweithio yn aml ag amgueddfeydd, orielau a chymdeithasau proffesiynol i arddangos celf a chyhoeddi ymchwil ysgogol, pellgyrhaeddol a pherthnasol o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol.

mae ein hymchwil ar Hugh Blaker, yr artist-gasglwr o’r ugeinfed ganrif, a’r penitiadau a oedd yn ei feddiant ar un amser wedi arwain at gadarnhau portread gan Amadeo Modigliani y bu ansicrwydd yn ei gylch yn flaenorol, yn ogystal â thaflu goleuni newydd ar gynfas y canfu Amgueddfa y Louvre yn ddiweddar mai Sant Joseff y Saer ydoedd – sef campwaith gan y peintiwr Baróc Georges de La Tour – a chofnod o berchnogaeth fersiwn gynharach o’r Mona Lisa gan Leonardo da Vinci.

Mae rhan helaeth o’n hymchwil i hanes celf yn ymwneud ag ailasesu gyrfaoedd artistig ac adfer arferion traddodiadol, yn enwedig y rhai a gafodd eu gwthio i’r cyrion neu eu hesgeuluso. Mae ein staff wedi cyhoeddi ymchwil Gustave Caillebotte, peintiwr, casglwr a garddwr o Ffrainc yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y ffotograffydd o Almaen yr ugeinfed ganrif, Erich Retzlaff, enwog ar un adeg am ei luniau o diroedd a phobl yr Almaen, ac Academyddion Brenhinol sy’n llai cyfarwydd erbyn hyn. Mae ein catalogau raisonné ar beintwyr-brintwyr megis Sydney Lee, Stanley Anderson a Charles Tunnicliffe wedi ennill eu lle fel deunydd cyfeiriol safonol.

Nid yw ein hymchwil rhyngddisgyblaethol yn gyfyngedig i ddiwylliant gweledol a materol. Mae’n ymwneud â cherddoriaeth, y gair llafar, a sain hefyd.

Trwy gyfrwng papurau cynhadledd a chyhoeddiadau, arddangosfeydd a pherfformiadau, gweithdai a chydweithrediadau, mae ein hymchwilwyr yn cyfrannu at feysydd sy’n datblygu fel awdionaratoleg (audionarratology) ac awdioglyweledeg (audiovisuology) (hy artistiaid yn arbrofi â sŵn, cerddoriaeth a thestun). Mae ein hymchwil ar hanes ac arferion ffotograffiaeth yn ymdrin â phrosesau ffotograffig hanesyddol ac amgen fel sylfaen i arferion celfyddyd gain ac ymchwil hanes celf. Mae’n gysylltiedig ag astudio prosesau yn seiliedig ar lens yn ogystal â’r ffotograff fel dull o greu delwedd i archwilio syniadau ynghylch hunaniaeth a chof.

Mae ein hymchwil ar Gelfyddyd Gain wedi arwain at ffurfio rhwydwaith rhyngwladol o artistiaid, gweithdai print a phrifysgolion, i geisio codi proffil lithograffeg a denu artistiaid sy’n aelodau o’r rhwydwaith i Aberystwyth. Mae ein prosiect Gwneud Printiau Celf Gain Cydweithrediadol yn datblygu cysylltiadau ystyrlon rhwng ymarfer ac addysgu gwneud printiau, yn ogystal ag ymchwil ar y cyfryngau traddodiadol, digidol a rhyngddisgyblaethol.

Mae ymarfer rhyngddisgyblaethol a chydweithredol wedi creu canlyniadau amlochrog – yn cynnwys lluniadau, ffotograffau, barddoniaeth, gwaith fideo a sain, cyhoeddiadau, perfformiadau a thrafodaethau panel – sy’n ennyn diddordeb cynulleidfaoedd amrywiol mewn trafodaethau cyfredol yn ymdrin â materion megis cadwraeth, rheoli tir yn gynaliadwy, gwarchod bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, mewn ffyrdd newydd a chyffrous.

Y diwylliant weledol yng Nghymru

Gan mai ni yw’r unig sefydliad yng Nghymru sy’n cynnig graddau israddedig ac ymchwil mewn Hanes Celf, rydym hefyd yn ymwybodol o’n ymrwymiad arbennig i ddiwylliant weledol Cymru. Yn ogystal ag arddangosfeydd a monograffau sy’n canolbwyntio ar artistiaid o Gymru’r ugeinfed ganrif - George Chapman, John Elwyn, Nicholas Evans, Gwilym Prichard, Christpher Williams a Claudia Williams - mae ein hymchwil yn y maes hwn yn cynnwys arferion casglu George Powell o Nant-Eos ger Aberystwyth, y Cymro ecsentrig yn oes Fictoria a ymddiddorai mewn celf, a chelf byd natur ac astudiaethau fforensig o anifeiliaid gan Charles Tunnicliffe, yr artist enwog o Fôn a oedd yn aelod o’r Academi Fenhinol.

Amgueddfa ac Orielau'r Ysgol Gelf

Mae casgliadau Arddangosfa ac Orielau’r Ysgol Gelf, sydd ag enw da’n rhyngwladol, yn adnodd sylweddol ac yn rhoi ffocws i brosiectau staff a myfyrwyr. Trwy gyhoeddiadau, arddangosfeydd, cynadleddau, cyfnodau hyfforddi, darlithoedd cyhoeddus, darllediadau a chronfeydd data ar-lein, mae ein staff yn cyrraedd nifer gynyddol ehangach o fuddiolwyr, yn cynnwys myfyrwyr ac academyddion, curaduron a chasglwyr, gwerthwyr ac arwerthwyr celf, cyhoeddwyr a darlledwyr, beirniaid celf, a’r cyhoedd yn gyffredinol.