Gweithgareddau all-gyrsiol

Myfyrwyr yn ymweld ag oriel gelf

Mae gan Aberystwyth fywyd celf bywiog.

Bydd digon o gyfleoedd ichi fwynhau arddangosfeydd a sgyrsiau gan artistiaid.

Un o'r pethau gorau am Ysgol Gelf Aberystwyth yw mai nid adran prifysgol yn unig yw hi, ond bod ganddi amgueddfa ac orielau cyhoeddus hefyd.

Mae Amgueddfa ac Orielau'r Ysgol Gelf yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i weithgareddau addysgu ac ymchwil y Brifysgol. Golyga hyn y gallwch ddefnyddio adnoddau'r amgueddfa a'r gofod a geir yn ein horielau, a bod yn rhan o brosiectau proffesiynol sydd ar agor i'r cyhoedd.

Canfod mwy - Cliciwch ar y teil 'Amgueddfa ac Orielau'.

Mae gan yr Ysgol Gelf ddwy oriel sy'n arddangos amrywiaeth o weithiau o'r casgliadau, gwaith artistiaid gwadd a gwaith myfyrwyr.

Mae mynediad am ddim i Oriel yr Ysgol Gelf.

Ar agor Dydd Llun i Ddydd Gwener, 10yb i 5yp.

Roedd rhai o'r sioeau y buom yn eu harddangos yn y gorffennol wedi teithio o'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, neu'r Academi Frenhinol yn Llundain. Rydym yn ffodus yn Aberystwyth bod orielau eraill ar gael hefyd, megis y rhai sydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi'i lleoli ar gampws y brifysgol.

Bydd digon o arddangosfeydd ichi eu mwynhau. Rydym yn trefnu teithiau i ffwrdd o Aberystwyth hefyd.