Bryn Terfel i ddathlu 150 mlwyddiant Adran Gymraeg Aberystwyth

Cymrawd Prifysgol Aberystwyth, Bryn Terfel

Cymrawd Prifysgol Aberystwyth, Bryn Terfel

24 Mehefin 2025

Bydd yr arwr operatig Bryn Terfel yn ymuno â chantorion ifanc disglair mewn cyngerdd i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth fis nesaf.

Bydd y canwr byd-enwog yn ymuno ag Archdderwydd Cymru, yr Athro Mererid Hopwood, a’r pianydd Zoe Smith ar 28 Gorffennaf yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Bydd y cyngerdd yn cynnwys caneuon gan rai o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru a chyda geiriau gan rai o feirdd mwyaf adnabyddus y wlad.

Dros y blynyddoedd, mae Bryn Terfel, sy’n Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth, a Mererid Hopwood wedi cydweithio ar amryw o gyngherddau.  Ym mis Tachwedd y llynedd, ar y cyd â Choleg Cerdd a Drama Cymru, bu’r ddau’n dathlu gwaith rhai o gyfansoddwyr nodedig Cymru, yn benodol Meirion Williams, o dan y teitl: ‘Pan ddaw’r nos’.

Roedd Meirion Williams yn un o fyfyrwyr mwyaf blaengar Adran Gerddoriaeth Aberystwyth lle bu’n astudio o dan gyfarwyddyd Walford Davies ar ddechrau’r 1920au.

Wrth i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd nodi ei phen-blwydd yn 150, manteisiwyd ar gyfle i ddod â ‘Pan ddaw’r nos’ i Aberystwyth ac i raglen Gŵyl Gerdd yr haf (Musicfest) gyda chyfuniad newydd o ganeuon.

Dywedodd Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol  Aberystwyth Dr Rhianedd Jewell:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y cyngerdd arbennig hwn i nodi pen-blwydd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn 150. Dyma gyfle i groesawu cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a'r dyfodol i ddathlu hanes hir a llewyrchus yr Adran a phwysigrwydd geiriau, barddoniaeth a cherddoriaeth i'w gwaith.”

Y Brifysgol gyntaf yng Nghymru, cafodd Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth ei sefydlu yn 1872, a phenodwyd ei Athro Cymraeg cyntaf, Daniel Silvan Evans, ym 1875. 

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yn gallu hawlio rhai o lenorion ac ysgolheigion mwyaf disglair Cymru fel rhan o’i hanes, gan gynnwys  T. H. Parry-Williams, T. Gwynn Jones, D. Gwenallt Jones (‘Gwenallt’), Bobi Jones a Mihangel Morgan.

Ers y 1980au, enillodd llu o fyfyrwyr yr Adran brif wobrau llenyddol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Ymhlith cyn-fyfyrwyr yr Adran sy’n awduron Cymraeg blaenllaw y mae Robin Llywelyn, William O. Roberts, Myrddin ap Dafydd, Iwan Llwyd, Twm Morys, Lleucu Roberts, Meleri Wyn James, Catrin Dafydd, Marged Tudur, Carwyn Eckley ac Iestyn Tyne.

Ychwanegodd yr Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Aberystwyth:

“Bydd y cyngerdd yn gyfle i ddathlu awen rhai o feirdd enwocaf Cymru sydd wedi ysbrydoli cyfansoddwyr cerdd ar hyd y canrifoedd, a gwaith sydd wedi bod yn gonglfaen i astudiaethau’r Adran.

“Cawn glywed cerddi gan lenorion fel T Gwynn Jones, sydd â chysylltiadau uniongyrchol â’r Adran, ynghyd â gwaith beirdd adnabyddus eraill fel Elfed, Crwys, Eifion Wyn a Ceiriog. Bydd y cyngerdd yn cyfosod y caneuon hyn o Gymru â chaneuon o’r Almaen, Ffrainc ac Awstria ac yn gyfle i fwynhau athrylith Bryn Terfel ochr yn ochr â rhai o leisiau gorau myfyrwyr Coleg Cerdd a Drama Cymru.”

Mae tocynnau ar gael wefan Canolfan Celfyddydau Aberystwyth:

https://aberystwythartscentre.co.uk/cy/event/musicfest-25-pan-ddawr-nos-an-evening-of-song-bryn-terfel-2/