Llwyfan i straeon LHDTC+ mewn cynhadledd yn Aberystwyth

02 Gorffennaf 2025
Bydd academyddion ac ymarferwyr creadigol yn cwrdd yn Aberystwyth er mwyn rhoi llwyfan i leisiau LHDTC+ yn llenyddiaeth y Gymraeg yr wythnos hon.
Ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf, cynhelir cynhadledd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i edrych ar lenyddiaeth Gymraeg drwy lens LHDTC+, er mwyn dathlu awduron a thestunau, rhoi sylw i weithiau anghofiedig, a gwyntyllu syniadau ar gyfer trywyddau newydd.
Mae ‘Testunau’r Enfys’ yn brosiect sy’n edrych ar gynrychiolaeth a hunaniaethau croestoriadwyol yn llenyddiaeth y Gymraeg, gyda’r nod o ysgogi ymchwil a gweithiau creadigol newydd hefyd.
Fel rhan o’r gynhadledd, bydd trafodaethau am lenyddiaeth gyfoes a hanesyddol, gan ddechrau â thrafodaeth ar lyfrau i blant a phobl ifanc, gyda Gareth Evans-Jones, Siwan Rosser, Llinos Stone, Bethan Jones o Gyngor Llyfrau Cymru, a Megan Angharad Hunter, un o awduron Cymru. Balch. Ifanc., sydd ar restr fer Gwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni.
Rhoddir llwyfan hefyd i ddarganfyddiadau o weithdy cychwynnol y prosiect a gynhaliwyd y llynedd. Bydd Miriam Elin Jones yn trafod ffuglen wyddonol, Rhiannon Marks yn trafod llenyddiaeth a hunaniaethau, a Mair Jones o Straeon Cwiar Cymreig yn tywys mynychwyr drwy gasgliadau cwiar y Llyfrgell.
Dywedodd Dr Cathryn A. Charnell-White o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, un o drefnwyr y prosiect:
“Mae’r gynhadledd yn gyfle cyffrous i edrych o'r newydd ar ein llenyddiaeth drwy lens LHDTC+. Mae’r prosiect ehangach wedi tyfu o fodiwl ‘Testunau’r Enfys’ i fyfyrwyr israddedig, ac mae’n cynnig llawer o botensial i dorri tir newydd ac i feithrin amrywiaeth a chynhwysiant yn ein llenyddiaeth ac yn y cwricwlwm. Un o'm hoff enghreifftiau yw cerdd am gyfeillgarwch rhwng dwy ferch o’r unfed ganrif ar bymtheg, sy'n cynnig dehongliadau newydd a diddorol o'i darllen hi drwy lens LHDTC+.”
Ychwanegodd un o gyd-drefnwyr y gynhadledd, Dr Gareth Llŷr Evans, Darlithydd mewn Theatr a Pherfformio yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’r gynhadledd a’r prosiect yn gyfle i gydnabod yr amrywiaeth o leisiau sydd eisoes yn datgan eu hunaniaethau yn agored a gyda balchder, gan hefyd roi cyfle i ailystyried lleisiau hanesyddol a fynegodd yr un profiadau mewn ffyrdd oedd efallai yn llawer mwy cynnil.
“Mae corff sylweddol o lenyddiaeth gwiar yn bodoli yn y Gymraeg, boed yn gyfrolau sy’n mynegi hunaniaethau a phrofiadau cwiar yn uniongyrchol, neu’n rhai sy’n addas i gael eu dehongli trwy ddarlleniad cwiar. Rydym ni’n gobeithio bod y gynhadledd yn gallu tynnu sylw mwy o bobl at y cyfoeth o straeon sydd i’w dathlu a’u mwynhau.”
Mae’r prosiect Testunau’r Enfys yn un cydweithredol, a gynhelir mewn partneriaeth ag academyddion ym Mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd, ac wedi’i ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Un o amcanion eraill y prosiect yw creu cymuned o academyddion ac ymarferwyr creadigol ym maes llenyddiaeth LHDTC+ y Gymraeg er mwyn adeiladu arbenigedd a datblygu adnoddau dysgu yn y maes.
Gellir archebu lle yn y gynhadledd drwy e-bostio cymraeg@aber.ac.uk.