Cronfa Goffa Thomas Ellis, Prifysgol Cymru
Llongyfarchiadau i Dr Robin Chapman ar ennill £750 o Gronfa Goffa
Thomas Ellis Prifysgol Cymru, tuag at ysgrifennu cyfrol ar Lenyddiaeth
Gymraeg c. 1740-2005 i gyfres The Oxford Literary History of Wales. Yn
ôl golygydd y gyfres, Damian Walford Davies, 'mae'r OLHW yn cynnig
cyfle gwerthfawr i ailasesu dau draddodiad llenyddol Cymru a'r
berthynas rhyngddynt. Bydd y pedair cyfrol fywiog yma yn herio
uniongrededd ac yn cyflwyno hanes llenyddol amgen'.