'Yr "U-Ogleddol" yng Nghanolbarth Cymru'
15 Chwefror 2012
'Yr "U" Ogleddol yng Nghanolbarth Cymru'
Yr ‘U-Ogleddol’ yw un o seiniau mwyaf nodweddiadol tafodieithoedd y gogledd. Yn wir, mae’r llafariad hon yn destun sbort gan ddeheuwyr weithiau, a bernir yn aml fod y ‘gogs’, oherwydd y sain hon yn anad dim un arall, yn siarad yn ‘yddfol’, neu hyd yn oed yn ‘swnio fel tyrcwn’! Edrychir yn fanwl ar y defnydd o’r sain hon ym Mro Dysynni (ardal Tywyn) lle mae’r llafariad ar gyrion eithaf ei thiriogaeth. A geir rhai siaradwyr yn defnyddio’r naill sain, ac eraill yn ynganu’r llall? Neu a geir amrywio ar waith o fewn yr unigolyn? Tybed a yw’r sain yn diflannu’n gynt mewn rhai geiriau neu gyd-destunau nag eraill? Ystyrir yn ogystal sut y gall sefyllfa’r ‘U-Ogleddol’ mewn un ardal o ganolbarth Cymru daflu goleuni inni ar hanes y sain. A glywid y sain yn y de ar un adeg? Pa awgrymiadau o hynny sydd? A yw’r llafariad hon wedi dylanwadu ar strwythurau elfennol ein tafodieithoedd?
Mae Iwan Wyn Rees yn fyfyriwr PhD yn Adran y Gymraeg sy’n ymchwilio i ddwy dafodiaith yn y Canolbarth, sef rhai Bro Dysynni (ardal Tywyn) a chyffiniau Harlech (bro ei febyd). Canolbwyntia ei astudiaeth yn benodol ar amrywio ffonetig (sut y mae seiniau yn ymgyfnewid â’i gilydd) ac ar ffonoleg (y modd y ceir gwahanol systemau ieithyddol yn cyferbynnu â’i gilydd o ran hyd ac ansawdd seiniau) yn yr ardaloedd hyn. Ni wnaed nemor ddim gwaith ar y canolbarth hyd yma, felly gobaith Iwan yw dangos bod y rhanbarth hwn o Gymru yn gyfoethog o ran ei amrywiadau llafar, yn ogystal ag awgrymu nad yw ei strwythurau ffonolegol elfennol o angenrheidrwydd yn debyg i rai’r gogledd nac i rai’r de.