Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Darpariaeth Gymraeg Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth yn arwain y maes o ran cynnig darpariaeth Gymraeg mor eang â phosib, ac mae staff academaidd y Brifysgol yn cynhyrchu mwy o ymchwil cyfrwng Cymraeg nag unrhyw Brifysgol arall yng Nghymru.
Mae nifer fawr o feysydd priodol yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau Mynediad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac, yn ychwanegol at hynny, mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno cynllun ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg sy’n agored i bob myfyriwr sy’n astudio elfen o’i gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
