Tun Arshad Ayub (1928-2022)

Roedd gan Tun Arshad Ayub, sydd wedi marw yn 93 oed, ymroddiad amlwg i Aber - yn fyfyriwr, Cymrawd, Llywydd Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr a phrif ysgogydd Clwb Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth Malaysia.  Cafodd fywyd rhyfeddol. Roedd yn ddyn a chanddo weledigaeth nodedig ynghylch dyfodol y byd addysg, yn was sifil o fri ac yn un oedd â’r awch i gyflawni.

Ganed Arshad yn Johor yng nghefn gwlad de Malaysia yn 1928. Tapio coed rwber oedd gwaith ei dad, ac Arshad oedd plentyn hynaf y teulu. Cafodd ei fagu mewn caledi economaidd. Dioddefodd o’r teiffoid ac, wedi marwolaeth ei rieni, daeth yn gyfrifol am fagu aelodau iau’r teulu. Roedd ei ddyfodol yn ymddangos yn llwm, ond bu’r blynyddoedd cynnar anodd hynny yn gyfnod hynod o ffurfiannol o ran ei yrfa yn ddiweddarach fel addysgwr a gwas sifil. Roedd yn benderfynol o ddefnyddio addysg i gynorthwyo plant difreintiedig i oresgyn eu hamgylchiadau adfydus. Yn ei eiriau ef, "Cefais fy magu mewn tlodi, ac felly rwy'n deall beth yw tlodi.'

Yn 1954 graddiodd gyda Diploma mewn Amaethyddiaeth o'r Coleg Amaethyddol yn Selangor, ac yna dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Drefedigaethol a Datblygol i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Graddiodd oddi yma â gradd mewn Economeg ac Ystadegau yn 1958.  Yn 1964, enillodd Ddiploma mewn Gweinyddu Busnes o’r Sefydliad Datblygu Rheolaeth yn Lausanne.

Dechreuodd Arshad ymwneud â rheoli ym myd addysg yn 1965 fel Pennaeth Coleg Astudiaethau Busnes a Phroffesiynol MARA yn Malaysia. Yn 1967 cafodd MARA ei drawsnewid yn Sefydliad Technoleg MARA (ITM), ac Arshad oedd y Cyfarwyddwr cyntaf. Yn ystod yr wyth mlynedd wedi hynny, bu’n gyfrifol am osod y sylfaen ar gyfer y sefydliad a elwir bellach yn Universiti Teknologi Mara ac arweiniodd un o'r mentrau addysg mwyaf llwyddiannus yn y wlad. Ac yntau’n cynllunio ar gyfer y blynyddoedd oedd i ddod, ef oedd y cyntaf i gyflwyno cyrsiau mewn gwyddoniaeth gymhwysol, cyfathrebu torfol, rheoli busnes, pensaernïaeth, gweinyddiaeth gyhoeddus a lletygarwch. Prin iawn oedd y cyrsiau o’r fath a oedd ar gael yn y 1960au.

Pan agorodd Arshad ddrysau Mara yn 1965, roedd yno 219 o fyfyrwyr ac 11 o ddarlithwyr. Pan adawodd yn 1975, roedd 6,856 o fyfyrwyr a 904 o ddarlithwyr yn darparu 60 o raglenni mewn 13 o wahanol ysgolion a champysau cangen. Heddiw, UTM yw’r sefydliad addysg uwch mwyaf yn Malaysia, gyda dros 165,000 o fyfyrwyr.

Yn dilyn ei gyfnod yn ITM, aeth Arshad â’i ddoniau sylweddol i'r gwasanaeth sifil, ac erbyn iddo ymddeol yn 1983 roedd wedi bod yn Ysgrifennydd Cyffredinol i dair Gweinyddiaeth: y Weinyddiaeth Diwydiannau Cynradd, y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, a'r Weinyddiaeth Tir a Datblygu Rhanbarthol, fel yr oeddent ar y pryd. Rhoddwyd iddo hefyd gyfrifoldebau Dirprwy Lywodraethwr Banc Negara, sef banc canolog Malaysia, a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Uned Cynllunio Economaidd.

Yr oedd, hyd ei farwolaeth, yn dal i fod yn aelod o fyrddau asiantaethau cyhoeddus, corfforaethau preifat a nifer o sefydliadau di-elw a gwirfoddol. Ac yntau’n rheolwr talentog a phendant, roedd galw mawr am ei wasanaethau - roedd, er enghraifft, yn Gadeirydd Bwrdd Prifysgol Malaya, yn Ddirprwy Ganghellor yr Universiti Teknologi Mara, yn Ganghellor Coleg Prifysgol Rhyngwladol INTI, ac yn Llywodraethwr Kolej Tuanku Jaafar.

Roedd Arshad yn cael ei ystyried yn eang yn arloeswr ym myd addysg ac yn un a gafodd effaith aruthrol ar fusnes ac addysg yn Malaysia am bron i hanner canrif. Roedd yn grediniol fod gan bawb yr hawl i gael ail gyfle, a rhoddodd hynny obaith i lu o bobl ifanc Malaysia a oedd, cyn hynny, â’u cyfleoedd o gael dyfodol academaidd yn brin, os oedd ganddynt unrhyw gyfle o gwbl. Roedd yr ymrwymiad a’r ymroddiad di-feth hwn wrth iddo fynd ati i drawsnewid y byd addysg yn Malaysia drwy ddiwygio ac arloesi yn ymgnawdoli’r awydd i greu cenedl a sicrhau rhagoriaeth. Ar sail hyn, dyfarnwyd iddo, yn 2020, deitl Tun, sef y wobr ffederal uchaf a ddyfernir gan Frenin Malaysia.

Nid anghofiodd Tun Arshad erioed ei gyfnod yn Aberystwyth ac roedd yn llysgennad brwd i'w gyn-brifysgol. Byddai’n hyrwyddo’r ‘Coleg ger y Lli’ byth a hefyd, boed hynny drwy'r clwb cyn-fyfyrwyr a ysbrydolwyd ganddo, neu yn y cyfweliadau lu a roddodd am ei fywyd. Roedd hefyd yn frwd ei gefnogaeth i unrhyw aelodau o'r teulu a oedd am astudio yng Nghymru - ac mae’r ffaith y bydd dau o'i wyrion yn graddio o Aber ym mis Gorffennaf yn dyst priodol i hynny.

Bu’n briod am dros drigain mlynedd â Toh Puan Zaleha. Roedd yn eithriadol o falch o'i saith o blant a’i naw ŵyr ar hugain. Byddai’r sawl a fu’n ddigon ffodus i allu ymweld ag ef yn cael ei gyfarch gan ei wên annwyl, ac yn gweld o leiaf ddwsin o'r wyrion ieuengaf yn cysgu’n braf ar y teras dan do yn ei gartref hyfryd.

Roedd yn gawr o ddyn yn natblygiad ei wlad, a bydd colled enbyd ar ei ôl ymhlith pawb o’i gydnabod.

Stephen Lawrence
Cyn-Lywydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth