Dai Jones

Llun: Dai Jones Llanilar (canol) ar ddiwrnod ei urddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2004, yng nghwmni’r diweddar Arglwydd Elystan Morgan (dde), cyn Lywydd y Brifysgol, a’r Athro Derec Llwyd Morgan, cyn Is-Ganghellor a Phrifathro’r Brifysgol.

Bu farw’r darlledwr a’r amaethwr Dai Jones Llanilar ar y 4ydd o Fawrth. Cafodd ei urddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2004 am ei gyfraniad i fywyd gwledig yng Nghymru. Yma mae Alun Elidyr, a raddiodd mewn Cymraeg a Drama (1980) o Aberystwyth ac sydd bellach yn ffermio ger Rhydymain, Dolgellau, yn talu teyrnged i’r gŵr agorodd y drws i’w yrfa ef fel darlledwr.

"Roedd Dai Jones, Llanilar yn berson hollol unigryw. Ble bynnag ewch chi yng nghefn gwlad Cymru, mi fydd gan bobl stori gadarnhaol amdano oherwydd ei bersonoliaeth agored, ffraeth, a’i allu rhagorol i drin pawb yr un fath.

Yn fy nghartref i, roedd wastad angen ceisio dal rhaglen Sion a Sian, i glywed pa gân fyddai gan Dai ar y diwedd, ac yn ddiweddarach, Cefn Gwlad oedd conglfaen darpariaeth gwylio fy rhieni ar S4C, a diwedd pob haf, wrth ddychwelyd o ornestau cneifio gwellaif hwnt ag yma, mi fyddai nhad a straeon hwyliog am dynnu coes a direidi Dai Llanilar. Roedd o ymhobman ble roedd diwylliant gwledig yn llewyrchus, ac yn dyrchafu statws y digwyddiadau hynny.

Mi ddois i i’w nabod pan ddaeth ataf fi mewn arwerthiant Gwartheg Duon ym mart Dolgellau, finnau newydd gymryd yr awenau yng Nghaecoch yn dilyn marwolaeth ddisymwth fy nhad.” Ga’i ddod acw i ffilmio dipyn o dy hanes di ‘rhen hogyn?”, oedd ei gwestiwn. “A chroeso”, meddwn innau, ac fe drefnwyd tridiau ar gyfer Cefn Gwlad fis Mehefin. Roedd y sgwrs mor rhwydd, ar ol diwrnod, roedd deunydd y rhaglen ‘yn y can’! A’r adeg hynny sylweddolais i mor alluog oedd o ym maes adloniant. Ar ddiwedd y rhaglen aethon ni ati i gneifio ‘chydig o hyrddod, a Dai oedd i roi’r ‘E’ las fel nod ar ochr yr hwrdd gorffenedig. Wel, mi gododd yr hwrdd a throtian allan gyda’r rhif 3 mewn glas ar ei benol a phawb yn ei dyblau a finna’n diawlio!

Ymhen ‘chydig fisoedd, daeth gwahoddiad gan Lowri Gwilym, comisiynnydd rhaglen Ffermio i mi fod yn un o gyflwynwyr y gyfres,  ac mi wyddwn yn iawn mai i Dai roedd y diolch. Ond yr hyn a seliodd fy mharch ato oedd ar ôl y cyfarfyddiad sydyn cynta hwnnw, mi fyddai wastad yn holi am fy mam. Dyn felna oedd o, roedd ganddo gof eithriadol, ac mi fyddai’n gallu ailafael mewn sgwrs yn hollol rugl ar ol gofod o flynyddoedd. Pobl, a’i hanes oedd ei bethau.

Oherwydd hynny, roedd yr un mor gartrefol ac uchel ei barch mewn arwerthiant gwartheg Limousin yn Ffrainc, ag yr oedd yn un o’i hoff lefydd, maes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, a hyd yn oed yno, byddai ffermwyr o’r Alban i Gernyw yn awchu i’w gyfarch, a bob tro mi fydda Dai’n eu gadael â gwên ar eu hwynebau. Does dim dwywaith iddo osod Cymru ar y map ble bynnag y bu, ac mae darlledu  Cymreig wedi cael bendith fawr o’i allu rhagorol i ddathlu bywydau gwladwyr cyffredin, ac mae’n gadael gwaddol cyfoethog ar ei ol. Diolch amdano."