Yr Athro Maldwyn Mills (1926 - 2019)

(Maldwyn Mills yn 88 oed yn 2014 â'i annwyl lyfrau, cryno ddisgiau a DVDs)

Cyhoeddwn â thristwch mawr y bu farw'r Athro Maldwyn Mills yn dawel ar ddydd Mawrth, 26 Tachwedd 2019 yn 93 oed yn Ysbyty Tregaron wedi salwch byr. Cafodd yrfa hir a llwyddiannus yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth rhwng 1959 a 1993. Yn ystod y cyfnod hwn, arbenigodd mewn Rhamantau Saesneg Canol (gweithiau Lybeaus Desconus yn arbennig) ac yng ngweithiau Chaucer:

  • 1 Medi 1959: Darlithydd Cynorthwyol
  • 1 Hydref 1967: Uwch Ddarlithydd
  • 1 Ionawr 1974: Darllenydd
  • 7 Rhagfyr 1979: Cadair Bersonol (Athro)
  • Pennaeth Gweithredol yr Adran rhwng 1 Gorffennaf 1974 a 30 Mehefin 1985.
  • 30 Medi 1993: Ymddeoliad ac Athro Emeritws

Yn ystod y cyfnod hwn, llwyddodd i ysbrydoli, annog a diddanu miloedd o fyfyrwyr â'i bresenoldeb unigryw ac afieithus yn y ddarlithfa. Cofiwn ei lais enfawr a'r ffordd yr ynganai'r 'R' yng nghefn y geg, a berai iddo swnio'n Ffrengig iawn! Cofiwn hefyd ei chwerthiniad cyfarthog a heintus. Treuliodd oriau fyrdd yn rhannu ei arbenigedd a'i wybodaeth â ni, a chofiwn hefyd sut yr ymatebai i'n camgymeriadau â'r fath hwyl ac amynedd di-ben-draw! Am iddo rannu cymaint o’i amser â ni, ac oherwydd ei ysbryd unigryw - fel y dywed un cyfrannwr, "dan ei arweiniad gofalus a gofalgar" - aeth nifer ohonom yn ein blaen i ennill Doethuriaethau a chychwyn ar yrfaoedd academaidd a gweinyddol. Flynyddoedd yn ddiweddarach, dychwelem o bryd i'w gilydd i Aberystwyth i ymweld ag ef a byddem yn dal i "elwa ar ei gyngor a mwynhau ei gyfeillgarwch" wrth iddo barhau i ymddiddori'n fawr yn ein hymdrechion. Mae ein dyled yn fawr iddo. 

Talwyd nifer o deyrngedau iddo, a chrynhoir prif fyrdwn y teyrngedau hynny yma. Yn anad dim, gallai greu cyfeillgarwch â phobl o bob cefndir. Yn ôl cyn-gydweithiwr, petai'n eich cymryd dan ei adain, byddech yn dod yn rhan o'i jig-so, yn eich rhan fechan chi o'r darlun ac yntau yn y canol yn gyswllt rhwng pawb. Dyma eiriau cyfrannwr arall: "Ef oedd ein "Dewin Cymreig, â'i farf a'i wallt aflêr!"

O ran ei gyraeddiadau ei hun, roedd yn ddiymhongar tu hwnt a thueddai i wneud hwyl am ei ben ei hun. Fodd bynnag, mae'n werth sôn am ei gyraeddiadau, e.e. chwaraeodd ran allweddol yn y Cynadleddau ar Ramantau Saesneg Canol a Chaucer (sy'n cael eu cynnal hyd heddiw), ynghyd â sawl cyhoeddiad (Six Middle English Romances). Gwelir rhestrau o'r cyhoeddiadau hyn ar-lein.   Cydweithiodd yn agos ag adrannau eraill, yn enwedig wrth alluogi myfyrwyr i dderbyn hyfforddiant i weithio â llawysgrifau a deunydd archifol. Roedd hon yn bartneriaeth a gyfoethogai ein profiadau a'n gwybodaeth.

Roedd gan Maldwyn ddiddordeb angerddol mewn sawl peth, e.e. llenyddiaeth nad oedd yn perthyn i'r Oesoedd Canol, megis gweithiau Dickens a'r Beirdd Metaffisegol, yn enwedig Marvell.   Roedd yn ffotograffydd brwd iawn a byddai'n hoff o dynnu lluniau pensaernïaeth eglwysi Romanésg. Teithiau o gwmpas y byd â'i wraig Viv a'u ffrindiau i ymweld ag eglwysi pellennig i dynnu llun rhyw gerfiad hynod ddoniol neu gyfareddol. Roedd yn hoff iawn o gerddoriaeth glasurol, ac fe'i swynwyd yn arbennig gan weithiau Haydn. Flynyddoedd yn ddiweddarach, cawsom ddysgu am hen ffilmiau yn ystod ein hymweliadau ag ef. Roedd yn arbennig o hoff o ddangos ffilmiau a chomedïau melodramatig a hynod fympwyol, a byddai'n gwneud hynny â'r fath afiaith. Fel y dywedodd cyfrannwr arall amdano, roedd "bod yn ei gwmni'n andros o hwyl".

Yn ddiweddar iawn, hyd yn oed pan oedd yn Ysbyty Bronglais a chyn iddo symud i Ysbyty Tregaron, roedd bob amser mor barod i gyfrannu'i amser a'i wybodaeth i brosiect 'Gwerthfawrogi Cyn-filwyr' Age Cymru, a chytunodd i'w gael ei holi ynglŷn â'i wasanaeth yn ystod y rhyfel. Dyma ddisgrifiad ohono gan y sawl a'i holodd: "Dyn hynod ffein - roedd yn fraint enfawr cael cwrdd ag ef". Yn ei ffordd ddihafal ei hun, goruchwyliodd Mal y cofnod ysgrifenedig o'r hanes hwnnw, a mynnai (yn garedig ond â pheth pendantrwydd) i'r cofnod hwnnw fod yn gywir a threfnus. Dim ond ar ôl y pedwerydd drafft y'i cymeradwyodd! Cedwir yr hanes ysgrifenedig yn 'Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru', a'r darogan yw y bydd modd ei weld yng Nghasgliad y Werin Llyfrgell Genedlaethol Cymru erbyn diwedd Ionawr 2020, os nad cyn hynny. Mae'r hanes yn waddol hynod addas gan rywun a rannodd cymaint ohono ef ei hun ag eraill.

Dyn ei deulu oedd Mal, ac roedd yn ffrind arbennig iawn i gynifer o'u gyn-fyfyrwyr a'i gyn-gydweithwyr. Byddwn yn gweld ei eisiau’n fawr.

Cwsg mewn hedd, Mal.