Mae cymynroddion o bob maint yn helpu Prifysgol Aberystwyth i ysbrydoli gwaith dysgu ac ymchwil arloesol er budd cenedlaethau o fyfyrwyr yn y dyfodol.
Mae llawer o bobl yn dewis cofio Aber drwy roi cymynrodd, yn arwydd o'u cefnogaeth a'u hoffter, a'u dymuniad i sicrhau y bydd y Brifysgol yn dal i ffynnu yn y dyfodol.
Deallwn y byddwch yn awyddus i wneud cyfraniad parhaol tuag at waith Prifysgol Aber, a thuag at achos sy'n agos at eich calon.
Byddwn ni'n gwerthfawrogi sgwrs â chi er mwyn inni allu trafod y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael, yn ogystal â sicrhau bod eich disgwyliadau chithau'n cael eu bodloni, a thrafod sut y byddwn ni'n gwneud hynny.
Dyma rai enghreifftiau o sut y gallai'ch cymynrodd chi ein helpu ni:
- Ariannu ysgoloriaethau Doethuriaeth i ddenu'r myfyrwyr gorau o amrywiaeth eang o gefndiroedd sy'n gweithio ar flaen eu meysydd ar ymchwil arloesol;
- Cynorthwyo â gwaith adnewyddu ac ailwampio ein hadnoddau er mwyn sicrhau y bydd gan ein myfyrwyr yr adnoddau gorau posib;
- Cefnogi myfyrwyr Aber drwy sicrhau bod pob un unigolyn yn gallu cyflawni ei botensial llawn, ni waeth beth fo'i gefndir.
Ceir isod y mathau mwyaf cyffredin o gymynroddion y gallwch eu gadael yn eich ewyllys. Rydym bob amser yn argymell yn gryf eich bod yn cael cyngor cyfreithiol proffesiynol ynghylch y gwahanol gymynroddion cyn i chi wneud unrhyw newidiadau i'ch ewyllys.
Elusen (rhif 1145141) yw Prifysgol Aberystwyth, ac felly os ydych yn bwriadu rhoi i'r Brifysgol yn eich ewyllys fe all helpu i leihau treth etifeddiant.
Cymynrodd Ariannol |
Gadael swm penodol o arian. Anfantais y dull hwn yw bod y gwerth yn lleihau gydag amser, wrth i gostau byw gynyddu. |
Cymynrodd Amodol |
Sy'n golygu gadael y cyfan neu ran o'ch ystad i unigolyn neu unigolion penodol. Pe na fyddai un o'r cymyndderbynwyr hyn yn eich goroesi chi, byddai'r gymynrodd honno yn cael ei rhoi i Brifysgol Aberystwyth. |
Rhoddion mewn Nwyddau |
Gallwch adael rhoddion ar ffurf cyfranddaliadau neu eiddo, megis tai, lluniau neu eitemau gwerthfawr eraill. Gallai'r Brifysgol werthu'r ased wedyn a defnyddio'r cyllid yn unol â'ch dymuniadau. |
Cymynrodd Weddilliol |
Canran o'ch ystad sy'n weddill yw hon, ar ôl i'r holl ffioedd ac unrhyw gostau dyledus gael eu talu. Mae'r math hwn o gymynrodd yn cadw'r gwerth yn unol â chwyddiant. Byddem yn gofyn i chi ystyried rhoi un neu ddau y cant o'ch Ystad. |
Cymynrodd Refersiynol |
Mae Aberystwyth yn deall yn iawn yr awydd sydd gennym ni i gyd i sicrhau bod darpariaeth gyflawn yn cael ei rhoi i'n hanwylion yn gyntaf. Mae'r math hwn o gymynrodd yn golygu y gallwch adael arian neu'ch Ystad (neu ganran ohonynt) i'r Brifysgol ar ôl i'ch priod neu'ch perthynas farw. |
Pwysigrwydd cael cydnabyddiaeth yn ystod eich bywyd
Ar lawer cyfrif, gadael darpariaeth i Aber yn eich ewyllys yw'r rhodd orau oll. Mae'n dangos eich ffydd yng ngwerthoedd Aber, ac mae'n creu tystiolaeth fyw i'r cariad hwnnw y tu hwnt i'ch marwolaeth.
Mae'r Brifysgol yn credu y dylid cydnabod y fath ymrwymiad i'r dyfodol mewn modd sy'n mynd y tu hwnt i goffáu yn unig; dylid anrhydeddu'r rhai sy'n dewis cyfoethogi'r dyfodol hwnnw, a diolch iddynt, yn ystod eu hoes. Dyna pam rydym wedi sefydlu Cymdeithas 1872, a enwyd i ddathlu blwyddyn sefydlu'r Brifysgol.
Rhoddir aelodaeth o'r Gymdeithas i bawb sydd wedi dangos bod ganddynt fwriad i adael rhodd i Aber. Deallwn fod penderfyniad o'r fath yn aml yn fater preifat a phersonol, ac felly ni fydd rhestr o aelodau yn cael ei chyhoeddi, ond fe gynhelir cinio blynyddol lle y bydd y Brifysgol yn gallu diolch i'r aelodau mewn modd tawel ac ystyrlon, a rhoi gwybod iddynt am ein cynlluniau datblygu presennol.
Mae'r Brifysgol hefyd yn elwa o brofiad a doethineb aelodau Cymdeithas 1872 drwy gael eu cyngor ar ei bwriadau ar gyfer y dyfodol.
Mawr obeithiwn y byddwch yn dymuno bod yn aelod o'r gymdeithas ddethol ac arbennig iawn hon i'n rhoddwyr. Cewch gysylltu â ni drwy ffonio neu ebostio i roi gwybod am eich penderfyniad i adael cymynrodd i Aber ac fe gewch aelodaeth o Gymdeithas 1872 yn awtomatig.