Y Ganolfan Ôl-raddedigion‌‌ 

Mae’r Ganolfan Ôl-raddedigion yn ofod astudio 24 awr ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig. Ar wahân i ambell aelod o staff (staff yr Academi Ddoethurol yn bennaf), dim ond myfyrwyr ôl-raddedig sy’n gallu cael mynediad i’r ganolfan, a byddwch angen eich cerdyn myfyriwr i agor y drws. Os ydych chi’n cael unrhyw drafferth i gael mynediad, rhowch wybod i ni.

 

Mae’r Ganolfan Ôl-raddedigion ar lawr gwaelod adeilad Llandinam ger y fynedfa gefn.

 

Mae’r cyfleusterau yn cynnwys:

  • Mannau astudio tawel (preifat a chynllun agored)
  • Cyfleusterau argraffu
  • Lolfa gymdeithasol a chegin
  • Loceri storio personol
  • Chwech o bodiau astudio preifat
  • Ystafelloedd astudio grŵp 
  • Desgiau cyfrifiadur
  • Ystafell bwydo ar y fron
  • Bwrdd i grŵp mawr 
  • Bwrdd i grŵp bach
  • Ystafell astudio hygyrch bwrpasol gyda desg eistedd-sefyll addasadwy a chadair

 

Loceri personol: Mae croeso i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ofyn am locer i storio llyfrau a deunyddiau astudio eraill. Gofynnwn i chi beidio â storio bwyd neu nwyddau darfodus eraill yn y mannau hyn (mae cegin ar gael ar gyfer eitemau o'r fath) ac i ddilyn yr un canllawiau ag ar gyfer y loceri yn Llyfrgell Hugh Owen. 

 

Os hoffech ofyn am allwedd locer, ewch i'r ddesg ymholiadau yn Llyfrgell Hugh Owen neu cysylltwch ag askaber@aber.ac.uk / holiaber@aber.ac.uk. 

 

Podiau astudio preifat: Mae chwech o bodiau astudio preifat, ynghyd ag ystafell bwydo ar y fron ychwanegol ac ystafell hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae'r ystafelloedd hyn ar gael i'w harchebu trwy eich cyfrif ar-lein ar gyfer gwaith unigol neu waith grŵp.

 

Mae croeso i fyfyrwyr ddefnyddio podiau astudio gwag, ar yr amod eu bod yn symud i wneud lle i fyfyrwyr sydd wedi archebu ac, yn achos yr ystafell hygyrch i gadeiriau olwyn a'r ystafell bwydo ar y fron, i'r rhai sydd â’r cyfryw anghenion.

 

Mae'r Ganolfan Ôl-raddedigion yn amgylchedd gwaith proffesiynol, ac rydyn ni'n cymryd y bydd myfyrwyr yn ei defnyddio'n briodol ac yn trin eraill â pharch. Os oes gennych chi unrhyw gwynion, cysylltwch â Phennaeth yr Academi Ddoethurol.