Dadansoddiad o Anghenion Datblygu

Beth yw Dadansoddiad o Anghenion Datblygu?
Dadansoddiad o Anghenion Datblygu yw dull o asesu anghenion hyfforddiant ymchwil myfyrwyr yn seiliedig ar eu prosiect ymchwil unigol a’u nodau proffesiynol. Mae’r broses yn sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o’u hanghenion hyfforddiant ac yn eu cefnogi i ddod o hyd i’r ddarpariaeth hyfforddiant briodol yn y brifysgol a thu hwnt. Mae’r broses yn cael ei hwyluso trwy MyPGR, a chewch gais i gwblhau holiadur yn ystod sgwrs â’ch goruchwylwyr.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Dadansoddiad o Anghenion Datblygu, gwyliwch ein fideo hyfforddi.

DIWEDDARIAD: Mae'r fideo DNA bellach wedi dyddio gan fod y broses yn symud i MyPGR. Cadwch lygad yma am ragor o fanylion ar sut i gwblhau'r broses DNA a chael mynediad at hyfforddiant drwy MyPGR (16 Hydref 2026).