Rhwydwaith Ymchwilwyr ar Ddechrau Gyrfa

Nod y Rhwydwaith Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa (ECR) yw darparu cymorth a chyngor i bobl sydd â diddordeb mewn ymchwil ac sy'n ystyried eu hunain yn ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Ein nod yw darparu fforwm cyfeillgar a chynhwysol i drafod materion yn ymwneud â gyrfaoedd a lles, yn ogystal â rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau a threfnu digwyddiadau cymdeithasol.  Rydym am ymateb i anghenion ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac yn croesawu sylwadau ac awgrymiadau ar faterion a digwyddiadau yr hoffech i'r rhwydwaith eu hystyried.  Gallwch gysylltu ag un o aelodau'r pwyllgor gwirfoddoli a restrir isod.

Ymuno â Rhwydwaith ECR

Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â Rhwydwaith ECR.

Llenwch y ffurflen gofrestru yn https://forms.office.com/e/V0izxk0gyp i ymuno â Rhwydwaith ECR.

Digwyddiadau

Digwyddiadau sydd ar y gweill

Dechrau arni mewn Arweinyddiaeth | Medi 2026

Diwrnod Cysylltu Aber ECR | Hydref 2026

Digwyddiadau Blaenorol

Cynhadleddau Academaidd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar 2026 | Mehefin 2026

Ailfframio Methiant 2026 | Fawrth 2026

CYFARFOD ECR Digwyddiad Croeso 2026 | Ionawr 2026

Sgwrs Gyrfa ECR | Tachwedd 2025

 

Cymdeithasol Nadolig ECR | Rhagfyr 2025

 

Datblygu Cynigion Ymchwil Aruthrol | Hydref 2025

 

Sgwrs Gyrfa ac Ymchwil Cyn-fyfyrwyr | Medi 2025

1:30pm ar ddydd Iau, 25 Medi 2025 yn Ty Trafod, Y Ganolfan Deialog Ymchwil, Canolfan Ddelweddu, campws Penglais, PA

Rydym yn falch o’ch gwahodd i sgwrs ysblygu am yrfa a chynllun ymchwil gan y Dr Mike Trought, yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth ac ymchwilydd gwyddonol gwin sydd wedi’i gydnabod yn rhyngwladol.
 
Teitl y Digwyddiad: O Aber i Auckland: Gyrfa mewn Gwyddoniaeth a Gwin
 
Thema’r Ymchwil: Deall sut mae pridd a ffotosynthesis yn dylanwadu ar winllannoedd Marlborough i gyflawni arddull nodedig Sauvignon blanc Seland Newydd
 
Bydd Dr Trought yn rhannu ei daith gyrfa - o astudiaethau ym Mhrifysgol Aber i waith ymchwil yn Seland Newydd, dysgu yn Brifysgol Lincoln, gweithio fel gwyddonydd gwinfrwythau i Villa Maria, ac yn olaf fel gwyddonydd gwin ym Marlborough.  Mae ei stori yn pwysleisio llwybr ysbrydolus o fyfyriwr graddedig Aber i ymchwilydd rhyngwladol.
 
Rhaglen:
Sgwrs gyrfa:1.30yp – 2.30yp
Lluniaeth:2.30yp
Sgwrs ymchwil:3yp – 4yp
 
Manylion y digwyddiad:
Dyddiad:Dydd Iau 25ain Medi
Amser:1.30yp – 4:00yp
Lleoliad:Canolfan Ddeialog y Tŷ Trafod Ymchwil, Campws Penglais
 
Gobeithiwn y byddwch yn ymuno gyda ni ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn sy’n dathlu alumni Aber a phrofi’r cysylltiadau rhwng gwyddoniaeth, ymchwil a diwydiant gwin.

 

Encil ysgrifennu | Gorffennaf 2025

MANYLION: 1:00pm Dydd Llun 7 Gorffennaf, B1.07, Y Ganolfan Ddelweddu, Campws Penglais, PA

Rydym yn gyffrous i'ch gwahodd i Encil ysgrifennu! Os ydych chi'n gweithio ar erthygl i gyfnodolyn, monograff neu bapur ar gyfer cynhadledd, mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi!

Bydd y digwyddiad wedi'i drefnu i gynnwys amser penodol i ysgrifennu, trafodaeth grŵp a chyfleoedd i rwydweithio.  Mae dod at eich gilydd i ysgrifennu gyda chyfoedion eraill yn creu pwrpas cyffredin ac yn eich helpu i ganolbwyntio, felly rydym yn eich annog chi i gyd i ddod!

 

Dweud 'Na' Sefydlu Ffiniau lach yn y byd Academaidd | Ebrill 2025

MANYLION: 11:00am - 1:00pm ddydd Iau, 24 Ebrill 2025 dros Zoom

Ydych chi'n teimlo bod gofynion y byd academaidd yn eich llethu? Ydych chi'n cytuno i wneud gormod, hyd yn oed pan nad oes gennych yr amser na'r egni? Os felly, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Yn y gweithdy rhyngweithiol ar-lein hwn, byddwn yn ystyried pwysigrwydd gosod ffiniau personol. Byddwn yn trafod sut i adnabod eich anghenion, cyfleu eich ffiniau i eraill, a sicrhau eich bod yn cadw atynt pan fo angen. Byddwch yn deall pa ffiniau sydd angen y sylw mwyaf fel y gallwch ddysgu i ffynnu yn y byd academaidd. Byddwn yn ystyried y pynciau canlynol:

  • Pam rydyn ni'n cytuno i wneud pethau pan rydyn ni eisiau gwrthod mewn gwirionedd?
  • Sut allwn ni ddweud 'na' heb godi gwrychyn ein cydweithwyr?
  • Beth allwn ni ei wneud am bobl sy'n gwneud gofynion afresymol?

Gyda chymorth hwylusydd profiadol, byddwch yn creu strategaeth sy'n iawn i chi a'ch sefyllfa.

Erbyn diwedd y gweithdy hwn, byddwch wedi:

  • Deall elfennau allweddol sefydlu ffiniau iach.
  • Edrych ar dechnegau ac ymarferion ar gyfer creu ffiniau iach.
  • Ystyried ffyrdd o droi meddyliau sy’n eich cyfyngu yn feddyliau mwy cadarnhaol.
  • Gweithio trwy sefyllfa ymarfer.
  • Gweithio’n gydweithredol mewn amgylchedd cadarnhaol a chefnogol.

Cofrestrwch yma:
https://forms.office.com/e/E819kg5eTn

 

Cymdeithasol Nadolig ECR | Rhagfyr 2024

3:30 YP, Dydd Gwener 13 Rhagfyr, Bar Canolfan y Celfyddydau, Campws Penglais, PA

Ymunwch â ni am ddigwyddiad cymdeithasol Nadolig hamddenol i holl ECRs yr UA; cael sgwrs, dal i fyny a dod i adnabod ECRs eraill o bob rhan o'r Brifysgol neu fwynhau diod.
P’un a’i rydych am rwydweithio neu ymlacio, byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.
Pryd: Dydd Gwener 13 Rhagfyr o 3:30pm
Ble: Bar Canolfan y Celfyddydau – cadwch lygad amdanom gyda’n taflen (llun ynghlwm)

The Conversation | Tachwedd 2024

2:00pm - 4:00pm ddydd Mercher Tachwedd 27ain 2024, dros Zoom

Mewn cydweithrediad â Thîm Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus y Brifysgol, mae’r Rhwydwaith wedi trefnu gweithdy gydag un o olygyddion The Conversation.  

Mae'r sesiwn wybodaeth hon, sy’n cynnwys gweithdy ysgrifennu, ar gyfer aelodau’r Rhwydwaith ECR yn benodol. 

Bydd yn eich dysgu sut mae The Conversation yn gweithio a bydd yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd anacademaidd. 

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac mae angen eu harchebu ymlaen llaw yma:  https://www.eventbrite.co.uk/e/aberystwyth-university-writing-about-your-research-for-the-conversation-registration-1012756621317 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gweithdy neu am ysgrifennu ar gyfer The Conversation, cysylltwch ag Alice Earp yn y Tîm Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus yn ale@aber.ac.uk.

Sgwrs Ysbrydoledig am Yrfa Gan yr Athro Geoff Richards | Tachwedd 2024

3:00 YP - 4:30 YP, ddydd Mawrth, 5ed o Dachwedd yn y Ty Trafod, Hwb Deialog Ymchwil, Y Ganolfan Ddelweddu, Campws Penglais, PA

Ymunwch â ni am sgwrs ysbrydoledig am yrfa gan yr Athro Geoff Richards, gan rannu ei daith o un o raddedigion Aberystwyth i Gyfarwyddwr syfydliad ymchwil orthopedig blaenllaw AO yn Davos, y Swistir.

Dysgwch am uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei yrfa a thu hwntir byd adademaidd, a chael mewnwelediad i fyd ymchwil a diwydiant.

 

Achlysur Cymdeithasol y Rhwydwaith ECR | Hydref 2024

O 4:00pm ddydd Gwener, 18fed Hydref 2024 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Ymunwch â ni am ddigwyddiad cymdeithasol hamddenol i holl ECRs y Brifysgol; cael sgwrs, dal i  fyny a dod i adnabod ECRs eraill o bob rhan o’r Brifysgol neu fwynhau diod.  Os yw’r tywydd yn braf, rydym yn bwriadu mynd i’r dref neu lan y môr ar gyfer y rhai a hoffai barhau i gymdeithasu yn hwyrach yn y nos.
 
P’un a’i rydych am rwydweithio neu ymlacio, byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.

 

Achlysur Cymdeithasol y Rhwydwaith ECR | Awst 2024

O 4:00pm ddydd Iau 15fed Awst 2024 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth (cadwch lygad allan amdanom gyda’n taflen (llun isod))

Ymunwch â ni am ddigwyddiad cymdeithasol hamddenol i holl ECRs y Brifysgol; cael sgwrs, dal i  fyny a dod i adnabod ECRs eraill o bob rhan o’r Brifysgol neu fwynhau diod.  Os yw’r tywydd yn braf, rydym yn bwriadu mynd i’r dref neu lan y môr ar gyfer y rhai a hoffai barhau i gymdeithasu yn hwyrach yn y nos.
 
P’un a’i rydych am rwydweithio neu ymlacio, byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.

 

Gweithdy Cymrodoriaethau Ymchwil

10:00am - 12:30pm ddydd Iau, 27 Mehefin 2024 yn y Ganolfan Ddeialog Ymchwil, y Ganolfan Ddelweddu, campws Penglais, PA

Dysgwch fwy am:

  • Beth yw cymrodoriaeth ymchwil?
  • Sut mae gwneud cais?
  • Pa gymorth sydd ar gael?

Bydd cyfle hefyd i glywed am brofiadau ymgeiswyr llwyddiannus ac adolygwyr panel

Cofrestrwch yn https://forms.office.com/e/s94mNmJEG3

 

Achlysur Cymdeithasol y Rhwydwaith ECR | Mai 2024

O 4:30pm ddydd Gwener, 3ydd Mai 2024 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

 

The Conversation | Ebrill 2024

2:00pm - 4:00pm ddydd Mawrth, 16 Ebrill 2024 ar Zoom

Mewn cydweithrediad â Thîm Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus y Brifysgol, mae’r Rhwydwaith wedi trefnu gweithdy gydag un o olygyddion The Conversation.  

Mae'r sesiwn wybodaeth hon, sy’n cynnwys gweithdy ysgrifennu, ar gyfer aelodau’r Rhwydwaith ECR yn benodol. 

Bydd yn eich dysgu sut mae The Conversation yn gweithio a bydd yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd anacademaidd. 

 

ECRs Bragu Cymdeithasol a Sgwrs gan LSW | Chwefror 2024

2:30pm - 4:00pm ddydd Mawrth, 13 Chwefror 2024 yn y Ganolfan Ddeialog, campws Penglais, PA

Cyfarfod prynhawn cyfeillgar i gyfarfod a rhyngweithio ag ECRs ar gyfer datblygu dimensiynau proffesiynol a chymdeithasol, ac yna sgwrs ar gymdeithas Ddysgedig Cymru.

 

Cinio Cymdeithasol y Rhwydwaith ECR a Sgwrs ar Gyfleoedd Cyllido yng Nghymru | Ionawr 2024

12:45pm - 3:30pm ddydd Mawrth, 16 Ionawr 2024 yn y Ganolfan Ddeialog, campws Penglais, PA

Cysylltu cymuned Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa ym Mhrifysgol Aberystwyth am sgyrsiau egnïol, cydweithrediadau ac i wybod mwy am gyllid a ddarperir gan lywodraeth Cymru. 

Cyfarfod cyfeillgar yn y prynhawn i gwrdd a rhyngweithio ag ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i ddatblygu’n broffesiynol ac yn gymdeithasol, i’w ddilyn sgwrs ar gyfleoedd cyllido yng Nghymru gan Samantha Williams.

 

Llwybrau drwy'r byd Academaidd | Tachwedd 2023

3:00pm - 5:00pm ddydd Iau, 16 Tachwedd 2023 yn Medrus 1, campws Penglais, PA

Gweithdy a thrafodaeth:

  • Trafod y llwybrau amrywiol drwy’r byd academaidd
  • Gosod sail resymegol i ddisgwyliadau ar gyfer metrigau llwyddiant
  • Cwrdd a chymdeithasu ag aelodau eraill y rhwydwaith

 

Digwyddiad Agoriadol y Rhwydwaith ECR | Awst 2023

2:00pm - 3:30pm ddydd Mawrth, 8 Awst 2023 yn Medrus Mawr, campws Penglais, PA

Hoffem eich gwahodd i ddigwyddiad rhwydweithio cymdeithasol. Ariennir y digwyddiad gan Ysgol y Graddedigion, a’i nod yw cefnogi lles a datblygiad gyrfa ymchwilwyr. Mae croeso i chi ymuno â ni os oes gennych ddiddordeb mewn ymchwil ac ystyried eich hun yn Ymchwilydd ar Ddechrau eich Gyrfa. 

Pwyllgor y Rhwydwaith ECR

Dr Aiswarya Girija (aig15@aber.ac.uk)
Rwy'n Gymrawd Ymchwil Strategol yn IBERS, campws Gogerddan, yn gweithio ar addasiadau planhigion i straen a maeth bwyd. Mae’r ganolfan ymchwil a chymdeithasol i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn y Brifysgol yn rhoi cyfle i gyfarfod, cysylltu a rhannu ag ymchwilwyr ar draws pob disgyblaeth, er mwyn meithrin y sgiliau a chreu’r rhwydweithiau sydd eu hangen i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol.  Mae’r ganolfan yn annog awgrymiadau am ddigwyddiadau ac adnoddau, ac yn cynnal cyfarfodydd a gweithdai ar y pynciau y mae galw mawr amdanynt. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynglŷn â threfnu digwyddiadau cymdeithasol, mae croeso i chi gysylltu â mi. 

Dr Elena Anna Spagnuolo (eas17@aber.c.uk)
Rwy'n dysgu Eidaleg yn yr Adran Ieithoedd Modern ac rwy'n Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar brosiect ymchwil a ariennir gan yr Academi Brydeinig yn ymchwilio i'r cynllun i symud plant o’r Eidal a ddigwyddodd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Fi yw cynrychiolydd y rhwydwaith ECR yn yr Adran Ieithoedd Modern. Mae croeso i chi gysylltu â mi os hoffech wybod mwy am y Rhwydwaith. 

 

 

Hardik Patel (hap51@aber.ac.uk)

Mae Hardik Patel yn Ymchwilydd PhD yn y Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar allu serchwellt teff (eragrostis tef) i osgoi cwympo ar ei orwedd, trwy fiomecaneg planhigion, ffisioleg planhigion a dull omig. Mae ganddo MSc mewn Geneteg a Bridio Planhigion ac mae ganddo gefndir ym maes gwella cnydau, gyda phrofiad ymchwil mewn bridio cotwm a chodlysiau. Mae ei gyflawniadau academaidd yn cynnwys Medal Aur am ragoriaeth academaidd, PMRF (Cymrodoriaeth Ymchwil y Prif Weinidog) a'r Wobr ar gyfer y Traethawd Meistr Gorau. Mae’n teimlo’n angerddol dros amaethyddiaeth gynaliadwy, dulliau ymchwil arloesol a chefnogi datblygiad ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa trwy fentrau academaidd cydweithredol.

Dr Hannah Rees (har55@aber.ac.uk)
Rwy'n Gymrawd Ymchwil Strategol yn IBERS, yn gweithio ar rythmau biolegol planhigion.  Un o amcanion y Rhwydwaith ECR yw gweithio gydag ysgol y graddedigion i helpu i drefnu hyfforddiant ac i gael adborth am anghenion ymchwilwyr.  Mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych syniadau am ddigwyddiadau a gweithdai yr hoffech eu gweld.

 

 

Dr Hannah Vallin (hev1@aber.ac.uk)
Rwy'n Wyddonydd Ymchwil yn IBERS, ac rwy’n ymddiddori mewn meta-bargodio DNA a sut y gellir ei gymhwyso i ddadansoddi ymborth, monitro glaswelltir, deall cymunedau o blanhigion a’r rhyngweithio rhwng planhigion-llysysyddion. Rwy'n angerddol iawn am y rhwydwaith ECR a'r manteision y mae’n eu cynnig i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa, ac rwy’n annog unigolion o'r un anian i ymuno. Rwy'n gyfrifol am gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y rhwydwaith ac mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych unrhyw awgrymiadau i wella ein presenoldeb ar-lein.

Valentine Borges (vab12@aber.ac.uk)

Rwy'n gweithio tuag at Ddoethuriaeth mewn Ffiseg gyda'r grŵp gwyddor deunyddiau. Mae fy ngwaith yn cynnwys addasu wyneb nanoddiemyntau er mwyn astudio eu gallu i dderbyn moleciwlau cyffuriau heterogylchol, ynghyd â theilwra eu cyfansoddiad i wneud y gorau o'u gallu i lwytho a rhyddhau cyffuriau. Rydw i’n teimlo yr un mor angerddol dros gyfleu gwyddoniaeth i bobl felly rwy'n gweithio ar gyfres podlediad ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Os oes diddordeb gennych chi i gyfleu eich gwaith i'r gymuned, mae croeso i chi gysylltu â mi ar vjb4 neu vab12@aber.ac.uk neu ysgrifennwch at eich cynrychiolydd ECR adrannol.

 

Dr Yasir Saleem (yss1@aber.ac.uk)
Rwy’n ddarlithydd yn yr adran Cyfrifiadureg. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, Rhyngrwyd Pethau, dinasoedd clyfar, rhwydweithiau cerbydau, a rhwydweithiau diwifr.  Mae croeso i chi gysylltu â mi os hoffech wybod mwy am y rhwydwaith ECR. 

Cynrychiolwyr Adrannol ECR

 

Adran Cynrychiolydd E-bost
Cyfrifiadureg Yasir Saleem

yss1@aber.ac.uk

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Nick Watson

nlw@aber.ac.uk

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Adam Hepburn 

ajh24@aber.ac.uk

Hanes a Hanes Cymru Diana Valencia-Duarte

div5@aber.ac.uk

Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Hannah Vallin

hev1@aber.ac.uk

Y Gwyddorau Bywyd Chelsea Davis

chd31@aber.ac.uk

Y Gwyddorau Bywyd Tina Rai

tir5@aber.ac.uk

Mathemateg Adil Mughul

aqm@aber.ac.uk

Ieithoedd Modern Elena Anna Spagnuolo

eas17@aber.ac.uk

Ffiseg Gwenllian Williams

gww16@aber.ac.uk

Seicoleg Ioana Mihai

iom7@aber.ac.uk

Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Jamie Medhurst

jsm@aber.ac.uk

Cronfa Datblygiad Gyrfa Rhwydwaith ECR

*** MAE'R GALWAD HON WEDI'I CHAU ***

Nod rhwydwaith ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa (ECR) Prifysgol Aberystwyth yw hwyluso datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) er mwyn annog datblygiad gyrfa ei hymchwilwyr.

Er mwyn gweithredu ar y nod hwn, mae cronfa datblygiad gyrfa rhwydwaith ECR (a ariennir gan gynfyfyrwyr a chyfeillion AU) yn cynnig hyd at £500, i helpu aelodau rhwydwaith ECR i fanteisio ar gyfleoedd DPP a fydd yn hwyluso datblygiad eu gyrfa. Gall cyfleoedd DPP gynnwys (ymhlith pethau eraill) cyrsiau neu weithdai, profiadau gwaith mewn labordai, sesiynau mentora a hyfforddiant, a mynediad at lwyfannau dysgu ar-lein, os nad yw'r cyfleoedd hyn ar gael yn barod o fewn y brifysgol. 

Ni fydd cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer mynd i gynadleddau, gan fod y cyfle hwn eisoes yn cael ei ariannu gan y Brifysgol drwy gronfa Gooding a’r gronfa cynadleddau, fel y nodwyd ar wefan rhwydwaith ECR (https://www.aber.ac.uk/cy/grad-school/earlycareerresearchernetwork/#useful-links).

Rhaid i ymgeiswyr fod yn aelod o'r rhwydwaith ECR (mae'n rhad ac am ddim i ymuno - https://www.aber.ac.uk/cy/grad-school/earlycareerresearchernetwork/#join-ecr-network) i wneud cais am gyllid y gronfa. Dim ond unwaith y gall aelodau gweithredol wneud cais i’r gronfa. 

Gall y costau cymwys ar gyfer cyfleoedd DPP gynnwys ffioedd DPP, costau teithio a chostau llety. Er mwyn gwneud cais i dderbyn y cyllid, cyflwynwch y ffurflen gais a CV hyd at 2 dudalen (a ddylai gynnwys eich hanes addysgol (gradd a thu hwnt), hanes cyflogaeth, grantiau a gawsoch, a’ch gwaith cyhoeddedig), ar ffurf dogfen pdf i bwyllgor rhwydwaith ECR ecrn@aber.ac.uk.

Bydd y ceisiadau yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf pwyllgor rhwydwaith ECR, a gynhelir ar ddydd Gwener 1ᵃᶠ pob mis. Bydd yr ymgeiswyr yn derbyn neges am ganlyniad y cais am gyllid yn fuan ar ôl y cyfarfod pwyllgor. 

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyflwyno/trafod eu profiad DPP gyda'r rhwydwaith ECR a bydd rhaid iddynt gwblhau adroddiad byr o’r profiad hwnnw, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan rhwydwaith ECR. Os oes unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â ecrn@aber.ac.uk.

Application form / Ffurflen gais