Darpariaeth Hyfforddiant
Rydyn ni eisiau i chi gwblhau eich gradd fel eich bod chi yn y sefyllfa orau bosibl i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n dod i’ch rhan. Mae gradd ymchwil yn aml yn ymwneud â sefydlu eich annibyniaeth a’ch enw da deallusol, a’n nod ni bob amser yw eich helpu i wneud hynny. Yma, fe welwch wybodaeth am y gwahanol fathau o hyfforddiant rydyn ni’n eu cynnig (o ran fformat a lleoliad) yn ogystal â chyfarwyddiadau ar sut i gofrestru ar gyfer a/neu gymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddi amrywiol.
Darpariaeth graidd hyfforddiant
Mae UKRI yn darparu trosolwg cynhwysfawr o’r sgiliau cysyniadol a chyffredinol maen nhw’n yn eu hystyried yn arwydd o ymchwilydd proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi’n dda. Mae’r canllawiau hyn yn cynnig ‘Safon Aur’ o ddarpariaeth, a dyma’r hyn rydyn ni’n ceisio ei gyflawni. Bydd y ddarpariaeth hon yn mynd i’r afael â datblygu sgiliau sy’n berthnasol i bob myfyriwr ymchwil, ac sydd hefyd yn cyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol, moesegol a moesol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe y Cyngor Ymchwil agosaf at eich maes astudiaeth e.e. BBSRC, NERC, ESRC, AHRC ac ati. Fel enghraifft, gallwch ddarllen canllawiau hyfforddi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Bydd y ddarpariaeth graidd yn cael ei chyflwyno trwy Ysgolion Hyfforddi blynyddol: digwyddiadau dwys dros sawl diwrnod sy’n canolbwyntio ar sgiliau craidd a hyfforddiant rhyngddisgyblaethol sylfaenol. Disgwylir i fyfyrwyr fynychu Ysgol yn ystod pob blwyddyn o’u gradd PhD, gan dderbyn tua 20-30 awr o hyfforddiant seminar ymhob un.
Mynychu sesiynau addysgu
Mae sesiynau arsylwi yn ffordd hawdd ac anffurfiol i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig feithrin sgiliau. Yn y senario hwn, mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn mynychu sesiynau addysgu modiwl israddedig neu ôl-raddedig ac yn cymryd rhan yn y broses ddysgu ond ni fydd angen iddyn nhw gwblhau asesiad y modiwl. Yn dechnegol, nid yw myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wedi cofrestru ar gyfer y modiwlau, ac nid oes ganddyn nhw unrhyw rwymedigaethau y tu hwnt i gyfranogi yn y dysgu.
Mae modd meithrin llu o sgiliau trwy fynychu sesiynau addysgu, gan gynnwys: GIS, Synhwyro o Bell, codio, R, Python, sgiliau ysgrifennu, NVivo, dadansoddi data ansoddol a meintiol ac ati. Mae’r rhain yn sgiliau sy’n cael eu haddysgu’n rheolaidd o fewn adrannau, ac nid oes unrhyw ragofynion gan mai sesiynau rhagarweiniol eu natur yw’r rhain yn aml.
Er nad yw’r sesiynau hyn yn cael eu cofrestru ar eich cofnod myfyriwr, mae’n dal yn ofynnol i fyfyrwyr gofrestru er mwyn mynychu – yn enwedig er mwyn sicrhau bod digon o le yn yr ystafell addysgu i fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig ymuno â’r grŵp. Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch yn gallu defnyddio adnoddau Blackboard a bydd staff yn cael gwybod eich bod yn cyfranogi. Gan gynullydd y modiwl mae’r gair olaf o ran caniatâd i fynychu, a dylid trafod hyn gyda’r tîm goruchwylio.
Er mwyn cofrestru i fynychu sesiwn addysgu, cysylltwch ag arweinydd myfyrwyr ôl-raddedig eich adran.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Sesiynau hyfforddi pwrpasol wedi’u targedu yw sesiynau DPP, ac mae’r Academi Ddoethurol yn eu darparu i fyfyrwyr trwy gydol y flwyddyn. Fel arfer, maen nhw’n canolbwyntio ar dechnegau methodolegol neu sgiliau datblygu proffesiynol penodol (cyflwyniadau poster, ysgrifennu crynodebau gwyddonol, trefnu cynhadledd ac ati). Bydd sesiynau DPP yn cael eu comisiynu gan arbenigwyr yn y sgiliau priodol sy’n cael eu cynnig.
Gallwch ddod o hyd i sesiynau DPP a chofrestru ar eu cyfer trwy MyPGR.
Hyfforddiant Allanol
Mae ehangder ac amrywiaeth prosiectau ymchwil yn golygu nad oes modd i ddarpariaeth fewnol Prifysgol Aberystwyth ddiwallu holl anghenion hyfforddi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Yn yr achosion hyn, rydyn ni’n eich annog i archwilio ystod o ddarparwyr allanol o ansawdd uchel. Un ffynhonnell o’r fath yw’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil (NCRM) – a fydd yn cael ei disodli cyn bo hir gan yr Hwb Galluogrwydd Ymchwil (RCH).
Mae costau ynghlwm wrth ambell hyfforddiant, a dylid trafod y rhain bob amser gyda goruchwyliwr cyn cofrestru, rhag ofn bod hyfforddiant cyfatebol ar gael yn fewnol. Dylai myfyrwyr hefyd edrych ar gymdeithasau proffesiynol a chyrff aelodaeth sydd hefyd yn darparu hyfforddiant ymchwil a datblygiad proffesiynol i fyfyrwyr yn eu maes.
Sesiynau un i un
Gallai myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gofnodi yn eu Cynllun Hyfforddi Unigol unrhyw hyfforddiant sy’n cael ei gynnal ar sail un i un, gyda rhywun sy’n arbenigwr cydnabyddedig yn y sgiliau/techneg maen nhw’n ceisio eu datblygu (gan gynnwys cydweithwyr allanol). Byddai’r tîm goruchwylio yn cytuno ar y sesiynau hyn (a nhw’n aml fydd yn eu darparu hefyd). Rydyn ni’n gobeithio y bydd cadw cofnod o’r sesiynau hyn yn cydnabod yr hyfforddiant parhaus gyda thimau goruchwylio ac arbenigwyr eraill ar draws y brifysgol.
Cyfeiriadur Arbenigedd
I’w gadarnhau
