Y Gymuned Ôl-raddedig
Mae meithrin cymuned ôl-radd fywiog a chydlynol yn rhan allweddol o genhadaeth yr Academi Ddoethurol. Isod, fe welwch weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i annog cydweithio, meithrin perthnasoedd, creu rhwydweithiau a chynnal amgylchedd deallusol bywiog. Rydyn ni’n annog pob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig i gyfrannu at y gweithgareddau hyn gymaint â phosibl. Er bod goruchwylwyr a mentoriaid yn bwysig, y corff myfyrwyr sy’n gwneud i raglen ôl-raddedigion ffynnu yn y pen draw.
Hyfforddiant ac Ysgolion Hyfforddi
Tra bod hyfforddiant yn ofyniad, mae hefyd yn gyfle i gyfarfod â myfyrwyr o bob rhan o’r brifysgol a thu hwnt. Rydyn ni’n aml yn cynllunio ein hyfforddiant i gynnwys elfen o feithrin cymuned, gan ddarparu lle ar gyfer sgyrsiau a dadleuon trawsddisgyblaethol. Mae’r Ysgolion Hyfforddi yn ddigwyddiadau aml-ddiwrnod dwys sy’n digwydd bob blwyddyn ac yn gyfle arbennig o ddefnyddiol i gyfarfod â’ch cyd-fyfyrwyr ôl-raddedig.
Cadwch lygad ar yr Hwb Hyfforddiant am fanylion digwyddiadau trawsddisgyblaethol a rhyng-sefydliadol. Mae rhai cyfleoedd hyfforddi (fel Ysgol Theori Gregynog) yn darparu cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr gyfarfod â’i gilydd wrth drafod cwestiynau neu broblemau penodol mewn lleoliadau unigryw.
Rhwydwaith Ôl-raddedig
I’w gadarnhau
Cyfres Ddarlithoedd y Brifysgol
I’w gadarnhau
Y Gynhadledd Ôl-raddedigion
I’w gadarnhau
Cystadlaethau ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Mae Prifysgol Aberystwyth yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau y tu hwnt i’r brifysgol. Isod, mae rhestr o gyfleoedd niferus ar gyfer ymestyn cyrhaeddiad eich ymchwil ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd ehangach.
The Conversation: cylchgrawn ar-lein sy’n cyhoeddi ymchwil academaidd ar gyfer cynulleidfa eang. Mae The Conversation yn cynnal cyrsiau hyfforddi rheolaidd ar sut i ysgrifennu ar gyfer y platfform.
Three Minute Thesis: cystadleuaeth ryngwladol sy’n canolbwyntio ar rannu eich ymchwil gyda grwpiau defnyddwyr, cynulleidfaoedd dinesig a’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae myfyrwyr yn recordio fideo o’u hunain yn esbonio eu hymchwil i gynulleidfa eang mewn llai na thri munud. Mae dros 900 o brifysgolion mewn mwy na 85 o wledydd yn cynnal y gystadleuaeth erbyn hyn. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cystadlu yn 3MT, edrychwch ar ein tudalen bwrpasol.
Dance Your PhD: Mae’r gystadleuaeth Dance Your PhD yn cael ei chynnal gan yr American Association for the Advancement of Science a’r cylchgrawn Science, gyda nawdd y cwmni deallusrwydd artiffisial a thechnoleg cwantwm SandboxAQ. Mae cystadleuwyr yn cyflwyno dawns ddeongliadol o’u gwaith PhD i YouTube ac yna’n cyflwyno dolen gyda’u ffurflen gais. Mae’r dyddiad cau blynyddol fel arfer tua diwedd mis Chwefror. Rydyn ni’n bwriadu cynnig gweithdy i gefnogi cyflwyniadau DYPhD cyn bo hir, felly cadwch lygad am unrhyw ddatblygiadau.
