Dechrau Arni
Yn ystyried gwneud gradd ymchwil?
Mae yna lawer o lwybrau posibl ar gyfer dilyn gyrfa ym maes ymchwil. Y PhD yw’r llwybr mwyaf adnabyddus, ond mae posibiliadau eraill yn cael eu trafod isod. Mae pob opsiwn yn gofyn am gyflwyno darn gwreiddiol o ymchwil, ac mae pob un yn gofyn am arholiad viva voce gan dîm arholi sy’n gorfod cynnwys arbenigwr o’r tu allan i Brifysgol Aberystwyth.
Doethur mewn Athroniaeth (PhD) traddodiadol: cymhwyster ymchwil lefel uchel. I ennill PhD, mae’n rhaid i chi ddangos (1) arbenigedd mewn disgyblaeth neu faes penodol, (2) lefel uchel o sgiliau ymchwil a chymhwysedd proffesiynol a (3) bod eich gwaith wedi gwneud cyfraniad gwreiddiol a sylweddol i faes ymchwil penodol. Mae’r rhaglen amser llawn yn para tair blynedd, a’r rhaglen ran-amser yn para chwe blynedd. Fodd bynnag, gallwch ystyried fformatau amgen yn dibynnu ar lle rydych chi o ran eich gyrfa a’ch profiad blaenorol.
Athro mewn Athroniaeth (MPhil): rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ennill profiad ymchwil trwy gyfnod byrrach o ymchwil na PhD, a lle mae’r angen am gyfraniad gwreiddiol ac arwyddocaol yn llai sylweddol. Mae’r MPhil yn radd blwyddyn (amser llawn), neu ddwy flynedd (rhan-amser). Mae posibilrwydd i fyfyrwyr sy’n astudio MPhil uwchraddio i wneud PhD, yn amodol ar broses gymeradwyo fewnol.
Doethuriaeth Broffesiynol (DProf): Cymhwyster lefel PhD wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr mewn cyflogaeth sydd â diddordeb mewn cynnal ymchwil annibynnol yn eu gweithle. Mae prosiectau yn aml yn ymestyn capasiti gwybodaeth y cyflogwr. SYLWER: nid ydym yn derbyn myfyrwyr ar y rhaglen hon mwyach. Fodd bynnag, mae cynlluniau DProf newydd yn yr arfaeth.
Sut mae dechrau?
Y cam cyntaf yw cadarnhau eich bod yn gymwys. Mae gwybodaeth am gymhwystra ar gael yn adrannau 3-5 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Yr ail gam yw dewis un o ddau lwybr posibl:
- Prosiect dan arweiniad myfyriwr: prosiect sy’n cael ei sbarduno gan syniad y myfyriwr ei hun ar gyfer darn o ymchwil. Os oes gennych chi syniad posibl ar gyfer prosiect ymchwil, chwiliwch am rywun ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd ag arbenigedd yn y maes hwnnw a chysylltwch â’r unigolyn hwnnw am eich prosiect. Mantais prosiectau dan arweiniad myfyrwyr yw eu bod nhw’n cael eu hysbrydoli gan eich syniadau chi. Yr anfantais yw bod angen i chi geisio cyllid (e.e., gan Abordo, UKRI, cyllid llywodraethol o famwledydd ac ati) neu hunan-ariannu er mwyn cwblhau’r prosiect.
- Ymchwil dan arweiniad goruchwyliwr: gradd ymchwil a ddatblygwyd gan aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth ac sydd wedi’i hariannu a’i hysbysebu i ddarpar fyfyrwyr. Mae’r prosiectau PhD hyn yn cael eu hysbysebu mewn ffynonellau amrywiol, gan gynnwys bwletin y brifysgol a gwefannau fel Find a PhD. Noder: mae staff y brifysgol weithiau’n rhestru meysydd prosiect PhD ar eu gwefan. Nid yw’r rhain yr un fath â phrosiectau PhD wedi’u cyllido.
Mantais graddau ymchwil dan arweiniad prosiect yw eu bod fel arfer yn cael eu hariannu’n llawn (sy’n golygu bod ffioedd yn cael eu talu a’ch bod chi’n derbyn cyflog). Yr anfantais bosibl yw eich bod chi’n gweithio ar brosiect rhywun arall (er bod manteision i hynny hefyd). Mae graddau ymchwil dan arweiniad prosiect fel arfer ar gyfer cymhwyster PhD (h.y. anaml y maen nhw ar gael ar gyfer graddau MPhil neu DProf).
Derbyniadau a chyllid
Mae gwneud cais am radd ymchwil yn broses dau gam. Yn gyntaf, rydych chi’n llenwi ffurflen gais ar y dudalen derbyniadau ôl-raddedigion. Os yw’n brosiect dan arweiniad myfyriwr, rydyn ni’n eich annog i gysylltu â darpar oruchwyliwr ymlaen llaw i wneud yn siŵr bod y cais mor gryf â phosibl. Dylai’r rhai sy’n gwneud cais am radd ymchwil dan arweiniad prosiect hefyd gysylltu ag arweinydd y prosiect i asesu a yw eu profiad yn addas. Bydd adrannau yn gofyn i chi gael cyfweliad cyn iddyn nhw eich derbyn ar eu rhaglen.
Mae’r ail gam yn ymwneud â chyllid. Ar gyfer prosiectau dan arweiniad myfyriwr, bydd eich darpar oruchwyliwr yn gallu cynnig cyngor o ran addasrwydd eich prosiect ar gyfer gwahanol ffrydiau ariannu allanol. Mae’r dirwedd ariannu yn gymhleth, gyda llawer o lwybrau posibl i gael cymorth. Mae’n well trafod pa opsiynau sydd ar gael gyda’ch darpar oruchwyliwr ymlaen llaw. Mae cyllid allanol yn broses ymgeisio ar wahân ac yn aml yn digwydd ar ôl i’r myfyriwr gael ei dderbyn ar raglen. Bydd angen i fyfyrwyr hunangyllido’r prosiectau hynny nad ydynt yn addas ar gyfer cyllido allanol.
I gael gwybodaeth am y mathau o opsiynau cyllid PhD sydd ar gael, ewch i’n tudalen cyllid ôl-raddedigion.
Gofynion preswylio
Rydyn ni’n disgwyl i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig amser llawn breswylio yn ardal Aberystwyth (h.y. o fewn pellter teithio dyddiol cyfleus i’r Brifysgol) am gyfnod eu cwrs (ac eithrio cyfnodau hir o waith maes). Mae hyn er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hyfforddi rydyn ni’n eu cynnig ac oherwydd ein bod ni’n credu ym mhwysigrwydd cymuned ôl-radd gref a chydlynol.
Mae myfyrwyr rhan-amser hefyd yn cael eu hannog i breswylio yn ardal Aberystwyth. Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod na fydd hyn bob amser yn bosibl oherwydd amgylchiadau personol amrywiol. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhan-amser gwblhau eu horiau hyfforddi blynyddol, gyda hynny’n golygu gofyniad i dreulio cyfnodau penodol o amser ar y campws. Mae rhagor o fanylion am oriau hyfforddi ar y dudalen hyfforddiant.
Mae gofynion preswylio penodol mewn grym ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol a rhaid cadw atyn nhw at ddibenion fisa. Ewch i’r tudalennau fisa rhyngwladol am fanylion.
Nid oes disgwyl i fyfyrwyr DProf breswylio yn Aberystwyth heblaw ar gyfer yr ysgolion hyfforddi.
Wrth Gyrraedd
Yr wythnos groeso ac ymgartrefu
Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd mae digwyddiad croeso ar draws y brifysgol gyda’r nod o helpu myfyrwyr ar bob lefel i gael eu traed danynt. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Undeb y Myfyrwyr yn cynnal cyfarfod cyfarch anffurfiol ar gyfer yr holl fyfyrwyr ymchwil. Dylai eich adran benodol chi hefyd gynnal digwyddiadau sefydlu ar eich cyfer yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n bwysig eich bod chi’n mynychu’r sesiynau hyn gan eu bod yn darparu gwybodaeth hanfodol am eich gradd. Mae’n bosibl y bydd noddwyr myfyrwyr sy’n cael eu cyllido’n allanol yn cynnal digwyddiadau ymgynefino iddyn nhw.
Mae sefydlu ôl-raddedigion yr Academi Ddoethurol yn digwydd ganol mis Hydref. Bydd yn rhoi sylw i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan yr Academi Ddoethurol ac agweddau cyffredinol ar fywyd fel ymchwilydd ôl-raddedig.
Cofrestru
Rhaid i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gofrestru ar-lein ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, ac mae’n rhaid gwneud hynny ar y campws. Os ydych chi’n fyfyriwr newydd, byddwch yn cael gwahoddiad i gofrestru pan fyddwch wedi cwblhau’r broses dderbyn. Os na fyddwch yn cofrestru, ni fyddwch yn cael defnyddio adnoddau’r brifysgol (llyfrgell, TG, adeiladau ac ati). Rhaid i fyfyrwyr sy’n dychwelyd hefyd gofrestru o fewn y ffenestr gofrestru neu mae perygl iddyn nhw golli mynediad at yr adnoddau hyn hefyd.
Mae eich dyddiad cofrestru cychwynnol hefyd yn gosod yr amserlen ar gyfer cwblhau eich cwrs.
Dyddiadau cychwyn
Er bod gan Brifysgol Aberystwyth ei dyddiadau cychwyn ei hun, mae'n bosibl y bydd gan gyllidwyr allanol ddyddiadau cychwyn sy'n gynharach neu'n hwyrach. Fel arfer, mae hyn yn fater o ychydig ddyddiau neu wythnos neu ddwy, ond gall arwain at gymhlethdodau, yn enwedig i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n cael eu cyllido. Mewn achosion o'r fath, mae'n well siarad â'r corff cyllido allanol i sicrhau cofrestru didrafferth.
Llety
Mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig newydd yn cael cynnig lle gwarantedig mewn llety sy’n eiddo i’r brifysgol neu lety a reolir ganddi ar gyfer blwyddyn gyntaf eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan dybio eu bod nhw’n gwneud cais am le mewn llety erbyn 1 Medi. Ymatebwch i gynnig llety gan y Swyddfa Llety erbyn y dyddiad cau er mwyn sicrhau eich lle. Er eich bod yn sicr o gael lle mewn llety prifysgol, mae’r lleoliad a/neu’r math o ystafell yn amrywiol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i safle llety myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
Y Dreth Gyngor
Mae myfyrwyr PhD amser llawn sy'n byw mewn llety prifysgol, neu lety preifat gyda myfyrwyr eraill, wedi'u heithrio rhag talu’r dreth gyngor cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru. Os ydych chi'n byw mewn llety preifat gydag unigolion nad ydynt yn fyfyrwyr, mae gostyngiad i'r dreth gyngor. Cymerwch olwg ar ein tudalen Treth Gyngor am ragor o fanylion.
Prawf o statws myfyriwr
Gallwch lawrlwytho prawf o'ch statws myfyriwr o'ch cofnod myfyriwr cyn belled â'ch bod wedi cofrestru. Os oes angen 'prawf o statws' arnoch pan fydd eich cyfnod cofrestru drosodd (ond cyn i chi gyflwyno'ch traethawd ymchwil), gallwch wneud cais yn academi.ddoethurol@aber.ac.uk Dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol yn eich e-bost:
- eich enw a'ch rhif myfyriwr
- i ble yr hoffech i'r dystysgrif gael ei hanfon
- at ba ddiben y mae angen y dystysgrif.
Dylech ganiatáu o leiaf dri diwrnod gwaith i'ch tystysgrif gael ei pharatoi.
Dyddiadau cychwyn amgen
Os ydych chi’n dechrau’ch gradd ymchwil ar adeg heblaw diwedd mis Medi/dechrau Hydref, dylech gysylltu â’ch adran/adrannau am gyngor a manylion ymgartrefu. Bydd angen i chi gwblhau’r broses cofrestru ar-lein trwy eich Cofnod Myfyriwr. Bydd cofrestru ar gael ar eich cofnod 5 diwrnod cyn y dyddiad cychwyn, ac mae’n rhaid i chi gwblhau’r broses gofrestru ar-lein o fewn 5 diwrnod ar ôl eich dyddiad cychwyn swyddogol.
Gwasanaethau a Chymorth
Goruchwylio a hyfforddiant
Mae arweiniad a mentora gan eich tîm goruchwylio yn elfen allweddol o unrhyw radd ymchwil. Rydyn ni’n eich annog i gysylltu â’ch goruchwylwyr yn fuan ar ôl cyrraedd gan mai nhw fydd eich pwynt cyswllt cyntaf o ran eich helpu i ymgynefino â’ch gweithfan a nhw hefyd fydd yn eich cyfeirio at y prosesau pwysig sy’n rhan o daith ymchwil ôl-raddedig. Fe fyddan nhw hefyd yn ffynhonnell allweddol o gefnogaeth i’ch helpu i benderfynu pa fath o weithgareddau hyfforddi fydd eu hangen ar gyfer eich prosiect, ac i nodi agweddau eraill ar eich datblygiad proffesiynol a fydd o fudd ehangach i chi.
Mae ein hamgylchedd hyfforddi wedi'i lunio i ddiwallu anghenion pob unigolyn, er mwyn eich helpu i wneud y mwyaf o'r sgiliau y byddwch yn eu meithrin trwy gydol eich rhaglen. Y cam cyntaf a phwysicaf yw gweithio'n agos gyda'ch tîm goruchwylio i gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu. Bydd y dadansoddiad hwn yn helpu i nodi'r meysydd datblygu sgiliau a fydd yn cefnogi eich ymchwil orau – ac, yn ehangach, eich datblygiad fel gweithiwr ymchwil proffesiynol.
Anabledd a chymorth dysgu
Mae’r Academi Ddoethurol wedi ymrwymo i sicrhau bod ein rhaglenni ôl-raddedig yn hygyrch i ystod amrywiol o fyfyrwyr, er enghraifft y rhai sydd â heriau corfforol/iechyd meddwl, anableddau dysgu, y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu, myfyrwyr traws ac anneuaidd a myfyrwyr o gefndiroedd crefyddol, dosbarth neu ethnig amrywiol. Os hoffech weld pa drefniadau sy’n bosibl ar gyfer eich anghenion penodol, cysylltwch â’n hymgynghorwyr hygyrchedd cyn cyrraedd. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei ddarparu ar gael ar ein
tudalennau Gwasanaethau Hygyrchedd.
Ar gyfer myfyrwyr a ariennir gan UKRI, ewch i’w tudalen cymorth i ddeiliaid grantiau neu cyfeiriwch at yr adnoddau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n cael eu darparu gan gyrff cyllido unigol.
Cymorth lles
Mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gallu elwa ar ystod eang o gymorth lles sydd wedi’i gynllunio i’w helpu i ymdopi â phwysau academaidd a heriau personol. Mae’r Gwasanaeth Lles Myfyrwyr yn darparu cyngor cyfrinachol ar faterion fel gorbryder, profedigaeth, straen llwyth gwaith a phryderon iechyd meddwl parhaus, gan gynnig apwyntiadau cwnsela un i un, adnoddau ar-lein a sesiynau galw heibio rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal â’r cymorth craidd hwn, gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio Wisdom Wellbeing, rhaglen gymorth 24/7 rhad ac am ddim sy’n cynnig cyswllt uniongyrchol â chwnselwyr cymwysedig dros y ffôn, sgwrs ar-lein, galwad fideo ac ap pwrpasol, ynghyd ag ystod eang o adnoddau hunangymorth a chyngor arbenigol.
Rheoli eich Gradd
MyPGR
System rheoli ôl-raddedigion yw MyPGR sydd wedi'i chynllunio i hwyluso gwahanol agweddau ar eich gradd, megis cofnodi cyfarfodydd goruchwylio, monitro blynyddol, Dadansoddiad o Anghenion Datblygu a hyfforddiant, a phrosesau a cheisiadau gweinyddol eraill.
Bydd myfyrwyr yn cael mewngofnodi i MyPGR ar ôl cwblhau'r holl dasgau cofrestru. Rydyn ni'n diweddaru MyPGR yn rheolaidd i hwyluso ystod o brosesau prifysgol.
Newid goruchwyliwr
Os yw myfyrwyr eisiau newid goruchwyliwr, y cam cyntaf yw cysylltu ag Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig yr Adran. Byddant yn trefnu trafod y newid posibl ac yna’n gallu sbarduno'r broses newid swyddogol ar MyPGR. Sylwch y gallai cyllidwyr unigol fod â rheolau penodol sy'n ymwneud â newidiadau goruchwylio, felly bydd angen i fyfyrwyr wirio a yw hyn yn berthnasol cyn trafod newid gyda'u Harweinydd Ymchwil.
Newid cofrestriad
Gall myfyrwyr newid eu statws cofrestru o amser llawn i ran-amser neu fel arall yn ystod cyfnod cofrestru eu rhaglen. Mae manylion am yr amserlenni disgwyliedig i’w gweld isod. Gellir sbarduno newidiadau cofrestru trwy eich cofnod myfyriwr. Rydyn ni'n awgrymu’n gryf bod myfyrwyr yn ceisio cyngor cyn newid eu statws cofrestru gan y gallai gwneud hynny fod â goblygiadau i'w cyllid, y dreth gyngor a'u fisa.
Lleoliadau
Mae rhai cyllidwyr PhD yn gofyn i fyfyrwyr gwblhau lleoliad ymchwil ymarferol fel rhan o'u rhaglen. Gall hyn fod yn gyfle gorfodol, cyfle sy'n cael ei argymell neu'n opsiwn dewisol, yn dibynnu ar y cynllun cyllido. Mae'r rhaglenni lleoliad hyn yn rhoi cyfleoedd i ymchwilwyr ddatblygu eu cymhwysedd proffesiynol a defnyddio eu sgiliau mewn cyd-destunau newydd megis mewn cyrff sector cyhoeddus, elusennau neu gwmnïau preifat.
Gwelwyd bod lleoliadau yn ffordd effeithiol iawn o gefnogi datblygiad gyrfa ac o wella sgiliau proffesiynol. Os nad yw eich rhaglen yn cynnwys cyllid i gwblhau cyfnod ar leoliad, ond yr hoffech gael y cyfle i fynd ar leoliad beth bynnag, mae yna ystod o opsiynau y gallwch eu hystyried, gyda rhai, ond nid pob un, yn golygu oedi eich astudiaethau. Mae'r Academi Ddoethurol yn awyddus i gefnogi myfyrwyr sy'n dymuno manteisio ar y cyfleoedd hyn i ddatblygu eu gyrfa. Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb siarad â'u goruchwyliwr yn y lle cyntaf.
Gwyliau blynyddol
Mae 56 diwrnod o wyliau blynyddol yn cael eu dyrannu i i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig bob blwyddyn. Nid oes angen caniatâd ar fyfyrwyr domestig i gymryd gwyliau blynyddol, ond mae angen i chi roi gwybod i'ch goruchwylwyr. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, byddwch angen llythyr 'absenoldeb awdurdodedig' gan y swyddfa cydymffurfiaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu'r llythyr hwn cyn i chi gwblhau eich trefniadau teithio.
Adborth a chwynion
Bydd pob myfyriwr ôl-raddedig yn cael cyfle i roi adborth trwy’r Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr (PCSM) yn eu hadran. Bydd unrhyw faterion sy’n gofyn am fewnbwn yr Academi Ddoethurol yn cael eu hanfon ymlaen trwy Arweinwyr Ymchwil Ôl-raddedig adrannol. Mae cyfarfodydd PCSM yn cael eu cynnal o leiaf unwaith y flwyddyn ac yn cynnig y cyfle gorau i adrodd ar weithdrefnau, prosesau neu ffurfiau o ddarpariaeth nad ydynt yn gweithio neu y gellid eu gwella. Y tu hwnt i’r broses hon, mae croeso i chi roi gwybod am unrhyw bryderon i’ch goruchwyliwr, yr Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig yn eich adran neu gallwch gysylltu â’r Academi Ddoethurol yn uniongyrchol ar academi.ddoethurol@aber.ac.uk
Mae modd gwneud cwynion ffurfiol trwy weithdrefn gwynion y brifysgol. Mae’n werth nodi bod cwynion ffurfiol yn dilyn proses gaeth nad yw’n darparu llawer o gyfle i ddatrys problemau mewn ffordd anffurfiol. Cam cyntaf y weithdrefn yw lleisio pryder yn uniongyrchol wrth yr unigolyn, swyddfa neu adran berthnasol. Os nad ydych yn fodlon gyda chanlyniad hynny, gallwch wneud cwyn ffurfiol. Rydyn ni’n argymell i chi ymgyfarwyddo â’r weithdrefn fel eich bod yn deall sut y caiff eich cwyn ei thrin.
Rydyn ni’n argymell bod myfyrwyr yn ceisio datrys problemau yn anffurfiol cyn cyflwyno cwyn ffurfiol.
Cyllid cymorth ymchwil
Mae myfyrwyr PhD sy’n cael eu cyllido yn aml yn derbyn cyllideb ar gyfer hyfforddiant ymchwil, cynadleddau a/neu waith maes, yn dibynnu ar y noddwr. I gael gwybodaeth am ba gyllidebau sydd ar gael, y peth gorau yw cysylltu â’ch noddwr neu arweinydd y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol.
Yn ogystal â chyllidebau gan eich noddwr, mae yna amrywiaeth o gronfeydd y tu hwnt i gwmpas Prifysgol Aberystwyth (gan gyrff proffesiynol, elusennau ac ati) sydd ar gael i fyfyrwyr ymchwil at amrywiaeth o ddibenion. Mae’n werth trafod yr opsiynau hyn gyda’ch goruchwyliwr a/neu eich Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig adrannol. Weithiau, mae Cronfa Gooding y Brifysgol yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr ymchwil i fynychu cynadleddau.
Teithio myfyrwyr
Mae rhywfaint o gyllid myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn darparu ar gyfer teithio myfyrwyr (ar gyfer ymchwil, cynadleddau, hyfforddiant ac ati). Rhaid i fyfyrwyr ddilyn Polisi Teithio cyfredol Prifysgol Aberystwyth wrth ddefnyddio’r cyllid hwn. Dim ond ar ôl cwblhau asesiad risg teithio rhyngwladol y mae modd gwneud unrhyw deithio rhyngwladol at ddibenion ymchwil.
Monitro cynnydd blynyddol
Beth yw monitro blynyddol?
Monitro blynyddol yw'r ffordd y mae'r brifysgol yn sicrhau bod myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i orffen eu gradd o fewn yr amserlen angenrheidiol. Cafodd y broses ei chynllunio i fod yn un adeiladol gyda'r cyfle i nodi rhwystrau a allai fod yn rhwystro eich cynnydd. Gallwch ddisgwyl i'r broses asesu pedwar peth: eich bod (1) yn gwneud cynnydd priodol tuag at eich gradd, (2) yn cyflawni hyfforddiant perthnasol, (3) yn gosod nodau cyraeddadwy a (4) bod eich tîm goruchwylio yn gweithio'n effeithiol.
Mae monitro blynyddol yn digwydd ar ddiwedd y gwanwyn neu ddechrau'r haf. Byddwch yn derbyn e-bost gan yr Academi Ddoethurol gyda chyfarwyddiadau pan fydd hi'n amser dechrau'r broses. Mae’r monitro yn digwydd ar lefel adrannol o dan oruchwyliaeth yr Academi Ddoethurol.
Pwy sy'n gorfod gwneud hyn?
Pob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig ym mhob blwyddyn. Nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno eu traethawd ymchwil ymgymryd â monitro blynyddol, ond mae modd iddyn nhw wneud hynny trwy gyflwyno cais i Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig yr Adran.
Beth yw'r broses?
Mae dau gam i’r broses. Y cam cyntaf yw cwblhau adroddiad ar MyPGR ac yna eich goruchwylwyr yn gwneud sylwadau. Yr ail gam yw proses adolygu mewnol a chyfweliad wedi'u trefnu gan y tîm arweinyddiaeth ymchwil yn eich adran. Mae'r cyfweliad yn gyfle i chi dynnu sylw at unrhyw faterion sy'n effeithio ar eich cynnydd ac i dderbyn adborth gan banel sy'n annibynnol ar eich tîm goruchwylio. Mae'r cyfweliadau fel arfer yn cael eu cynnal gan eich Arweinydd Ymchwil ac aelodau eraill o staff, megis y Cyfarwyddwr Ymchwil. Ni fydd yn cynnwys aelodau o'ch tîm goruchwylio.
Sut mae llenwi'r ffurflen?
- Mewngofnodwch i MyPGR
- Cliciwch ar y ddolen Monitro Blynyddol
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y ffurflen sydd wedi’i mewnblannu i gyflwyno'ch adroddiad
Ydy’r broses yr un fath ar draws holl adrannau Prifysgol Aberystwyth?
Mae'n debyg, ond mae rhai amrywiadau ymarferol bach yn bosibl. Mae'n ofynnol bob amser i fyfyrwyr a goruchwylwyr gwblhau Cam 1, ond oherwydd bod y cyfweliadau wedi'u trefnu ar lefel adrannol, gall eu ffurf amrywio. Mae rhai adrannau yn gofyn i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith mewn lleoliad ffurfiol, rhai yn gofyn am boster, a rhai yn gofyn am adroddiad neu hunanwerthusiad. Dylai'r cyfweliadau sicrhau bod myfyrwyr yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i wneud eu gradd ac nad oes unrhyw broblemau o fewn y tîm goruchwylio. Mae'n hanfodol bod myfyrwyr yn cael eu cyfweld gan staff nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'u goruchwyliaeth.
Oes modd fy atal rhag parhau?
Oes, gall staff benderfynu nad yw myfyrwyr wedi cyflawni'r disgwyliadau yn unol â’u hamserlen, a chynnig amrywiaeth o argymhellion. Pan fydd testun pryder, bydd cynnydd myfyriwr yn cael ei adolygu gan yr Academi Ddoethurol.
Mewn achosion lle nad yw myfyrwyr wedi ymgysylltu'n gyson â'u hymchwil a/neu heb gyflawni cerrig milltir allweddol, mae modd argymell nad ydynt yn parhau â’u cynllun gradd presennol. Disgwylir i fyfyrwyr holi am gyngor a chymorth os ydyn nhw'n wynebu anawsterau personol (gweler yr adran Gwasanaethau a Chymorth uchod) neu gymryd seibiant o'u hastudiaethau yn ôl yr angen (gweler Amserlenni a tharfu ar astudiaethau isod). Mae disgwyl i fyfyrwyr sy'n gwneud gradd amser llawn weithio'n llawn amser. Fodd bynnag, os nad oes modd iddyn nhw wneud hyn, mae angen iddyn nhw ystyried symud i astudio’n rhan-amser.
Cwestiynau?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'ch goruchwyliwr/goruchwylwyr a/neu Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig yr Adran a ddylai allu ateb eich ymholiadau
Amserlenni a tharfu ar astudiaethau
Amserlenni
Mae amserlenni cyflwyno yn cael eu pennu yn ôl eich dyddiad cofrestru cychwynnol, a ydych chi’n astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser a chan y sawl sy’n eich cyllido. Mae’n bosibl y cânt eu haddasu ar hyd y daith wrth i fyfyrwyr ymadael dros dro neu newid cofrestriad (o amser llawn i ran-amser neu fel arall).
Sylwer: mae disgwyl i fyfyrwyr PhD amser llawn cofrestredig weithio ar eu prosiect yn llawn amser. Os ydych chi'n canfod bod amgylchiadau personol yn gwneud hyn yn anodd, dylech ystyried newid i astudio’n rhan-amser neu ddefnyddio'r gwahanol opsiynau 'seibiant' sy'n cael eu trafod isod.
Canllawiau Prifysgol Aberystwyth ei hun yw'r amserlenni canlynol. Mae gan wahanol gyrff cyllido eu rheoliadau eu hunain ynghylch amserlenni a chyflwyno. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â disgwyliadau eich cyllidwr o ran eich dyddiad cyflwyno terfynol a rheoli unrhyw darfu ar astudiaethau.
|
Gradd a dull astudio |
Cyfnod cofrestru |
Dyddiad terfyn safonol |
Uchafswm yr amser a ganiateir |
|
MPhil amser llawn |
Blwyddyn |
2 flynedd |
4 blynedd |
|
MPhil rhan-amser |
2 flynedd |
4 blynedd |
6 blynedd |
|
PhD amser llawn |
3 blynedd |
4 blynedd |
6 blynedd |
|
PhD rhan-amser |
6 blynedd |
8 mlynedd |
10 mlynedd |
|
DProf amser llawn |
3 blynedd |
4 blynedd |
6 blynedd |
|
DProf rhan-amser |
5 mlynedd |
6 blynedd |
10 mlynedd |
Caniatâd absenoldeb
Gall myfyrwyr sydd angen cymryd seibiant o’u gwaith ymchwil ofyn am ganiatâd absenoldeb gan eu Pennaeth Adran. Dylai hyn ddigwydd mewn ymgynghoriad â'ch goruchwyliwr ac Arweinydd Ymchwil Ôl-raddedig yr Adran. Dau fis yw’r absenoldeb hiraf a argymhellwn ac nid oes angen cymeradwyaeth bellach ar ei gyfer.
Mae gwneud cais am gyfnod o absenoldeb yn fwyaf priodol pan fydd angen seibiant byr ar y myfyriwr o’i astudiaethau a/neu pan fydd achos o darfu dros dro yn codi. Ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer absenoldeb salwch hirdymor, absenoldeb teuluol neu unrhyw darfu parhaus o fath arall. Mae'n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol gan nad oes angen tynnu'n ôl yn ffurfiol o’u hastudiaethau. Yn olaf, dylid nodi nad yw absenoldeb yn cael unrhyw effaith ar amserlen y myfyriwr. Os yw myfyriwr PhD amser llawn yn cymryd absenoldeb o ddeufis, bydd ei ddyddiad cyflwyno yn parhau yr un fath, a bydd disgwyl i’r myfyriwr gyflwyno o fewn yr amserlen ddisgwyliedig.
Nid yw absenoldeb yr un fath â gwyliau blynyddol (gweler Rheoli Fy Ngradd uchod). Mae’r naill ar gyfer materion personol difrifol ac mae angen caniatâd gan eich Pennaeth Adran ar ei gyfer, gyda’r llall wedi'i fwriadu ar gyfer gwyliau a/neu amser i ffwrdd arferol heb fod angen caniatâd. Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol wneud cais am 'absenoldeb awdurdodedig' trwy'r Swyddfa Cydymffurfiaeth.
Absenoldeb salwch
Mae polisi absenoldeb salwch y brifysgol ar gyfer myfyrwyr sy'n derbyn cyllid. Os ydych chi'n hunan-ariannu, cyfeiriwch at yr opsiwn tynnu'n ôl dros dro isod.
Os ydych chi'n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig a bod angen i chi gael triniaeth feddygol neu os ydych chi'n analluog oherwydd salwch corfforol neu feddyliol, dylech gysylltu â'ch corff cyllido a mynd trwy eu gweithdrefn absenoldeb salwch. Mae gan fyfyrwyr sy'n cael eu hariannu gan UKRI yr hawl i 28 wythnos o absenoldeb salwch â thâl o fewn unrhyw gyfnod penodol o 12 mis, hyd at uchafswm o 56 wythnos yn ystod cyfnod eich dyfarniad. Mae gan fyfyrwyr AberDoc hawl i 12 wythnos o wyliau yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd benodol, hyd at uchafswm cronnol o 26 wythnos dros gyfnod yr ysgoloriaeth.
Er bod absenoldeb salwch yn cael ei drefnu'n uniongyrchol gyda'r cyllidwr, mae angen i fyfyrwyr gysylltu â Chofnodion Ôl-raddedig a rhoi gwybod iddynt pan fydd yr absenoldeb wedi'i ganiatáu. Bydd hyn yn ymestyn y dyddiad cyflwyno yn unol â'r gwyliau.
Tynnu'n ôl dros dro
Mae tynnu'n ôl dros dro ar gyfer myfyrwyr nad oes modd iddyn nhw fwrw ymlaen â'u hymchwil am gyfnod hir. Mae modd ei ddefnyddio gan fyfyrwyr allanol a myfyrwyr sy'n hunan-ariannu, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae rhesymau cyffredin dros dynnu'n ôl yn cynnwys problemau teuluol difrifol, anawsterau ariannol, cyfrifoldebau cyflogaeth neu salwch (er y gall myfyrwyr sy'n cael eu cyllido'n allanol wneud cais am absenoldeb salwch). Dylai myfyrwyr ystyried goblygiadau ymadael yn ofalus, o safbwynt ariannol ac o safbwynt fisa, yn enwedig lle mae ganddyn nhw noddwr ariannol. Rydyn ni'n argymell yn gryf eich bod chi'n trafod y goblygiadau hyn gyda'ch goruchwyliwr ac unrhyw gyllidwyr allanol.
Gellir tynnu'n ôl am gyfnod o hyd at 48 mis a bydd yn newid dyddiad cyflwyno y myfyriwr. Fodd bynnag, bydd angen i’r myfyriwr gyflwyno erbyn y dyddiad cau eithaf yr un fath (gweler y tabl uchod). Yn ystod y cyfnod tynnu'n ôl, byddwch yn gallu cyrchu rhai o adnoddau'r brifysgol (e.e., e-bost a llyfrgell), ond ni fydd disgwyl i chi gyfarfod â'ch goruchwyliwr, ymgymryd â Monitro Blynyddol neu fynd i labordai neu weithfan.
Sylwch fod tynnu'n ôl dros dro yn golygu tynnu'n ôl o'ch astudiaethau. Yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn i fyfyrwyr ganolbwyntio ar eu hamgylchiadau personol a pheidio â chanolbwyntio ar eu gradd. Mae'n bwysig nad ydych yn dychwelyd i'r gwaith hyd nes y bydd modd i chi ymgymryd â'r disgwyliadau a'r rhwymedigaethau sydd ynghlwm wrth gwblhau eich gradd. Dylai myfyrwyr ag amgylchiadau personol cymhleth, ac sy'n ansicr am eu gallu i weithio'n llawn amser, ystyried newid i astudio’n rhan-amser.
Mae modd i fyfyrwyr ofyn am ymadael ar-lein trwy eu Cofnod Myfyrwyr.
Sylwer, os ydych chi yn y cyfnod ôl-gofrestru ac yn dal i ysgrifennu eich traethawd ymchwil, ni allwn ganiatáu i chi ymadael dros dro. Fodd bynnag, gallwch wneud cais am estyniad (gweler isod).
Absenoldeb rhiant
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n beichiogi/dod yn rhiant yn ystod eu cyfnod astudio. Mae’r Brifysgol yn credu na ddylai beichiogrwydd neu ofalu am blentyn atal unrhyw fyfyriwr rhag llwyddo yn ei astudiaethau ac mae wedi ymrwymo i ddangos cymaint o hyblygrwydd â phosibl i hwyluso llwyddiant myfyriwr.
Os ydych chi’n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig sy’n mynd i fod yn rhiant, darllenwch ein polisi beichiogrwydd i fyfyrwyr. Mae’n manylu ar ba fath o opsiynau sydd ar gael i chi o ran absenoldeb rhiant, cyllid a sut i ddatblygu cynllun cymorth i fyfyrwyr. Dylai myfyrwyr sy’n cael eu cyllido ymgynghori â pholisïau absenoldeb rhiant eu noddwr.
Estyniadau
Os nad yw myfyrwyr yn gallu cyflwyno gwaith erbyn y dyddiadau cau, gallan nhw holi am estyniad hyd at uchafswm o ddeuddeg mis. O dan reoliadau’r Brifysgol, mae’n bosibl cytuno i estyniad o dan amgylchiadau eithriadol. Mae’r rhain yn cynnwys gormodedd o ymrwymiadau proffesiynol, problemau meddygol, anawsterau domestig difrifol, rhesymau tosturiol, cyflyrau niwrowahanol a/neu anawsterau annisgwyl o ran cyflawni gwaith ymchwil. Mae’n rhaid cyflwyno tystiolaeth ategol ac amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith.
Sylwer, nid oes darpariaeth ar gyfer estyniadau pellach neu barhaus. Mae cyfyngiad amser ar raddau ymchwil ôl-raddedig.
Mae’n bosibl i estyniadau gael eu sbarduno gan y myfyriwr trwy MyPGR. Mae rhagor o fanylion am y meini prawf a’r gweithdrefnau ar gyfer estyniadau yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
Y Cymal Olaf
Paratoi i gyflwyno
Dri mis cyn cyflwyno traethawd ymchwil, dylai myfyrwyr gyflwyno ffurflen Bwriad i Gyflwyno. Mae gwneud hynny yn sbarduno prosesau trefnu’r viva, yn ymrwymo arholwyr allanol ac yn agor y porth cyflwyno. Os ydych chi eisiau cyflwyno eich traethawd ymchwil yn brydlon, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich ffurflen Bwriad i Gyflwyno o fewn yr amserlen briodol.
Wrth gyflwyno ffurflen Bwriad i Gyflwyno, mae disgwyl i fyfyrwyr lenwi'r dudalen gyntaf ac yna trosglwyddo'r ffurflen i'w tîm goruchwylio.
Sylwer: Mae'r amserlen ar gyfer trefnu'r viva yn hyblyg gan ei bod yn cynnwys cysylltu ag arholwyr allanol, a gall eu hamseroedd ymateb beri oedi. Deuddeg wythnos yw’r amserlen ddisgwyliedig rhwng anfon traethawd ymchwil (pan gaiff y traethawd ei drosglwyddo i arholwyr) a'r viva. Dim ond yr arholwyr eu hunain all gwtogi'r amserlen hon.
Dewis arholwyr allanol
Mae meddwl yn ofalus am y tîm arholi yn un ffordd o sicrhau bod eich ffurflen Bwriad i Gyflwyno yn cael ei chymeradwyo’n amserol. Mae'r Academi Ddoethurol yn cynnull pwyllgor yn rheolaidd i ystyried ffurflenni Bwriad i Gyflwyno ac a yw'r tîm arholi yn briodol.
Y tîm goruchwylio sy'n gyfrifol yn y pen draw am ddewis eich arholwyr, ond mae disgwyl i'r myfyrwyr gael mewnbwn i'r penderfyniad. Cymerwch olwg ar ein canllawiau ar gyfer dewis tîm arholi i sicrhau bod y cam cymeradwyo yn digwydd yn ddidrafferth.
Cyflwyno traethawd ymchwil
Rhaid dilyn nifer o ganllawiau er mwyn sicrhau bod eich traethawd ymchwil yn cael ei gyflwyno'n gywir. Llenwch yr holl ffurflenni cywir a chadwch at ganllawiau fformatio Prifysgol Aberystwyth pan fyddwch yn cyflwyno. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar restr wirio cyflwyno traethawd ymchwil.
Viva voce
Ar ôl cyflwyno eich traethawd hir, bydd y Brifysgol yn trefnu viva voce (arholiad llafar). Cynhelir arholiadau viva voce i sicrhau mai gwaith y myfyriwr ei hun yw’r traethawd ymchwil, a’i fod wedi cyrraedd trothwy digonol er mwyn dyfarnu gradd. Bydd pob viva voce yn cael ei gynnal gan fwrdd arholi sydd fel arfer yn cynnwys cadeirydd, un arholwr mewnol ac un arholwr allanol. Lle mae ymgeiswyr wedi astudio o dan reoliadau staff neu wedi dod yn aelodau o staff cyn y viva voce, penodir ail arholwr allanol yn lle’r arholwr mewnol.
Er bod y bwrdd arholi yn cael ei gymeradwyo gan bwyllgor canolog y Brifysgol, disgwylir i fyfyrwyr ôl-raddedig gael cyfle i fynegi dewis o ran arholwyr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod darpar arholwyr gyda’ch goruchwyliwr cyn iddyn nhw gyflwyno’r ffurflen Bwriad i Gyflwyno.
Mae arholiadau llafar fel arfer yn digwydd ar y campws, wyneb yn wyneb, er bod arholiadau ar-lein yn cael eu caniatáu o dan rai amgylchiadau gyda chymeradwyaeth yr Academi Ddoethurol.
Mae’r myfyriwr yn cael gwybod am ganlyniadau’r viva yn syth ar ôl yr arholiad. Bydd y cadeirydd yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig am unrhyw gywiriadau sydd eu hangen i’r traethawd ymchwil.
Canlyniadau viva
Tri chanlyniad mwyaf cyffredin viva yw: mân gywiriadau (pedair wythnos), cywiriadau a diwygiadau (6 mis), ac ailgyflwyno’n llawn (hyd at 12 mis). Yn achos mân gywiriadau neu gywiriadau a diwygiadau, bydd cadeirydd y viva yn ysgrifennu at y myfyriwr gyda’r cywiriadau angenrheidiol. Wedi i’r diwygiadau gael eu gwneud, bydd yr ail ddrafft o’r traethawd ymchwil yn cael ei anfon at un arholwr (neu’r ddau) i’w gymeradwyo yn derfynol
Yn achos ailgyflwyno, bydd angen i’r ymgeisydd ailgyflwyno ffurflen Bwriad i Gyflwyno ac efallai y bydd angen ail arholiad llafar hefyd. Mae’n bosibl y bydd yr arholwyr hefyd yn cynnig cyfle i’r ymgeisydd ailgyflwyno’r traethawd ymchwil ar gyfer MPhil (gyda chywiriadau helaeth neu fân gywiriadau). Mae’n bosibl na fydd angen ail arholiad llafar wrth ailgyflwyno ar gyfer MPhil, ond mae’n bosibl y byddai angen cymeradwyaeth yr arholwyr.
Paratoi ar gyfer viva
Mae’r Academi Ddoethurol yn cynnig sesiwn hyfforddi paratoi ar gyfer viva fel rhan o ysgol hyfforddi trydedd flwyddyn yr Academi Ddoethurol.
Cyflwyno traethawd ymchwil terfynol
Ar ôl i’r arholwr/arholwyr gymeradwyo’r fersiwn derfynol (gyda’r cywiriadau), bydd y brifysgol yn hysbysu’r myfyriwr fod ei draethawd ymchwil wedi’i dderbyn. Mae’n hollbwysig bod yr arholwyr cymeradwyo (boed yn fewnol, allanol neu gyfuniad) yn cyflwyno’r ffurflen canlyniadau terfynol. Dyma sy’n sbarduno’r broses gyflwyno derfynol.
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr lanlwytho eu fersiwn derfynol i wefan cyflwyno traethawd ymchwil terfynol Blackboard ynghyd â ffurflen Datganiad E-draethawd wedi’i chwblhau.
Bydd staff y llyfrgell yn adolygu’r traethawd ymchwil a’r ffurflen, ac ym mhob achos bron, bydd y teitl a’r crynodeb ar gael trwy Borth Ymchwil Aberystwyth. Lle bo hynny’n briodol, bydd y testun llawn hefyd ar gael trwy Borth Ymchwil Aberystwyth ac yn y pen draw trwy Wasanaeth Traethodau Electronig Ar-lein y DU (EThOS).
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â resourcediscovery@aber.ac.uk
Am ragor o wybodaeth am y broses gyflwyno derfynol, gweler y canllawiau cyflwyno
Am ragor o wybodaeth am draethodau mynediad agored, gweler y dudalen arweiniad traethawd ymchwil.
Graddio ac ardystio gradd
Pan fyddwch chi’n cyflwyno’ch ffurflen Bwriad i Gyflwyno, byddwch yn cael eich ychwanegu at y cyfnod graddio nesaf sydd ar gael. Byddwch yn derbyn e-bost ym mis Ebrill yn gofyn i chi gofrestru ar gyfer eich seremoni raddio. Dylech gwblhau’r dasg honno cyn gynted â phosibl i gadw eich lle yn y seremoni.
Fodd bynnag, dim ond os yw’ch gradd wedi’i dyfarnu i chi y cewch chi fynychu seremoni raddio. Bydd angen i chi fod wedi lanlwytho’r fersiwn derfynol o’ch traethawd ymchwil erbyn diwedd ail wythnos mis Mai fan bellaf. Byddwch yn derbyn cadarnhad swyddogol o’ch gradd trwy e-bost yn fuan wedyn. Os nad ydych wedi derbyn cadarnhad swyddogol o’ch gradd erbyn diwedd mis Mai, ni fyddwch yn gallu mynychu’r seremoni raddio, ond byddwch yn cael eich trosglwyddo i seremoni raddio’r flwyddyn ganlynol. Serch hynny, byddwch yn derbyn eich tystysgrif o fewn chwe wythnos ar ôl cael gwybod eich bod wedi cwblhau eich gradd yn llwyddiannus. Rydych chi wedyn yn dewis a ydych am fynychu’r seremoni raddio nesaf ai peidio (maen nhw’n cael eu cynnal ym mis Gorffennaf bob blwyddyn).
