Mrs Alison Pierse

M.A. Celfyddyd Gain, Prifysgol Cymru, Aberys

Mrs Alison Pierse

Lifelong Learning Co-ordinator - Arts

Lifelong Learning Teacher - Art

Dysgu Gydol Oes

Manylion Cyswllt

Proffil

Fi yw Cydlynydd Celf a Dylunio yr adran Dysgu Gydol Oes. Rwyf wedi gweithio i’r adran ers dros 25 mlynedd a gwelais lawer o newidiadau.

Mae bod yn addysgwr a’r angen i barhau i ddysgu yn bwysig iawn yn fy ngolwg.

Cyn dod i Gymru, bûm yn dysgu am ddeuddeng mlynedd mewn ysgolion yn Lloegr ac Awstralia, yn Bennaeth ar Adran Gelf ac yn Artist Preswyl, cyn symud i Geredigion i ymuno â fy ngŵr. Dyna pryd y newidiais a dechrau dysgu oedolion, ac mae hyn wedi bod yn brofiad gwerthfawr ac yn fraint.

Rydw innau’n un a ddysgodd fel oedolyn; astudiais am M.A. mewn Celfyddyd Gain yn rhan amser, gan gadw swydd brysur i fynd yn ogystal â rhoi amser i’m merch a’m teulu agos.

Yn ddiweddar, rydw i wedi cymryd cyfrifoldeb am ddatblygu’r rhaglen Datblygu Proffesiynol i Dysgu Gydol Oes. Mae cyfnod Covid wedi creu syched am ddysgu ac am gyfoethogi sgiliau ymhlith oedolion. Canolbwyntio ar y gymuned yw cenadwri’r adran DGO; rydyn ni’n dal yn ymrwymedig i gynorthwyo myfyrwyr i bontio bylchau yn eu sgiliau, i ddysgu pynciau newydd, a’u cynorthwyo i gofleidio’r newid sylweddol i arferion gwaith.

Mae fy ngwaith fy hun yn cwmpasu mosaig a phaentio, ac rydw i hefyd yn darparu teithiau cerdded treftadaeth yn nhref Aberystwyth.

Dylanwadwyd ar fy ngwaith paentio gan y paentiadau 'Child Lost' gan Frederick McCubbin (1880au) a daeth hyn i fod am i mi ennill ysgoloriaeth a ganiataodd i mi fynd i Awstralia am bum mis i baentio. Mae’n darlunio plentyn yn fforio ac yn darganfod rhyfeddodau’r ‘bush’ ond hefyd realaeth garw’r lle: y gwres, y sychder, ac helaethrwydd y bywyd gwyllt, gan roi sylw arbennig i adar brodorol. Llygaid cochion y brain coesgoch, crawc bruddglwyf y bioden, a chyfarchiad iasol y brain chwibanol (currawong).

Nôl at y mosaig; rydw i hefyd yn gwneud cyfnodau preswyl mewn ysgolion gan ddefnyddio mosaig yn adnodd i sbarduno plant a dad-ffrwyno’u creadigrwydd. Mae’n ddeunydd cyffyrddol ac yn cysylltu â beth bynnag y maent yn dysgu amdano mewn hanes. Mae hefyd yn ddeunydd rhagorol ar gyfer cyflawni prosiectau canmlwyddiant mawr mewn ysgolion.

Dysgu

Module Coordinator
Coordinator
Lecturer

Tiwtor Celf a Dylunio.

Dysgu a Dehongli ar gyfer Amgueddfeydd ac Orielau

Tiwtor: modiwlau Darlunio, Paentio a Mosaig

Tiwtor: Adeiladu Gwytnwch

Ymchwil

Mosaics of Jeanne Mount - Forgotten Mosaic Maestro

'He called me his girl' - the love letters from a student evacuee

Voysey Journal  The Aberystwyth Mosaic

Cyfrifoldebau

Cydlynydd Celf a Dylunio

Cydlynydd Datblygiad Proffesiynol

Hyrwyddwr Dysgu ac Addysgu

Hyrwyddwr Academaidd ar gyfer Cyflogadwyedd