Llwybr CysylltiAD

Y Llwybr CysylltiAD i Radd Gyntaf mewn Astudiaethau Addysg a Phlentyndod - Gwnewch y CysylltiAD
Cwrs dysgu o bell, rhad ac am ddim yw ein Llwybr CysylltiAD - mae ar-lein, i'w wneud ar eich cyflymder eich hunan, ac mae wedi'i gynllunio i'ch cyflwyno i bynciau sy'n ymwneud ag Addysg ac Astudiaethau Plentyndod.
Bydd y cwrs 3 wythnos hwn yn eich galluogi i ddod yn gyfarwydd â'n hamgylchedd dysgu ar-lein, datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch dealltwriaeth ym maes Addysg a Phlentyndod, a'ch paratoi ar gyfer asesiadau o'r math y dewch ar eu traws yn y brifysgol. Dyluniwyd y cwrs hwn yn benodol i gynyddu eich siawns o fynediad llwyddiannus i Addysg Uwch, ac mae ar gael i'w ddilyn drwy'r Gymraeg a'r Saesneg.
Dilynwch y ddolen hon i gofrestru ar gyfer un o'n cyrsiau CysylltiAD heddiw!
Manteision y Llwybr CysylltiAD
Mae llawer o fanteision gan y Llwybr CysylltiAD i'ch gradd gyntaf mewn Addysg a Phlentyndod!
- Hyblyg: Mae'n gwrs ar-lein, dysgu o bell ar eich cyflymder eich hunan, sy'n caniatáu hyblygrwydd i gwblhau pob uned ar amser a lle sydd fwyaf addas i chi, o unrhyw le yn y byd.
- Fforddiadwy: Mae'n hollol rhad ac am ddim.
- Datblygiad Proffesiynol: Mae'r cwrs nid yn unig yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gref o bynciau amrywiol sy'n ymwneud ag Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, ond hefyd yn datblygu eich sgiliau cyflwyno, meddwl beirniadol, trafod, cyfathrebu, rheoli amser, trefnu a myfyrio.
- Paratoi i'r Brifysgol: Wrthgynnal y cwrs ar ein hamgylchedd dysgu rhithwir, byddwch yn ennill gwybodaeth weithredol gref o'n platfform ac yn dod yn gyfarwydd â mathau cyffredin o asesu y gallech ddod ar eu traws yn y brifysgol.
- Opsiynau Iaith: Rydym yn cynnig ein cwrs yn Gymraeg a Saesneg, fel y gallwch ymgysylltu â'r cynnwys a chyfathrebu yn eich iaith ddewisol.
- Mynediad i Aberystwyth: Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, mae'r Brifysgol yn barod i ddarparu cynnig is (cyd-destunol) i unrhyw ddarpar ymgeiswyr.
Manylion y cwrs
Bydd y cwrs 3 wythnos hwn yn rhedeg bob mis rhwng diwedd y flwyddyn ysgol a gwyliau'r Nadolig, gan gwmpasu pum maes pwnc, pob un yn cael ei asesu mewn ffordd wahanol. Mae pob uned yn cynnwys darlith, mewn maes cysylltiedig, gweithgaredd ac asesiad, fel yr amlinellir isod.
Uned | Asesiad | Gwerth |
Hanes Addysg a'r Cwricwlwm yng Nghymru a Lloegr | Cwis arlein | 15% |
Cyflwyniad i Ddysgu Cymdeithasol | Traethawd myfyriol | 30% |
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Addysg a Phlentyndod | Poster | 25% |
Dadleuon Beirniadol mewn Addysg | Cyfraniad Bwrdd Trafod | 15% |
Datblygiad Llythrennedd Cynnar a Llyfrau Lluniau | Dyddiadur myfyriol | 15% |
Llwybr CysylltiAD - Amseru a Dyddiadau y Cwrs
Dyddiad Dechrau'r Cwrs | Dyddiad Gorffen a Dyddiad Cau yr Asesiad | Dyddiad cael Adborth | Dyddiad cau cofrestru |
---|---|---|---|
16/12/2024 | 10/01/2025 | 31/01/2025 | 09/12/2024 |
19/05/2025 | 06/06/2025 | 20/06/2025 | 12/05/2025 |
14/07/2025 | 01/08/2025 | 15/08/2025 | 07/07/2025 |
22/09/2025 | 10/10/2025 | 24/10/2025 | 15/09/2025 |
15/12/2025 | 09/01/2026 | 30/01/2026 | 08/12/2025 |