Miss Hana Jones
BA (Anrh.), TAR gyda SAC, MA (PCYDDS), PGDip.(Aberystwyth)
Darlithydd Addysg
Manylion Cyswllt
- Ebost: haj78@aber.ac.uk
- Swyddfa:2.36 Adeilad Penbryn 5
- Ffôn: +44 (0) 1970 621610
- Personal Pronouns: hi/ei
Rydw i'n Ddarlithydd mewn Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda chefndir mewn addysg uwchradd, gofal bugeiliol, cynllunio cwricwlaidd ac addysg athrawon. Cyn ymuno a'r Brifysgol, dysgais fel athrawes uwchradd, Arweinydd Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau ac yn Bennaeth Blwyddyn. Enillais brofiadau gwerthfawr ym myd Addysg o gynllunio a darparu adnoddau ar gyfer y cwricwlwm newydd, gofal bugeiliol ac arweinyddiaeth ysgol. Rydw i'n mwynhau gallu rhannu fy mhrofiadau a chynnwys yn fy addysgu yn y Brifysgol.
Rydw i'n angerddol dros Addysg yng Nghymru a sicrhau fod pob dysgwr yn cael eu cynnwys yn eu hamgylcheddau addysgu. Mae gen i ddiddordeb cryf yn gynrychiolaeth hunaniaeth grefydd, cynnwys y gymuned LDHT+ ac yn gyffredinol sut mae ysgolion yn gallu cefnogi eu dysgwyr i ddysgu fwy ac i fynegi eu hunaniaethau unigryw. Fel siaradwr Cymraeg Iaith Gyntaf rydw i hefyd yn angerddol dros addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Mae fy niddordebau ymchwil cyfredol yn cynnwys addysgu am grefydd a hunaniaeth grefyddol, Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh), a gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y modd y caiff polisïau a chanllawiau’r cwricwlwm eu dehongli a’u profi mewn ysgolion, ac yn y ffyrdd y gellir cefnogi athrawon i ymdrin â meysydd dysgu a all fod yn gymhleth ac yn sensitif yn hyderus.
Mae fy niddordebau ehangach yn cynnwys addysg wrth-hiliol, cydraddoldeb ac amrywiaeth, addysgeg gynhwysol a phrofiadau dysgwyr sydd wedi’u hymyleiddio. Mae fy mhrofiad proffesiynol mewn ysgolion a lleoliadau addysgol ehangach yn llywio fy null o ymdrin ag ymchwil, gyda diddordeb penodol mewn ymchwil a all gyfrannu at newid ystyrlon mewn ymarfer addysgol.
