Cyfeirir at eitemau TG, trydanol ac electronig gwastraff yn WEEE.
Talfyriad yw hwn o ‘Waste Electrical and Electronic Equipment’ ac fel rheol gyffredinol mae'n cynnwys unrhyw beth sy'n cael ei blygio i ffynhonnell drydanol neu ei gysylltu â’r ffynhonnell trwy wifrau, neu sydd â batri.
A allaf roi unrhyw wastraff WEEE yn y biniau gwastraff cyffredinol?
Nawr, yn ôl y gyfraith, mae gofyn i chi beidio â rhoi gwastraff WEEE yn y llif gwastraff cyffredinol, sef y biniau du o amgylch y Campws.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, yn ôl Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) (Diwygiedig) 2026, mae’n ofynnol i weithleoedd sydd ag offer trydanol ac electronig bach yn wastraff gyflwyno’r offer hyn ar wahân er mwyn eu casglu a’u hailgylchu.
Mae'r rheoliad hwn yn rhan o set ehangach o gyfreithiau ailgylchu gorfodol yn y gweithle yng Nghymru, sydd wedi'u cynllunio i sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli mewn ffordd sy'n hyrwyddo ailgylchu o ansawdd uchel.
Sut ydw i'n gwaredu gwastraff WEEE?
Ar gyfer eitemau bach fel bysellfyrddau, llygod cyfrifiadurol neu gyfrifianellau – ewch â nhw i Lyfrgell Hugh Owen lle byddant yn cael eu hasesu ar gyfer eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu.
Ar gyfer eitemau mwy o faint megis sgriniau cyfrifiaduron neu orsafoedd sylfaen, oergelloedd neu niferoedd mawr o eitemau, cysylltwch â Chyfleusterau i drefnu iddynt ddod i'w casglu. Mae'r eitemau hyn hefyd yn cael eu hasesu ar gyfer eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu.
- Tra byddwch yn aros i’r gwasanaeth Cyfleusterau gasglu'r eitemau hyn, rhaid i chi eu cadw dan glo i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â phrosesau diogelu data.
- Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw gydrannau yn cael eu tynnu o offer y Brifysgol cyn iddynt gael eu casglu. Bydd technegwyr sy'n ailddefnyddio offer fel rhan o'u swyddi yn tynnu’r offer yn ddarnau i'w hailddefnyddio fel y bo'n briodol.
Os oes gennych asedau sy'n werth mwy na £10 000, rhaid i chi lenwi "Ffurflen Gwaredu Ased Sefydlog" a'i dychwelyd i'r adran gyllid cyn gwaredu’r asedau.
Beth sy'n digwydd i wastraff WEEE?
Yn y lle cyntaf, mae gwastraff WEEE yn cael ei gasglu a'i asesu ar gyfer ei ailddefnyddio.
Pan fydd offer TG staff yn cael eu casglu, mae’r gwasanaethau TG yn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn ddiogel ac yn gyfrifol. Yn gyntaf, cludir yr holl eitemau i ardal mynediad cyfyngedig, sy’n cael ei fonitro gan deledu cylch cyfyng. Yno mae staff TG awdurdodedig yn eu hasesu ar gyfer eu hailddefnyddio, eu hatgyweirio, neu ar gyfer darnau sbâr. Mae dyfeisiau sy’n gweithio yn cael eu hail-leoli o fewn y Brifysgol lle bynnag y bo modd, ac mae cydrannau defnyddiol yn cael eu tynnu o’r teclynnau er mwyn uwchraddio neu i gadw systemau eraill i redeg. Gellir trosglwyddo unrhyw offer sydd o werth o ran eu hailwerthu neu eu hadnewyddu i bartneriaid ailgylchu cymeradwy. Mae’r eitemau na ellir eu hailddefnyddio yn fewnol yn cael eu trosglwyddo i'n contractwr gwaredu WEEE achrededig, sy'n darparu cludiant diogel â sgôr DIAL ar gyfer dyfeisiau sy'n storio data. Mae’r contractwr yn ardystiedig i ddileu data neu ddinistrio offer yn ôl yr angen, cyn adnewyddu eitemau addas neu adfer deunyddiau trwy sianeli ailgylchu arbenigol. Mae'r broses hon yn sicrhau bod diogelu data, cyfrifoldebau amgylcheddol a gofynion Dyletswydd Gofal yn cael eu bodloni'n llawn, ac ar yr un pryd yn lleihau gwastraff, yn cefnogi cynaliadwyedd a sicrhau bod y Brifysgol yn cael y gwerth mwyaf posibl o'i hasedau TG.
Mae eitemau eraill fel oergelloedd, microdonnau, tegellau a pheiriannau tostio o neuaddau preswyl yn cael eu casglu gan LAS Recycling a'u cludo i'w gorsaf trosglwyddo gwastraff er mwyn sicrhau bod cymaint o’r deunydd â phosib yn cael ei ailgylchu.