Ein Gwasanaethau Glanhau

Aerial shot of penglais campus

Mae ein Tîm Glanhau yn gweithio yn bennaf o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio’r cyfnodau pan fo’r Brifysgol ar gau a Gwyliau Banc) ar draws nifer o'n Campysau a thu hwnt.

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:

  • Glanhau dros 37,000 metr sgwâr o fannau cymunedol gan gynnwys coridorau a grisiau, ystafelloedd ymolchi, ystafelloedd dysgu, ystafelloedd cyfarfod, ceginau ac ardaloedd eistedd yn ogystal â Chyfleusterau Chwaraeon, Llyfrgelloedd ac Adeiladau Undeb y Myfyrwyr
  • Glanhau mannau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml er mwyn lleihau lledaeniad heintiau
  • Cadw cyflenwad llawn o hylif diheintio dwylo, cadachau gwrthfacterol a mygydau (botwm ar gyfer y ddolen i’r ffurflen gais) 
  • Cwblhau ceisiadau glanhau swyddfa (botwm ar gyfer y ddolen i’r ffurflen gais)
  • Glanhau'r grisiau a'r mannau astudio yn ein Hystâd Breswyl
  • Glanhau 3,500 o ystafelloedd gwely mewn fflatiau a thai pan fydd ein myfyrwyr yn gadael ein neuaddau preswyl
  • Glanhau ystafelloedd gwely ar gyfer ein cynadleddau haf
  • Rheoli'r llieiniau sydd eu hangen ar gyfer y gwesteion sy’n dod i’n cynadleddau bob haf

Gweler ein Cytundeb Lefel Gwasanaeth - Gwasanaethau Glanhau