Gwasanaethau Porthora

Arts Centre Pottery Studio

Mae ein Tîm Porthora yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener yn bennaf (ac eithrio’r cyfnodau pan fo’r Brifysgol ar gau a Gwyliau Banc) ar draws llawer o'n Campysau ac ar y cyrion gan ddarparu ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys:

  • Rheoli'r ffrydiau gwastraff a'r storfeydd biniau ar gyfer dros 480 tunnell o wastraff y flwyddyn
  • Symud a storio gwastraff cyfrinachol i'w gasglu a'i waredu
  • Gosod trefn ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd, dysgu a digwyddiadau
  • Cludo parseli ac offer o gwmpas a rhwng Campysau
  • Cadw'r ardal yn union y tu allan i bob adeilad ar y campws yn lân ac yn ddiogel
  • Gwagio'r biniau sbwriel allanol a chasglu sbwriel o’r ardaloedd o fewn cyrraedd o gwmpas Campws Penglais
  • Glanhau arwyddion allanol ar lefel y ddaear
  • Glanhau ardaloedd palmantog a llwybrau yn drylwyr
  • Rhoi cymorth i ddigwyddiadau fel Diwrnodau Agored, Diwrnodau Ymweld a Graddio
  • Gosod trefn ystafelloedd ar gyfer arholiadau a chynorthwyo
  • Glanhau carpedi a chlustogwaith yn drylwyr
  • Selio a sgleinio lloriau
  • Graeanu'r Campysau yn ystod tywydd garw ar y cyd â thimau mewnol ac allanol eraill
  • Glanhau mewn achosion o argyfwng
  • Cyfnewid nwyddau gwyn o fewn y neuaddau preswyl

 

Gweler ein Cytundeb Lefel Gwasanaeth - Gwasanaethau Porthora (Saesneg yn unig)