Amdanom Ni

Gweithrediadau Ariannol - Taliadau

Mae’r tîm Gweithrediadau Ariannol yn gyfrifol am dalu cyflenwyr, costau staff, myfyrwyr, a thaliadau rhyngwladol. Os yw’r anfoneb/costau wedi eu hawdurdodi’n briodol, b ydd y tîm Taliadau Cyflenwyr yn anelu at dalu o fewn i 30 diwrnod o ddyddiad yr anfoneb.

Gwneir yr holl daliadau ar ddydd Maercher a byddant yn cael eu talu i’ch banc (os yn daliad uniongyrchol) ar dydd Gwener yr un wythnos ac mae’r manylion fel a ganlyn:-

  • BACS – anfonir nodyn talu i bawb i gadarnhau’r taliad gyda ebost.
  • Costau – telir bod dydd Mercher gyda BACS.
  • Myfyrwyr a Thaliadau Amrywiol - telir bod dydd Mercher gyda BACS.
  • Taliadau Tramor – prosesir yn wythnosol ar system bancio ar-lein.

 

Gweithrediadau Ariannol - Rheoli Incwm

Mae’r tîm Gweithrediadau Ariannol yn casglu ffioedd a thaliadau myfyrwyr, yn cynnwys tâl ffioedd llety, ffioedd dysgu, ffioedd dysgu o bell; a hefyd bob anfoneb gwerthiant a godir gan y Brifysgol yn cynnwys taliadau canolfan chwaraeon ac unrhyw anfoneb arall a godwyd i’w thalu gan gwsmer allanol neu aelod o’r staff. Rydyn ni wedi datblygu dewisiadau cynllun talu a gynlluniwyd i wneud y brosers o dalu ffioedd mor syml ac mor hyblyg â phosibl ac rydyn ni ar gael i gynnig arweiniad i chi wrth ddewis y dull sydd fwyaf addas i’ch gofynion personol.

Rydyn ni’n ymwybodol y gall myfyrwyr o bryd i’w gilydd wynebu anawsterau ariannol ac rydyn ni’n argymell yn gryf eu bod yn cysylltu â’r Swyddfa Ffioedd i drafod eu pryderon cyn gynyted ag y bo modd.  Mae cysylltu’n gynnar yn aml yn arwain at ffordd o ddatrys y broblem mewn modd sy’n boddhau’r naill barti a’r llall a gallwn eich cyfeirio at wasanaethau cefnogi megis Gwasanaethau Myfyrwyr. 

Nid oes presenoldeb Adran Gyllid ar campws ar hyn o bryd ond mae apwyntiadau cyngor ariannol ar gael i fyfyrwyr ar foreau Mercher rhwng 9:00-12:40, gydag apwyntiadau pan fo angen rhwng 14:00-15:00 yn y swyddfa gyferbyn â phrif dderbynfa Penbryn 

Gall myfyrwyr glicio ar y ddolen hon i archebu eu slot amser dewisol. 

Systemau Cyllid

Dylech gysylltu â Systemau Cyllid os bydd gennych unrhyw broblemau gyda AGRESSO neu ABW megis newidiadau i gôd prosiect, darparu archeb gwaith newydd, newid y  llinell awdurdodi ar gyfer archebion/anfonebau.

Swyddfa Caffael

Swyddogaeth y Swyddfa Caffael yw hyrwyddo caffael effeithlon ac effeithiol fel rhan o gaffaeliad unrhyw nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Rydyn ni’n rhoi cyngor i’r Brifysgol ar bob gofynion caffael ac yn cynnig polisïau a strategaethau ar gyfer eu trosglwyddiad.  Rydyn ni’n gweithio gyda phob adran er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gwerth gorau am arian, drwy ledaenu’r ymarfer gorau, rhoi cyngor ar reolaeth risg addas a sicrhau cydymffurfiad gyda gofynion statudol.  Y swyddfa hefyd yw’r man cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â rheolaeth cardiau pwrcasu.  

Cyfrifon ac Adroddiadau

Rôl y Swyddogaeth Cyfrifo ac Adrodd

Sicrhau bod rheolwyr ar bob lefel yn derbyn gwybodaeth ariannol ddibynadwy ac amserol a chynghorion sy’n eu galluogi i werthfarnu ynglŷn â’r ffordd orau i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddynt.

Sicrhau bod dychwelebau statudol allanol yn cael eu cwblhau mewn modd cywir ac mewn pryd.

Sgôp

  • Cefnogi adrannau drwy’r broses o bennu cyllideb a darparu rhagolygon cyllidol.
  • Darparu cyfrifon rheolaeth a chynorthwyo adrannau i fonitro perfformiad ariannol.
  • Cynhyrchu Datganiadau Cyllidol y Brifysgol, dychweleb TRAC a dychweleb HESA.
  • Darparu’r  Dyraniad Adnoddau ar Lefel y Brifysgol.
  • Datblygu methodolegau costiad safonol a chefnogi adrannau gyda mân gynigion.

(Sylwer bod Ymchwil, Busnes ac Arloesi yn cynorthwyo adrannau gydag ymchwil prisio prosiectau)

Cyfalaf Strategol, Treth a Trysorlys