Rheoliadau a Gweithdrefnau Ariannol

Statws y Rheoliadau Ariannol

Y mae Rheoliadau Ariannol y Brifysgol yn mynegi’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i’r holl drafodion masnachol a ymgymerir gan neu ar ran y Brifysgol. Caiff y Rheoliadau eu cymeradwyo gan y Cyngor ac maent yn orfodol i holl swyddogion a phob aelod o staff y Brifysgol. Y mae’r Rheoliadau Ariannol mewn grym ymhob rhan o’r Brifysgol ac i bob un o is-ymgymeriadau’r Brifysgol. Y mae’r Rheoliadau Ariannol hyn yn ddarostyngedig i Siarter ac Ystatudau’r Brifysgol ac i unrhyw gyfyngiadau a gynhwysir yn y Memorandwm Cyllid gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Chod Ymarfer Archwiliadau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Bydd y Cyfarwyddwr Cyllid yn adolygu’r Rheoliadau Ariannol yn flynyddol a bydd yr holl newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Cyllid a Strategaeth yn ogystal ag i’r Pwyllgor Cyllid ar gyfer eu hanfon ymlaen i ofyn am gymeradwyaeth y Cyngor. Gall diwygiadau gael eu cynnig gan y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth a’u cymeradwyo gan y Cyngor.

Rheoliadau Ariannol - Mehefin 2023 (pdf)

Rheoliadau Ariannol - Mehefin 2023 (docx)

 

Gweithdrefnau Ariannol

Mae'r Llawlyfr Gweithdrefnau Ariannol y Brifysgol yn mynegi’n union sut y caiff y Rheoliadau eu gweithredu ac maent yn atodiad i’r Rheoliadau Ariannol. Nid oes yn rhaid cael cymeradwyaeth ffurfiol Pwyllgor i’r Llawlyfr Gweithdrefnau Ariannol ond os gwneir newidiadau rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan y Dirprwy Is-Ganghellor, Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff, a’r Cyfarwyddwr Cyllid, a’u cyflwyno i Gyfarfod Misol y Weithrediaeth.

Pe digwyddai bod gwrthddweud ymddangosiadol rhwng y Rheoliadau a’r Gweithdrefnau, y Rheoliadau a gaiff flaenoriaeth.

Bydd y Cyfarwyddwr Cyllid yn trefnu i’r Gweithdrefnau Ariannol gael eu hadolygu’n flynyddol ac i’r holl newidiadau arfaethedig gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Cyllid a Strategaeth ar gyfer eu hanfon ymlaen i ofyn am gymeradwyaeth y Cyngor.

Llawlyfr Gweithdrefnau Ariannol