Arolwg Coed

Yn 2016 a 2020 comisiynodd y Brifysgol Wharton Tree and Ecology Consultants i gynnal asesiad cynhwysfawr o’r coed sydd gennym. Aseswyd pob coeden o ran ei chyflwr a’i diogelwch a chofnodwyd bod angen gwaith diogelwch ar nifer o goed ar frys.

Cofnodwyd pob coeden gyda thag adnabod. Mae’r adroddiad yn ddogfen werthfawr ar gyfer rheoli ein coed yn y dyfodol.


O fewn safle cofrestredig Cadw, mae gan Gampws Penglais a thiroedd Y Plas 53 o goed sy’n ‘Bencampwyr Sirol’ ac o’r rhain mae 25 yn ‘Bencampwyr Cymru’.

Y weledigaeth tymor hir yw cadw a rheoli’r adnoddau coed i gyflawni llawer o amcanion. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Annog rhywogaethau coed ymwthiol brodorol mewn rhai ardaloedd o goetir er mwyn datblygu’n goedwig Dderw frodorol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys lleihau rhywogaethau mewnwthiol fel Mieri, Sycamorwydden a Chelyn.
  • Cadw cyfeiriadau hanesyddol a diwylliannol y coed yn yr ardaloedd hanesyddol. Bydd hyn yn cynnwys diogelu llwybrau hanesyddol a chadw sgrinio a fframio golygfeydd coetirol i’r gorllewin ac yn ôl.
  • Cynnal ymylon diogelwch rhesymol i ddefnyddwyr y safle a buddiannau trydydd parti cyfagos a lleihau’r risg o fygythiadau.
  • Cadw a chyfoethogi’r ecoleg leol yn cynnwys rheoli cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau prin neu sydd mewn perygl.
  • Cyfoethogi ymwybyddiaeth ymwelwyr o’r ‘ymdeimlad o le’ unigryw a chadw unrhyw welliannau gweledol i’r coed.
  • Mae cynnal lefelau golau naturiol i adeiladau cyfadrannol yn hollbwysig

Nid oes unrhyw Orchmynion Cadw Coed ar y prif Gampws. Fodd bynnag mae grŵp bach o goed ar Riw Penglais sydd wrthi’n cael eu cadw, a cheir set fach o goed gerllaw Pentre Jane Morgan. Ceir ardal o goetir i’r gorllewin i’r Parc Gwyddoniaeth, lle mae 2.7 ha wedi’u hymgorffori gyda Gorchymyn Cadw Coed.