Mr Darren Prince MSc Addysg (Rhagoriaeth) (Morgannwg), MSc Nyrsio (Caerdydd), TAR (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) (Prifysgol Cymru, Casnewydd), Diploma mewn Nyrsio Iechyd Meddwl (Caerdydd)

Mr Darren Prince

Senior Lecturer in Healthcare Education

Canolfan Addysg Gofal Iechyd

Tutor in Science and Humanities

Dysgu Gydol Oes

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Darren yn ddarlithydd iechyd meddwl ym maes addysg gofal iechyd ac yn arweinydd iechyd meddwl yn ei faes yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd. Yn y gorffennol bu’n rhan o ddatblygu'r cwricwlwm ar raglenni nyrsio cyn cofrestru ac ôl-gofrestru.

Mae Darren yn Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig ers dros ugain mlynedd ac mae'n Diwtor Nyrsys Cofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ers cwblhau ei PGCEd gyda Phrifysgol Cymru, Casnewydd yn 2005. Dyfarnwyd gradd Meistr mewn Nyrsio o Brifysgol Caerdydd iddo ynghyd â gradd Meistr mewn Addysg (Rhagoriaeth) o Brifysgol Morgannwg, lle cwblhaodd brosiect ymchwil ar ddefnyddio technegau efelychu ym maes nyrsio iechyd meddwl cyn cofrestru. Bu hefyd yn cydlynu’r elfen nyrsio iechyd meddwl yn rhan o beilot y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a oedd yn ymchwilio i ddefnyddio technegau efelychu mewn rhaglenni nyrsio cyn-gofrestru. Bu hefyd yn arholwr allanol ar raglenni nyrsio cyn cofrestru ac ôl-gofrestru. Mae'n adolygydd cyfoedion ym maes Ymarfer Nyrsio Iechyd Meddwl.  Mae hefyd yn aelod o Rwydwaith yr EPICC sy'n edrych ar ddatblygu cymhwysedd gofal ysbrydol drwy addysg arloesol a gofal tosturiol. 

Mae gan Darren brofiad o waith nyrsio iechyd meddwl hŷn, yn ogystal â diddordeb penodol yn y pwnc hwnnw, yn enwedig dementia. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil mae dementia a rôl technegau efelychu mewn addysg nyrsio. Mae ganddo brofiad o ddamcaniaeth seiliedig, techneg grŵp enwol a methodolegau ymchwil gwerthuso goleuol.

Gwybodaeth Ychwanegol

FHEA

Ymchwil

Dementia

Technegau efelychu yn rhan o addysg nyrsio

Ysbrydolrwydd mewn gofal nyrsio

Cyfrifoldebau

Tiwtor Personol/Aseswr Academaidd

Cydlynydd Modiwlau 

Arweinydd Maes, Iechyd Meddwl

Darlithydd Cyswllt