Dychwelyd i Ymarfer (Oedolion)

Ydych chi'n ystyried ailgydio yn eich gyrfa nyrsio?

Mae Dychwelyd i Ymarfer (Oedolion) yn rhaglen ran-amser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe fydd yn rhoi profiad dysgu cynhwysol sydd (yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) yn cyflawni Safonau Dychwelyd i Ymarfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth [CN&B] (2019). O’i chwblhau’n llwyddiannus gallwch wneud cais i gael eich derbyn yn ôl ar y gofrestr broffesiynol yn ymarferydd gofal iechyd cofrestredig annibynnol, a bod yn hyderus yn eich gallu i ateb anghenion gofal cyfannol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar gyfer yr amrywiaeth hynod o bobl y byddwch yn eu cyfarfod wrth weithio.

Mae'r rhaglen yn addas hefyd i nyrsys nad ydynt yn gallu cyflawni gofynion y Cyngor N&B am nifer oriau ymarfer ar gyfer ail-ddilysu i aros ar y gofrestr broffesiynol.

Bydd y rhaglen yn dechrau yn Chwefror.

I wneud cais am y cwrs Dychwelyd i Ymarfer (Oedolion), llenwch y Ffurflen Gais Dychwelyd i Ymarfer a’i hanfon yn ôl atom.

Taflen Dychwelyd i Ymarfer

Bras olwg o'r cwrs:

Pam astudio Dychwelyd i Ymarfer ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae hwn yn fodiwl 60 credyd, lefel 6, rhan-amser a’i nod yw darparu'r wybodaeth, yr oriau ymarfer a’r cymwyseddau i gyflawni Safonau Dychwelyd i Ymarfer y Cyngor N&B 2019 a bod yn gymwys i gael eich derbyn yn ôl ar gofrestr y Cyngor. Trwy astudio’r modiwl gallwch adennill hyder a gloywi eich sgiliau a'ch gwybodaeth mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.

Bydd hanfodion ymarfer nyrsio cyfannol yn cael eu hategu gan fodelau ar gyfer darparu gofal nyrsio deinamig, sy'n cael eu llywio gan ofal iechyd seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y tîm Addysg Gofal Iechyd yn eich cynorthwyo i ailddysgu sgiliau a rhinweddau nyrs gofrestredig, a bydd hynny’n eich rhoi mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a lles emosiynol a chorfforol pobl eraill.  Gallwch ddisgwyl cael eich herio, byddwch yn dysgu pethau newydd amdanoch chi'ch hun a chanfod cryfderau mewnol na wyddech oedd gennych. Bydd eich taith yn frith o emosiynau a phrofiadau, ond bydd yn gwbl werth chweil.

Ein Staff

Mae holl ddarlithwyr gofal iechyd y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn ymarferwyr cofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.  Mae gan y tîm ehangder o brofiad ac maent wedi gweithio'n helaeth ar draws amrywiaeth o leoliadau clinigol, ymchwil ac academaidd.  Mae pob un o'n darlithwyr addysg gofal iechyd yn cynnal eu cofrestriad trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus ac mae ganddynt amrywiaeth o gymwysterau ôl-raddedig i adlewyrchu hyn.

Bydd gweithgareddau dysgu ac addysgu yn cael eu cefnogi gan ein Partneriaid Dysgu Ymarfer neu sefydliadau elusennol a gwirfoddol, ac yn bwysicaf oll, gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr o blith y cyhoedd, a fydd yn rhannu eu profiadau personol.  Cleifion a'u teuluoedd sydd wrth galon popeth a wnawn. Dyna pam rydyn ni'n credu bod profiadau sy'n cael eu rhannu yn ffordd bwerus o ddysgu ac ennill dealltwriaeth newydd.

Hefyd, bydd cydweithwyr yn y Brifysgol ehangach, sy'n arbenigwyr amlwg yn eu meysydd, yn darparu arbenigedd addysgu ychwanegol i’r rhaglen nyrsio yn ôl y galw.

Gyrfaoedd

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch yn gymwys i ailymgeisio am statws Nyrs Gofrestredig (maes oedolion) y Cyngor N&B. Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o £27,055, a allai godi'n unol â'r raddfa Agenda Newid Cyflog os byddwch yn dewis dilyn cyfleoedd gyrfa gwahanol. Mae Nyrsys Cofrestredig bellach yn gweithio mewn amrywiaeth o sectorau, a gallwch ddewis symud ymlaen â'ch gyrfa ar nifer o lwybrau.

Cynnwys y Cwrs

Fel myfyriwr Dychwelyd i Ymarfer rhan-amser, byddwch yn cael profiad mewn lleoliadau clinigol dan oruchwyliaeth a dysgu gwybodaeth ddamcaniaethol i sicrhau eich bod yn gymwys i’ch derbyn yn ôl ar gofrestr y Cyngor N&B trwy gyflawni 450 awr o ymarfer.  Os teimlwch fod gennych rai profiadau clinigol eisoes a all gyfrannu tuag at gyflawni gofynion y Cyngor N&B, gellir cytuno ar y rhain yn unigol yn unol â'n prosesau APel/RPL.

Mae'r rhaglen yn cynnwys dau fodiwl craidd, modiwl theori (20 credyd ar lefel 6) a modiwl lleoliad ymarfer (40 credyd ar lefel 6).  Bydd y ddau fodiwl yn cydredeg, a bydd angen cwblhau'r ddau yn llwyddiannus i basio'r rhaglen Dychwelyd i Ymarfer.

Mae'r rhaglen yn para 20 wythnos i gyd, sef 22.5 awr yr wythnos.  Bydd y pythefnos cyntaf yn seiliedig ar theori, i sicrhau eich bod wedi cwblhau'r hyfforddiant sylfaenol sy’n angenrheidiol ar gyfer ymarfer clinigol.  Bydd y 18 wythnos ddilynol yn cynnwys un diwrnod dysgu cyfunol a dau ddiwrnod lleoliad ymarfer yr wythnos.  Bydd eich shifftiau clinigol yn cael eu trefnu’n lleol gyda darparwr eich lleoliad.  Bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i gwrdd â phatrymau shifft, anghenion myfyrwyr ac amgylchiadau personol.  Bydd yr holl oriau ymarfer yn cael eu cofnodi a'u gwirio.

Er bod y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros gyfnod o 20 wythnos, caniateir uchafswm o 27 wythnos i chi gwblhau'r rhaglen gyfan.  Bydd hyn yn caniatáu am unrhyw wyliau a salwch/absenoldebau a gymerir yn ystod y rhaglen.

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mae'r cwricwlwm Dychwelyd i Ymarfer yn gyfoes, a bydd yn diweddaru eich sgiliau rhifedd, llythrennedd, digidol a thechnolegol.  Yn ogystal â hyn, bydd yn cynnwys:

  • Dysgu Gweithredol
  • Ail-ddilysu
  • Myfyrio
  • Paratoi ar gyfer y Goruchwyliwr Ymarfer a’r Asesydd Ymarfer
  • Diogelu
  • Y Gyfraith, Moeseg, Polisi a Llywodraethu
  • Ffarmacoleg
  • Rheoli Meddyginiaethau/SafeMedicate
  • Ymarfer Proffesiynol.

Nod y rhaglen Dychwelyd i Ymarfer yw’r canlynol: 

  1. Gwella eich gwybodaeth a'ch sgiliau i gyrraedd Safonau Dychwelyd i Ymarfer (Cyngor N&B 2019) a bod yn gymwys i gael eich rhoi yn ôl ar gofrestr y Cyngor.
  2. Dangos cwmpas personol eich ymarfer, nodi rhwystrau a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.
  3. Gwerthuso’r fframweithiau cyfreithiol a moesegol sy'n sail i ymarfer clinigol.
  4. Esbonio gweithredoedd ffarmacolegol cyffuriau cyffredin.
  5. Dangos gwybodaeth fanwl sy'n sail i weinyddu meddyginiaethau yn ddiogel a ffactorau sy'n effeithio ar gydymffurfiaeth cleifion.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ddarparu'r rhaglen Dychwelyd i Ymarfer.

Bydd elfen sylweddol o'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddysgu seiliedig ar ymarfer, er mwyn eich rhoi mewn sefyllfaoedd clinigol go iawn lle gallwch ail-hogi eich sgiliau nyrsio mewn amgylchedd dan oruchwyliaeth.  Yn ystod y cyfnod hwn, rhaid i chi gwblhau Dogfen Asesu Dychwelyd i Ymarfer, er mwyn dangos tystiolaeth o'ch cyflawniadau a’ch cymhwysedd o ran dysgu clinigol. Yn y lleoliad ymarfer cewch gymorth gan Oruchwylwyr Ymarfer ac Aseswyr Ymarfer.

Bydd yr elfen ddamcaniaethol yn cael ei chyflwyno trwy fabwysiadu dull dysgu cyfunol.  Mae hyn yn golygu y byddwch yn elwa ar amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu, gan gynnwys darlithoedd arweiniol, gwaith mewn grwpiau bach, astudio hunan-gyfeiriedig, seminarau, a sesiynau sgiliau clinigol.  Mae efelychu wedi'i ymgorffori yn y cwricwlwm, a bydd cyfle i chi ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn amgylchedd diogel, sy'n adlewyrchu profiad y nyrs/claf.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Bydd rhaid i ymgeiswyr:

  • Rhoi tystiolaeth o gofrestriad blaenorol gyda'r Cyngor N&B
    • Rhaid i ymgeiswyr sydd ag amodau ymarfer gan y Cyngor N&B ddarparu llythyr penderfyniad gan y Cyngor
  • Dangos eu bod yn cwrdd â gofynion iaith Saesneg y Cyngor
    • TGAU (neu gymhwyster arall cydnabyddedig) Iaith Saesneg – gradd C/4 neu uwch
      NEU
    • Gallu cadarnhau eu bod yn cyflawni gofynion Saesneg y Cyngor, fel yr amlinellir yma: Gofynion Saesneg - Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Gallu diweddaru sgiliau rhifedd er mwyn cyflawni canlyniadau'r rhaglen
    • TGAU (neu gymhwyster arall cydnabyddedig) Mathemateg – gradd C/4 neu uwch
      NEU
    • Sgiliau rhifedd cyfatebol a enillwyd trwy brofiad ymarferol blaenorol:
  • Cymhwysedd mewn llythrennedd digidol a thechnolegol i gyflawni canlyniadau'r rhaglen

Noder y bydd y gallu mewn rhifedd a llythrennedd digidol a thechnolegol yn cael ei asesu ymhellach yn y digwyddiad dewis ymgeiswyr.

Gofynion Ychwanegol

Yn ogystal â chyflawniadau academaidd, er mwyn cydymffurfio â gofynion proffesiynol, mae'r meini prawf derbyn yn cynnwys hefyd:

  • Asesiad Iechyd Da a Chymeriad Da (gweler gwybodaeth Addasrwydd i Ymarfer isod). Os cewch gynnig lle gyda ni, rhaid i chi gwblhau ffurflen Sgrinio Iechyd Galwedigaethol
  • Gwiriad DBS manylach (gweler gwybodaeth Addasrwydd i Ymarfer isod). Os cewch gynnig lle gyda ni, rhaid i chi gael eich prawf manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Y Drefn Addasrwydd i Ymarfer

Mae gofynion iechyd a chymeriad da, fel y nodir yn neddfwriaeth y Cyngor N&B, yn golygu y gallwch ymarfer yn ddiogel ac effeithiol gydag addasiadau rhesymol neu heb addasiadau rhesymol. Nid yw'n golygu nad oes cyflwr iechyd neu anabledd. Felly, pe bai unrhyw faterion ynghylch eich iechyd a'ch cymeriad yn cael eu nodi trwy ein prosesau sgrinio, neu os yw’r Cyngor N&B wedi gosod amodau ymarfer ar eich cyfer, bydd Asesiad Risg Addasrwydd  i Ymarfer, a weinyddir gan Dîm y Gofrestrfa Academaidd, yn edrych ar bob sefyllfa unigol ac os bydd angen byddant yn cynnull Panel Addasrwydd i Ymarfer. Bydd y Panel yn edrych ar bob sefyllfa unigol ac yn gwneud penderfyniad ynglŷn â'ch addasrwydd i gael eich derbyn ar y rhaglen. Os oes gennych unrhyw bryderon am yr agwedd hon, mae croeso i chi drafod ymhellach â'r Tiwtor Derbyn.

Ar ben hyn, mae’r Panel Addasrwydd  i Ymarfer yn ystyried iechyd a chymeriad y myfyrwyr trwy gydol y rhaglen hefyd, petai unrhyw ddigwyddiad a/neu salwch yn ystod eich hyfforddiant yn effeithio ar eich dysgu a/neu ar leoliadau clinigol. Gallwch gael cymorth a chyngor am eich iechyd a'ch lles trwy’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd ar unrhyw adeg yn ystod y rhaglen.

Dewis Ymgeiswyr

Ar ôl i’ch cais ein cyrraedd, bydd Tiwtoriaid Derbyn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn darllen eich dogfennau i asesu a ydych yn bodloni meini prawf parhaol ein proses dderbyn.  Sylwch fod lleoedd i astudio ar y rhaglen hon yn gystadleuol dros ben, ac os na chewch eich gwahodd i gam nesaf y broses dderbyn ar yr ymgais hon, byddem yn eich annog yn gryf i wneud cais eto yn y dyfodol. 

Bydd y rhestr fer gychwynnol yn seiliedig ar wybodaeth a roddwyd yn eich cais, gan gynnwys eich datganiad personol a'ch geirda.  Os cyflwynir cais heb unrhyw elfen o’r wybodaeth allweddol (e.e. manylion cymwysterau a gyflawnwyd/ar y gweill, datganiadau personol, geirda) ni fydd yn cael ei ystyried ar gyfer y rhestr fer.

Os yw eich cais yn cyflawni cam nesaf y meini prawf derbyn, cewch eich gwahodd am gyfweliad.  Bydd yr holl ymgeiswyr sy'n dod i gyfweliadau yn cael eu hasesu'n unol ag egwyddorion Denu a Dethol Myfyrwyr Cymru Gyfan, ac yn cael eu cefnogi gan staff mewnol Addysg Gofal Iechyd, Partneriaid Dysgu Ymarfer, defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr/aelodau'r cyhoedd, a myfyrwyr.

Noder y bydd cymhwysedd mewn rhifedd a llythrennedd digidol a thechnolegol yn cael ei asesu ymhellach yn y digwyddiad dewis ymgeiswyr.

Sylwch y bydd ein cyfweliadau yn cael eu cynnal yn unol â rheoliadau Covid-19 cyfredol y Brifysgol/Llywodraeth Cymru, ac y gallent efallai fod yn wahanol i'r hyn a amlinellir yma.