Tystysgrif Addysg Uwch: Addysg Gofal Iechyd (Iechyd Meddwl neu Oedolion)

Nod ein Tystysgrif mewn Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yw darparu profiad dysgu cynhwysol sy'n bodloni safonau Addysg y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth [yr NMC] ar gyfer hyfforddiant nyrsio Rhan 1. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr ein Tystysgrif Addysg Uwch yn ymgymryd ag astudiaethau sy'n cyfateb i flwyddyn gyntaf ein rhaglen gradd BSc hyfforddiant nyrsio cyn-gofrestru, dros gyfnod o ddwy flynedd. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn partneriaeth â Phartneriaid Dysgu Ymarfer lleol, a bydd yn galluogi’r myfyrwyr i ddarparu gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i'r bobl y maent yn dod ar eu traws yn eu hymarfer clinigol.

Oherwydd trefniadau cyllido, rhaid i’r myfyrwyr gael eu cyflogi mewn rôl gofal iechyd mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol yn rhanbarth Canolbarth Cymru i fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen.

Ffeithiau allweddol

Hyd y cwrs: 2 flynedd, rhan-amser

120 credyd ar lefel 4

Pam astudio’r cwrs hwn ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Nyrsys cofrestredig a gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â maes iechyd yw ein staff academaidd, ac mae llawer ohonynt hefyd yn glinigwyr sy'n ymarfer, sy’n rhoi cyfuniad eithriadol o sylfaen ddamcaniaethol gadarn, dealltwriaeth broffesiynol a phrofiadau wedi’u seilio ar ymarfer. Mae gennym drefniadau gweithio partneriaethol cryf hefyd gyda Byrddau Iechyd yn yr ardal, sy'n gallu darparu arbenigedd penodol ar gyfer cyfleoedd dysgu pwrpasol a gwneud cyfraniadau arbenigol yn y modiwlau theori.

Datblygir sgiliau clinigol ac academaidd y myfyrwyr o fewn system gref a sefydlog o ddarparu cymorth trwy diwtoriaid personol yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd, sy’n golygu bod myfyrwyr yn gallu datblygu sgiliau megis ysgrifennu academaidd, adfyfyrio, meddwl beirniadol a gwneud penderfyniadau. Ategir hyn gan weithgareddau dysgu eraill y rhaglen, gan gynnwys sesiynau yn yr Uned Sgiliau Clinigol, uned efelychu lle y gall myfyrwyr ddysgu ac ymarfer eu sgiliau clinigol mewn amgylchedd diogel a chefnogol. 

Trefn y Rhaglen

Mae pum modiwl yn cael eu darparu'n rhan-amser dros ddwy flynedd, sy'n debyg i’r dysgu a wneir pan fydd ein myfyrwyr amser-llawn yn cwblhau blwyddyn gyntaf y rhaglen BSc nyrsio cyn-gofrestru.

Yn rhaglen y Dystysgrif Addysg Uwch mae dau fodiwl theori ym mlwyddyn 1, ac un modiwl theori ym mlwyddyn 2. Bydd hefyd un modiwl seiliedig ar ymarfer, a fydd yn cael ei ddarparu ar hyd y ddwy flynedd, a bydd myfyrwyr yn gnweud y modiwl hwn yn eu prif feysydd cyflogaeth.

Mae'r modiwlau theori yn para 7 wythnos ac ym mlwyddyn 1 fe’u darperir yn semestrau 1 a 2 yng nghalendr y Brifysgol, ac ym mlwyddyn 2 fe’u darperir yn semester 1 yn unig. Cewch eich rhyddhau am 15 awr yr wythnos o'ch prif swydd i fynychu’r modiwlau theori. Mae’r rhaglen hefyd yn golygu y bydd angen oriau o ddysgu ar eich liwt eich hun.

Bydd y modiwl sy'n seiliedig ar ymarfer yn rhychwantu pob un o'r tri semester yn y Brifysgol, gan roi digon o amser i’r myfyrwyr i gwblhau pob elfen o’r ddogfen Cymru Gyfan ar gyfer Asesu Ymarfer [PAD] (gan gynnwys yr oriau clinigol). Cyflwynir yr ‘ePAD’ yn semester 2/blwyddyn 2.

Cewch astudio 50% o’ch Tystysgrif Addysg Uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r modiwl a seilir ar ymarfer yn cael ei gefnogi gan Oruchwylwyr Ymarfer ac Aseswyr Ymarfer Cymraeg eu hiaith, a gallwch gwblhau'r Ddogfen Asesu Ymarfer drwy gyfrwng y Gymraeg. Er y bydd y modiwlau theori yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg, gall myfyrwyr gwblhau/cyflwyno'r cydrannau asesu crynodol yn y modiwlau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Modiwlau

Blwyddyn 1

Modiwl 1:         Introduction to Nursing Practice (20 credyd)

Yn cynnwys dau asesiad crynodol (1 arholiad ac 1 aseiniad ysgrifenedig)

Modiwl 2:         Developing Nursing Practice (20 credyd)

Yn cynnwys dau asesiad crynodol (1 arholiad ac 1 aseiniad ysgrifenedig)

Modiwl 3:         Arddangos Ymarfer Nyrsio (modiwl sy’n para ar hyd y flwyddyn i Flwyddyn 2/Modiwl 5)

Bydd y gwaith tuag at gyflawni'r Ddogfen Asesu Ymarfer Cymru Gyfan yn cychwyn yn ystod y Modiwl hwn; er hynny, ni fydd angen cyflwyno'r portffolio tan flwyddyn 2/Modiwl 5

Blwyddyn 2

Modiwl 4:         Developing Knowledge of the Human Body (40 credyd)

Yn cynnwys dau asesiad crynodol (1 arholiad ac 1 aseiniad ysgrifenedig)

Modiwl 5:         Arddangos Ymarfer Nyrsio (60 credyd)

Yn cwblhau’r holl ofynion ar gyfer Rhan 1 o’r ddogfen Asesu Ymarfer Cymru Gyfan.

 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Trwy gydol ein rhaglen Tystysgrif Addysg Uwch, canolbwyntiwn ar gyflwyno theori ac egwyddorion nyrsio i’n myfyrwyr ac ategir hynny gan eu gwaith ym maes ymarfer proffesiynol.  Bydd y modiwlau trawsbynciol, lle mae’r myfyrwyr nyrsio oedolion a’r myfyrwyr iechyd meddwl yn cael eu dysgu gyda'i gilydd, yn canolbwyntio ar ddarparu gofal cyfannol, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn datblygu dealltwriaeth am ddatblygiad dynol, ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd a lles, darparu gwasanaethau, ymarfer nyrsio proffesiynol, anatomeg ddynol, ffisioleg a ffarmacoleg integredig. Bydd y modiwlau theori hefyd yn paratoi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau gofal hanfodol trwy gynnal sesiynau ymarferol yn ein huned amlbroffesiwn sydd â’r offer diweddaraf, yr Uned Sgiliau Clinigol.

Sut y bydda i'n cael fy nysgu?

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu i ddarparu rhaglen y Dystysgrif Addysg Uwch, a bydd ein myfyrwyr yn elwa o’n dulliau cysmysg a hyblyg o ddysgu.

Bydd myfyrwyr yn cael eu rhyddhau am 15 awr yr wythnos o'u prif waith cyflogedig i ymgymryd â’r modiwlau theori a ddarperir dros 7 wythnos. Bydd hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a fydd yn cynnwys, er enghraifft, darlithoedd arweiniol, gwaith grŵp, sefyllfaoedd dychmygol, sesiynau sgiliau clinigol, dysgu ar-lein a sesiynau a recordiwyd ymlaen llaw. Disgwylir i’r myfyrwyr hefyd ymgymryd â 95 awr o astudio ar eu liwt eu hunain i bob modiwl theori 7-wythnos.

Ar ein rhaglen Tystysgrif Addysg Uwch fe fydd dau fodiwl theori yn cael eu darparu ym mlwyddyn 1 ac un modiwl theori ym mlwyddyn 2.

Hefyd wrth barhau i weithio yn eu prif rolau clinigol, bydd rhaid i’r myfyrwyr gwblhau cyfanswm o 800 o oriau clinigol y flwyddyn trwy Fodiwl 3 a 5, sef y modiwlau ar hyd y flwyddyn sy'n seiliedig ar ymarfer, a rhaid iddynt gwblhau'r holl elfennau gofynnol yn Rhan 1 o’u Dogfen Cymru Gyfan ar gyfer Asesu Ymarfer. Er bod y modiwl theori yn gallu dechrau ychydig yn ddiweddarach yn Semester yr hydref, fe all y myfyrwyr ddechrau cronni eu horiau ymarfer clinigol a chyflawni eu cymwyseddau o fis Medi i fis Awst ym mlwyddyn 1, ac wedyn o fis Medi tan ddiwedd Mawrth ym mlwyddyn 2. Bydd y myfyrwyr yn cyflwyno eu Dogfen Asesu Ymarfer tuag adeg y Pasg yn Semester 2 yn yr ail flwyddyn. 

Bydd y myfyrwyr yn cael eu cefnogi a'u hasesu yn ystod eu hymarfer clinigol gan Oruchwylwyr Ymarfer, Aseswyr Ymarfer ac Aseswyr Academaidd penodedig.

Ffioedd a Chyllid

Comisiynir y rhaglen hon gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru [AaGIC], ac o'r herwydd fe delir ffioedd y cwrs ar ran y rhai sy’n llwyddo i gael lle i astudio arno.  Felly, nid oes unrhyw oblygiadau o ran costau i fyfyrwyr unigol na'u cyflogwyr. 

Costau Ychwanegol

Mae'r Brifysgol yn darparu adnoddau addysgol a hamdden a fydd yn eich helpu yn ystod eich astudiaethau, megis cyfleusterau llyfrgell, llyfrau, llwyfannau electronig, cyfrifiaduron ar y safle a mannau astudio, yn rhad ac am ddim. Serch hynny, bydd angen talu costau ychwanegol am rai gwasanaethau ar eich traul eich hun, fel argraffu, deunydd ysgrifenu, ac anoddau chwaraeon. 

Fe'ch cynghorir yn gryf hefyd i ystyried ymuno ag Undeb fel yr RCN neu Unsain i sicrhau indemniad a chefnogaeth broffesiynol yn ystod eich hyfforddiant.

Mae dalgylch ein rhaglen Tystysgrif Addysg Uwch yn cwmpasu ardal y Canolbarth sydd yn fro eithaf gwledig, a bydd disgwyl i chi wneud eich trefniadau eich hun o ran teithio i unrhyw leoliadau allanol ategol. Chi fydd yn talu am deithio i'ch lleoliadau clinigol, gan mai dyna fydd eich prif fan gwaith arferol.

Efallai y bydd rhai agweddau ar eich rhaglen hefyd yn arwain at ryw gostau, er enghraifft, ffioedd cynadleddau, teithiau, ymweliadau addysgol, prosiectau cymunedol ac ati.  Rhoddir gwybod i chi am y rhain cyn gynted â phosib, a byddwn yn ymdrechu i gadw costau ychwanegol mor isel â phosib.

Gyrfaoedd

Bydd y rhaglen hon yn rhoi i’r myfyrwyr y profiad a’r sgiliau, a'r cymhwyster fel y gallant naill ai symud ymlaen i'n rhaglen BSc Nyrsio cyn-gofrestru rhan-amser, gan ddechrau yn Rhan 2 (blwyddyn 2), neu ddatblygu eu rolau clinigol yn y sector gofal iechyd, megis dod yn Ymarferydd Cynorthwyol Band 4.

Gofynion Derbyn

Oherwydd y trefniadau cyllido, rhaid i’r myfyrwyr gael eu cyflogi mewn rôl gofal iechyd mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol yn rhanbarth y Canolbarth er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen.

Mae'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hybu meini prawf derbyn sydd yn gynhwysol; fodd bynnag, anogir ymgeiswyr sy'n ansicr o'u cymwysterau i drafod eu cyflawniadau academaidd a'u profiadau â Thiwtor Derbyn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd (nrsstaff@aber.ac.uk). 

Mae'r meini prawf derbyn yn cynnwys cymwysterau Lefel 3 NEU Achredu Dysgu Profiadol Blaenorol [APEL] (fel y rhestrir isod)

APEL

Gall y rhai heb gymwysterau Lefel 3 ymchwilio i weld a fyddai modd cael eu derbyn i’r rhaglen trwy lwybr APEL.  Trafodwch hyn ymhellach ag Angharad Jones, Cydlynydd y Cynllun (nrsstaff@aber.ac.uk). 

NEU

LEFEL 3 (er enghraifft):

  • 3 Safon Uwch (Lefel A) - BCC/CCC
  • Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru yn lle un o’r Safonau Uwch (yn unol â’r graddau a restrir uchod)
  • Diploma Estynedig BTEC – DMM-MMM
  • Diploma BTEC – D*D-DD
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Teilyngdod cyffredinol
  • Bagloriaeth Ryngwladol – 26-28
  • Bagloriaeth Ewrop – 26%
  • Neu unrhyw gymwysterau cyfatebol eraill.

 

 

 

 

Gofynion Ychwanegol

Er mwyn cydymffurfio â’r gofynion proffesiynol, mae'r meini prawf derbyn yn cynnwys hefyd: 

  • TGAU* (neu gymhwyster arall cydnabyddedig) ar radd C/4 o leiaf mewn:

Saesneg/Cymraeg Iaith a Mathemateg

*Sylwer os nad oes gan ymgeiswyr y cymwysterau hyn, cânt gefnogaeth i’w cyflawni yn ystod y cynllun.

  • Cydymffurfio â’r gofynion hyfforddiant sy’n orfodol yn ôl gyflogwr yr ymgeisydd ac sy'n bodloni gofynion y rhaglen i Ran 1, gan gynnwys:
    • Cymorth Bywyd Sylfaenol
    • Symud a Thrin/Cario
    • Ymddygiad Treisgar ac Ymosodol
    • Hylendid Dwylo
    • Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg
    • Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant
    • Diogelu (Oedolion a Phlant)
    • Atal a Rheoli Heintiau
    • Llywodraethu Data
  • Cais wedi’i wneud am absenoldeb astudio ac wedi’i gymeradwyo, ac wedi cael sêl bendith y Rheolwr Llinell. 
  • Asesiad Iechyd Da a Chymeriad Da (gweler Gwybodaeth isod am Addasrwydd i Ymarfer)
    • Cadarnhad/tystiolaeth o sgrinio Iechyd Galwedigaethol (sy'n ofynnol o fewn swydd yr ymgeisydd/wedi'i gwblhau gan eich cyflogwr), gan ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol i'r Tîm Addysg Gofal Iechyd, a allai fod angen ystyriaeth ar gyfer addasiad rhesymol neu banel Addasrwydd i Ymarfer
    • Cadarnhad/tystiolaeth o gwblhau Sgrinio Datgelu a Gwahardd Uwch (sy'n ofynnol o fewn swydd yr ymgeisydd/wedi’i gwblhau gan eich cyflogwr), gyda'r canlyniadau'n bodloni’r gofynion proffesiynol. Bydd angen darparu gwybodaeth berthnasol i'r Tîm Addysg Gofal Iechyd, a allai olygu bod angen ystyried addasiad rhesymol neu banel Addasrwydd i Ymarfer

Gweler guidance-on-health-and-character-august-2020.pdf (nmc.org.uk) i gael rhagor o wybodaeth.

Addasrwydd i Ymarfer

Mae gofynion o ran iechyd da a chymeriad da, fel y nodir yn neddfwriaeth y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, yn golygu y gallwch ymarfer yn ddiogel ac effeithiol, naill ai gydag addasiadau rhesymol neu hebddynt. Nid yw hynny'n golygu nad oes yr un cyflwr iechyd nag anabledd arnoch. Felly, os bydd unrhyw faterion o ran eich iechyd a'ch cymeriad yn dod i’r amlwg drwy ein prosesau sgrinio, bydd y Panel Addasrwydd i Ymarfer yn ystyried pob sefyllfa unigol ac yn gwneud penderfyniad ynghylch a ydych chi’n gymwys i gael eich derbyn ar y rhaglen. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am hyn, mae croeso i chi drafod hyn ymhellach â'r Tiwtor Derbyn.

Mae'r Panel Addasrwydd i Ymarfer hefyd yn ystyried iechyd a chymeriad y myfyrwyr drwy gydol y rhaglen, rhag ofn y byddai rhywbeth yn digwydd a/neu’ch bod yn cael eich taro’n wael yn ystod eich hyfforddiant mewn modd a fyddai’n effeithio ar eich dysgu a/neu ar leoliadau clinigol. Gallwch gael gafael ar gymorth a chyngor ynghylch eich iechyd a'ch lles drwy’r Gwasnaethau Cymorth i Fyfyrwyr a’r Gwasanaethau Gyrfaoedd ar unrhyw adeg yn ystod y rhaglen.

 

Gwneud cais

Ceisiadau drwy'r GIG/Bwrdd Iechyd

Rydym yn cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys; rhaid i'r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cais am y cwrs hwn ddecrhrau drwy gwneud cais drwy brosesau mewnol y Bwrdd Iechyd am absenoldeb astudio a chael sêl bendith gan reolwyr llinell uwch er mwyn iddynt gael eu cefnogi/rhyddhau i gofrestru ar gyfer y rhaglen hon. Bydd y broses hon yn cynnwys llenwi'r dogfennau cais perthnasol, gan gynnwys ffurflen gais Prifysgol Aberystwyth. Bydd cyfweliad hefyd yn rhan o’r broses.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: 

Allyson Thomas, Meithrin eich Rheolwr eich Hun

Allyson.thomas@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:          

Sue Duff, Hwylusydd Addysg Ymarfer

PowysPEF@wales.nhs.uk

Sarah Le Gat, Hwylusydd Addysg Ymarfer

PowysPEF@wales.nhs.uk

Pob Cais Arall:

Ar gyfer pob cais arall, trafodwch eich cais â'ch cyflogwyr iechyd/gofal cymdeithasol ac yn unol â'u proses absenoldeb astudio, llenwch ffurflen gais Prifysgol Aberystwyth a’i chyflwyno yn unol â'r cyfarwyddiadau ar y ffurflen.

Mae rhai darparwyr Gofal Cymdeithasol, sef Cartrefi Gofal yn ardal ddaearyddol y  Canolbarth yn benodol, yn cael eu cefnogi gan Hwyluswyr Addysg Cartrefi Gofal, gan fod yr ardaloedd hyn yn darparu cyfleoedd am leoliadau i fyfyrwyr nyrsio cyn-gofrestru. Mae cefnogaeth a chyngor ar gael i ddarpar ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Lefel 4 gyda'u ceisiadau drwy gysylltu â'r cydweithwyr isod.

Ardal y Canolbarth:

Sarah Kingdom-Mills, Arweinydd Rhanbarthol Hwyluswyr Addysg Cartrefi Gofal ar gyfer y De-orllewin

Sarah.kingdom-mills@wales.nhs.uk

 

Tystysgrif Addysg Uwch: Addysg Gofal Iechyd Ffurflen Gais Uniongyrchol

Dewis Myfyrwyr

Ar ôl i’ch cais ddod i law, bydd Tiwtoriaid Derbyn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd a’r Adran Derbyn Myfyrwyr yn darllen trwy eich dogfennau a'u gwirio er mwyn cadarnhau’ch bod chi’n bodloni’r meini prawf derbyn er mwyn cael cofrestru ar y rhaglen.  

Os yw’ch prosesau mewnol ar gyfer cael absenoldeb astudio yn cynnwys cyfweliad â’ch cyflogwyr, ni fydd yn ofynnol i chi gael cyfweliad arall â Phrifysgol Aberystwyth.  Ond os nad yw hynny’n digwydd, fe gewch wahodd i ddod i Ddigwyddiad Dewis Myfyrwyr. Gofynnwn i chi ddatgan yn glir ar y ffurflen gais i Brifysgol Aberystwyth a ydych wedi cael cyfweliad yn rhan o ofynion eich cyflogwyr ai peidio. 

Digwyddiad Dewis Myfyrwyr

Bydd Digwyddiadau Dewis Myfyrwyr y Brifysgol yn cael eu cefnogi gan staff mewnol Addysg Gofal Iechyd, a chan Bartneriaid Dysgu Ymarfer, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, aelodau o'r cyhoedd a myfyrwyr. Bydd y digwyddiadau hyn naill ai'n gyfweliadau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein*, a byddant yn canolbwyntio ar werthoedd ac yn cyd-fynd ag Egwyddorion Dewis Myfyrwyr Cymru Gyfan.

Cynigion i Astudio

Ar ôl gwirio'r holl wybodaeth dderbyn ac ar ôl cwblhau’r Digwyddiadau Dewis Myfyrwyr dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth (lle bo’u hangen), byddwn yn cytuno ar ein darpar garfan o fyfyrwyr cyn gynted â phosib, a byddwn yn anelu at roi cynigion i astudio yn fuan wedyn.

Sylwer bod lleoedd i astudio ar y rhaglen hon yn gystadleuol dros ben, ac os na chewch eich gwahodd i gam nesaf y broses dderbyn ar yr ymgais hon, byddem yn eich annog yn gryf i wneud cais eto yn y dyfodol. 

 

Nodyn i Gyflogwyr

Mae dysgu ar sail ymarfer yn cyfrif am 50% o gyfanswm y rhaglen Lefel 4, ac felly mae'n rhaid i fyfyrwyr gael eu cefnogi yn y maes clinigol gan Oruchwylwyr Ymarfer ac Aseswyr Ymarfer. Nyrsys cymwys a chofrestredig yw’r rhain, a chanddynt gofrestriad byw â’r NMC; byddant wedi cael eu paratoi’n addas i ymgymryd â'r rolau hyn, ar ôl dilyn rhaglen hyfforddi SSSA Cymru Gyfan. Os nad oes gan eich maes clinigol unrhyw nyrsys cofrestredig o gwbl, na nyrsys cofrestredig sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant hwn, ond os oes gennych darpar ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y rhaglen Lefel 4, cysylltwch ag Angharad Jones, Cydlynydd y Cynllun (nrsstaff@aber.ac.uk) i drafod ymhellach.