Cyflogadwyedd

Gall Hanes fel pwnc arwain at amrywiaeth eang o yrfaoedd.
Mae graddedigion o’r Adran Hanes a Hanes Cymru er enghraifft wedi cael gwaith fel athrawon, cyfreithwyr, archifwyr, cyhoeddwyr, gwleidyddion a gweision sifil, yn ogystal ag yn y cyfryngau, busnesau mawr, y lluoedd arfog, ac fel entrepreneuriaid.
Y rheswm am hyn yw fod Hanes yn bwnc sy’n eich arfogi â sgiliau i ddarganfod, dadansoddi a dehongli gwybodaeth, ac i gyflwyno eich darganfyddiadau mewn modd clir ac argyhoeddiadol – yn ogystal â darparu cipolwg ar ddynoliaeth tros yr oesoedd.
Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn falch o yrfaoedd eu graddedigion ac yn cynnig arweiniad a chefnogaeth am fywyd wedi’r brifysgol, wedi ei arwain gan gyd-drefnydd cyflogadwyedd academaidd. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gan eich tiwtor personol; sgyrsiau, gweithdai a sesiynau un i un a ddarperir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd; mynediad i fentora gan gyn-fyfyrwyr; a lleoliadau gwaith myfyrwyr mewn sefydliadau treftadaeth.
Darganfod mwy am sut yr ydym yn eich cynorthwyo i adeiladu eich gyrfa:
- Sgiliau Hanes a’r Gweithle
- Lleoliadau Gwaith Myfyrwyr yn y Sector Treftadaeth
- Cyfleoedd Astudio Tramor
- Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) a GO Wales
·