Ymchwil
Mae gwaith ymchwil yr Adran yn canolbwyntio’n bennaf ar bedwar cyfnod cronolegol – Oesoedd Canol, Modern Cynnar, Prydain ac Ewrop Fodern a Chymru Fodern – a thri maes thematig: Hanesyddiaeth, Hanes Technolegol, Gwyddonol a Meddygol, a Hanes y Cyfryngau. At hyn, mae’r adran yn cynnal ei chryfderau traddodiadol mewn hanes crefyddol, gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd, yn eu hystyron ehangaf.
O ran yr agenda ymchwil, nod yr Adran yw:
- Cynhyrchu a lledaenu ymchwil newydd
- Trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau ymchwil i’r holl raddedigion
- Cefnogi a chwilio am gyfleoedd i ddatblygu gweithgareddau cydweithredol, o fewn i’r Adran a chyda phartneriaid mewn prifysgolion yn y DU a thu hwnt
Mewn perthynas â’r amcanion ymchwil eang hyn, mae’r tudalennau a ganlyn yn rhoi enghreifftiau o weithgareddau ymchwil yr adran.
Gellir dod o hyd i waith ymchwil aelodau’r adran ar eu tudalennau personol – Ymchwil Staff
Gellir dod o hyd i waith uwchraddedigion a darpariaeth ar gyfer uwchraddedigion yn Astudiaethau Uwchraddedig Hanes
Mae aelodau’r adran yn dod at ei gilydd i weithio mewn canolfannau:
- Canolfan Hanes y Cyfryngau
- Canolfan Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol Cymru
- Canolfan Ymchwil Hanesyddiaeth a Diwylliant Hanesyddol
Rydym hefyd yn rhedeg prosiectau ymchwil mawr, neu’n cymryd rhan ynddynt. Ceir enghreifftiau cyfrredol ar dudalen Prosiectau Ymchwil yr Adran.